Ffactorau a all effeithio ar eich cais
Mae nifer o ffactorau a all effeithio ar y math o gais cynllunio y byddwch angen ei gyflwyno ac ar lwyddiant eich cais cynllunio.
Bydd pob penderfyniad yn seiliedig ar y polisïau cynllunio lleol. Am ragor o wybodaeth ac i weld y polisïau lleol, ewch i'r adran
polisi cynllunio ar y wefan hon.
Byddwch angen ystyried effaith eich datblygiad ar fywyd gwyllt. Mae llawer o anifeiliaid, planhigion a chynefinoedd wedi eu gwarchod (er enghraifft ystlumod a moch daear). Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y dudalen
bioamrywiaeth a cheisiadau cynllunio neu drwy fynd i wefan y
Porth Cynllunio.
Gyda rhai datblygiadau mae'n bosib fod angen caniatâd rheolaeth adeiladu. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adran
rheolaeth adeiladu ar y wefan hon ac ar wefan y
Porth Cynllunio.
Mae gan y Cyngor ganllawiau i gynorthwyo a chynghori ar ddatblygu arferion dylunio da sy'n gwella ansawdd yr amgylchedd a bywyd trigolion Gwynedd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y
taflenni gwybodaeth ar y wefan hon.
Mae Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd yn gyfrifol am ddiogelwch pawb sy’n byw neu yn gweithio yn yr ardal. Bydd unrhyw ddatblygiad a allai amharu ar ddiogelwch (e.e. llygredd aer / sŵn / llwch) angen ei ystyried gan Swyddog Iechyd yr Amgylchedd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y
Porth Cynllunio.
Mae llawer o goed wedi eu gwarchod gan Orchymyn Diogelu Coed sy’n golygu y byddwch angen caniatâd cyn y gallwch eu torri neu eu tocio. Hefyd, mae angen rhoi gwybod yn ffurfiol i'r Cyngor os ydych eisiau cael gwared ar rai mathau o wrychoedd. Am ragor o wybodaeth edrychwch ar:
Mae’n bosib y bydd eich datblygiad yn cael effaith ar eich cymdogion ac efallai y dylech ystyried hyn wrth wneud eich cynlluniau. Bydd gan eich cymdogion, fel pawb arall, yr hawl i roi sylwadau ffurfiol (manylion i'w gweld o dan y pennawd 'Rhoi sylw ar gais cynllunio') ar eich datblygiad yn ystod y broses ymgynghori. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Porth Cynllunio.
Nid yw rheolau cynllunio yn effeithio ar oleuadau cyffredin y tu mewn i gartref. Mae amodau cynllunio yn rheoli goleuadau y tu mewn a'r tu allan i ddatblygiad - er enghraifft, hysbysebion wedi eu goleuo (mewnol / allanol). Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y
Porth Cynllunio.
Os yw eich datblygiad mewn Ardal Gadwraeth mae'n bosib y bydd cyfyngiadau yn effeithio ar eich cais. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn:
Os yw eich datblygiad yn ymwneud âg adeilad rhestredig, neu os yw'n effeithio mewn unrhyw ffordd ar adeilad o'r fath, bydd cyfyngiadau yn bodoli. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn:
Bydd mynediad i’ch datblygiad yn cael ei ystyried o safbwynt diogelwch ffyrdd fel rhan o’r cais. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan y
Porth Cynllunio neu cysylltwch â Gwasanaeth Trafnidiaeth a Gofal Stryd Cyngor Gwynedd ar 01766 771000.
Bydd cynnydd yn lefel traffig o ganlyniad i ddatblygiad yn cael ei ystyried, yn ogystal ag a yw’n debygol o achosi problemau traffig. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Gwasanaeth Trafnidiaeth a Gofal Stryd Cyngor Gwynedd ar 01766 771000.
Bydd darpariaeth parcio yn cael ei hystyried gyda cheisiadau am ddatblygiadau. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Gwasanaeth Trafnidiaeth a Gofal Stryd Cyngor Gwynedd ar 01766 771000.
Os yw lleoliad eich datblygiad mewn perygl o lifogydd rhaid i'r Cyngor fod yn fodlon bod cyfiawnhad i’r cynnig a bod canlyniadau posib y llifogydd yn dderbyniol. Am ragor o wybodaeth ac i weld os yw eich datblygiad mewn perygl o lifogydd ewch i wefan
Llywodraeth Cymru.
Yn ddibynnol ar yr amodau ynghlwm â’ch perchnogaeth / les i’r eiddo, mae’n bosib y byddwch angen caniatâd rhywun arall cyn gwneud unrhyw waith ar yr eiddo. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan y
Porth Cynllunio.
Mae henebion (
ancient monuments) yn strwythurau o ddiddordeb hanesyddol allweddol a gall eu presenoldeb effeithio ar eich datblygiad arfaethedig. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y dudalen
olion hanesyddol, yng Nghynllun Datblygu Unedol Cyngor Gwynedd neu drwy fynd i wefan
Cadw.
mae'r Cyngor yn ymdrechu i gynyddu'r ddarpariaeth o dai fforddiadwy o fewn cymunedau'r sir. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adran
Tai Fforddiadwy ar y wefan hon.