Bioamrywiaeth a Cheisiadau Cynllunio
Mae ystyriaeth yn cael ei roi i faterion natur, bywyd gwyllt a bioamrywiaeth wrth benderfynu ar gais cynllunio. Gall y Gwasanaeth Cynllunio ofyn am wybodaeth ychwanegol fel arolwg neu asesiad ecolegol. Bydd angen cyflwyno gwybodaeth ecolegol os oes posibilrwydd i ddatblygiad gael effaith ar safle sydd wedi ei warchod, safle bywyd gwyllt neu ar rywogaethau sydd wedi eu gwarchod. Am ragor o wybodaeth ewch i'r ddogfen Gofynion dilysu
Safleoedd sydd wedi eu gwarchod
Mae'r rhain yn safleoedd sydd wedi eu gwarchod drwy gyfraith oherwydd eu gwerth bioamrywiaeth.
Safleoedd bywyd gwyllt a chynefinoedd
Mae Cyngor Gwynedd wedi adnabod safleoedd sydd yn ardaloedd bywyd gwyllt pwysig yn y sir.
Rhywogaethau wedi eu gwarchod
Mae’r rhywogaethau hyn wedi eu gwarchod drwy gyfraith. Mae ystlumod yn enghraifft o rywogaeth sydd wedi ei gwarchod. Wrth gyflwyno ceisiadau cynllunio fel trosi hen adeiladau, lle mae posibilrwydd y gellir effeithio ar ystlumod, rhaid cyflwyno arolwg ystlumod gyda’r cais.
Arolygon
Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw darparu adroddiad arolwg neu asesiad ecolegol ac mae’n rhaid i rhain gael eu gwneud gan arbenigwyr sydd â chymwysterau priodol, e.e. ecolegydd.
Beth fydd yn digwydd os bydd yr arolwg yn dangos bod rhywogaethau wedi eu gwarchod ger y safle?
Os bydd rhywogaethau wedi eu gwarchod yn cael eu canfod, bydd yn rhaid rhoi ystyriaeth i hyn wrth ymdrin â'r cais.
Gall hyn olygu gwneud y gwaith ar adeg penodol o’r flwyddyn neu gynnal a chadw cynefin naturiol ar y safle. Mewn achosion eithriadol efallai y bydd angen adolygu datblygiadau arfaethedig neu gall y cais gael ei wrthod.
Rhagor o wybodaeth a cysylltu â ni:
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth drwy fynd i'r gwefannau canlynol:
neu cysylltwch â ni:
- Ar-lein: Ymholiad cyffredinol am gynllunio
Y tro cyntaf y byddwch yn cysylltu â ni ar-lein bydd angen i chi greu cyfrif. Bydd eich cyfrif yn eich galluogi i anfon ymholiad i ni, cadw golwg ar yr hyn sy'n digwydd i'ch ymholiad a'n galluogi ni i anfon ymateb i chi.
- Ffôn: 01766 771000