Difa pla

Rydym yn cynnig gwasanaeth difa pla i gartrefi a busnesau yng Ngwynedd.
Mae rhagor o fanylion a rhestr lawn o'r plâu rydym yn trin, a'r rhai nad ydym yn eu trin i'w gweld ar waelod y dudalen hon.


Gwneud cais difa pla

  • ffôn: 01766 771000 (08:30 - 17:00, Llun - Gwener)

Byddwn yn ymdrechu i’ch ffonio'n ôl o fewn 2 awr waith i drefnu dyddiad ac amser cyfleus i ymweld. Byddwn yn ceisio ymweld â chi o fewn 3 diwrnod gwaith. Os yw'n fater brys y tu allan i'r oriau uchod cysylltwch â chwmni difa pla preifat.

 

Ffioedd Difa Pla

Tabl Ffioedd Difa Pla
 Pla Domestig (cynnwys TAW)Masnachol (cynnwys TAW) 
 Llygod Mawr  £60.00 £95.00
 Llygod Bach £60.00 £95.00
 Chwilen Ddu  £150.00  £190.00
 Chwilen Wely  £180.00  £220.00
 Chwain  £80.00  £105.00
 Gwenyn Meirch  £65.00  £85.00
 Morgrug  £65.00  £85.00
 Pryfetach Eraill  £65.00  £85.00
 Wiwerod  £165.00  £185.00

Rhagor o wybodaeth:

 

Gofyn cyngor am bla 

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol am wahanol blâu ar waelod y dudalen hon. Os nad ydych yn gallu dod o hyd i ateb i'ch cwestiwn, cysylltwch â ni am gyngor di-dâl:

  • ar-lein: Cyngor am bla
    (y tro cyntaf y byddwch yn cysylltu â ni ar-lein bydd angen i chi greu cyfrif)
  • ffôn: 01766 771000 (08:30 - 17:00, Llun - Gwener)

Ar ôl i ni dderbyn eich ymholiad byddwn yn ymdrechu i’ch ffonio o fewn 2 awr waith i drafod y cam nesaf.


Creaduriaid rydym yn eu trin

Llygoden-fawrMae llygod mawr rhwng 200 a 270mm o hyd, ac mae’r gynffon yn 150-200mm. 

Mae’r blew yn llwydfrown, gyda'r bol yn wyn.

Yn y nos y maent yn dod allan ac fel arfer maent yn nythu'n agos at ddŵr a bwyd. Prif arwyddion pla yw:

  • baw - hirfain, 15-20mm o hyd                                                               
  • olion cnoi ar bacedi bwyd a deunydd adeiladu
  • tyllau tua 80mm o ddiametr yn yr ardd neu mewn lloriau a waliau
  • llwybrau tua 50-70mm o led drwy wellt yn yr ardd 
  • ôl du ar arwynebau y mae'r llygoden wedi rhwbio yn eu herbyn.

Gall llygod mawr drosglwyddo afiechydon fel clefyd Weil a salmonelosis i bobl, a llygru bwyd a chyflenwadau dŵr â heintiau. Gallant hefyd ddifrodi pibellau dŵr, ceblau a strwythur tai drwy gnoi.


Beth mae modd ei wneud?

  • gwella hylendid - cadw bwyd yn ofalus, clirio unrhyw lanast bwyd yn sydyn, symud ysbwriel a glanhau o dan unedau gwaith yn y gegin lle gall bwyd gasglu
  • atal mynediad - gwneud yn siŵr fod brics aer yn eu lle ac yn gyfan, chwilio am dyllau o amgylch pibelli nwy, trydan a dŵr, gwirio bod drysau’n ffitio’n iawn a gosod rhwystrau ar waelodion pibellau draen
  • cadw iardiau a gerddi'n daclus fel nad oes lle iddynt nythu. Peidiwch â rhoi gormod o fwyd i adar ac anifeiliaid eraill. Cadwch wastraff yn rhywle na all llygod mawr ei gyrraedd.

LlygodenMae llygod tŷ rhwng 60 a 90mm o hyd, ac mae’r gynffon yn 100mm. Mae’r ffwr yn frown golau neu’n llwyd ac mae ganddynt glustiau mawr.

Yn y nos y maent yn dod allan. Prif arwyddion pla yw:

  • baw - hirfain, du, 3-6mm o hyd
  • olion cnoi ar bacedi bwyd, ceblau a phibellau dŵr
  • tyllau tua 20-30mm o ddiametr mewn lloriau a waliau
  • ôl du ar arwynebau y mae'r llygoden wedi rhwbio yn eu herbyn.

Gallech weld nyth, sy’n edrych fel pêl o ddeunyddiau fel papur wedi eu gwau gyda’i gilydd yn llac.

Gall llygod drosglwyddo afiechydon fel clefyd Weil a salmonelosis i bobl, a llygru bwyd a chyflenwadau dŵr â heintiau. Gallant hefyd ddifrodi pibellau dŵr, ceblau a strwythur tai drwy gnoi.


Beth mae modd ei wneud?

  • gwella hylendid – cadw bwyd yn ofalus, clirio unrhyw lanast bwyd yn sydyn, symud ysbwriel a glanhau o dan unedau gwaith yn y gegin lle gall bwyd gasglu
  • atal mynediad – gwneud yn siŵr fod brics aer yn eu lle ac yn gyfan, chwilio am dyllau o amgylch pibelli nwy, trydan a dŵr, gwirio bod drysau'n ffitio’n iawn a gosod rhwystrau ar waelodion pibellau draen
  • cadw iardiau a gerddi'n daclus fel nad oes lle iddynt nythu. Peidiwch â rhoi gormod o fwyd i adar ac anifeiliaid eraill.
  • gosod trapiau ger waliau lle mae'r llygod yn rhedeg, gydag abwyd fel siocled neu fisgedi
  • gosod gwenwyn mewn cynwysyddion pwrpasol, allan o afael plant neu anifeiliaid anwes.

Gwenyn-mêlMae gwenyn meirch hyd at 30mm o hyd, gyda dwy lygad siâp aren, dwy aden yn plygu'n ôl ar hyd y corff a phatrwm du a melyn trawiadol.

Maent yn adeiladu nyth newydd bob blwyddyn o gymysgedd o'u poer a phren. Os ydych yn gweld llawer o wenyn yn mynd a dod o un twll, hollt neu agoriad, mae'n debyg fod nyth yno. Mae’r nyth yn edrych fel pêl lwyd, sy’n amrywio o faint pêl golff i faint teiar car.

Does dim rheswm i ladd gwenyn unigol, ond gallant fod yn niwsans os ydynt yn dod i gysylltiad rheolaidd â phobl. Mae gwenyn yn bwydo ar ffrwythau a bwyd melys tua diwedd yr haf.

Mae eu pigiad yn boenus ond ddim yn beryglus, ond os yw'r pigiad yn y gwddf gall y tocsin effeithio ar yr anadl. Mewn rhai achosion gall achosi sioc anaffylactig; ewch at y meddyg os ydych yn amau bod hyn rhywun yn mynd i sioc.


Beth mae modd ei wneud?

Er mwyn osgoi denu gwenyn i’r tŷ:

  • cadwch fagiau a biniau gwastraff i ffwrdd oddi wrth y tŷ
  • seliwch bwyntiau mynediad fel awyrellau a chraciau o amgylch ffenestri a drysau
  • chwiliwch am arwyddion o nyth yn eich croglofft / atig o bryd i’w gilydd drwy’r haf
  • peidiwch â lladd gwenyn meirch unigol – mae hyn yn rhyddhau cemegyn sy’n denu gwenyn eraill

Nid yw bob amser yn rhaid dinistrio nyth gwenyn meirch; gallwch beidio â tharfu arnynt ac ni fyddant yn datblygu’n bla. Cofiwch fod gwenyn meirch yn gwneud lles drwy ladd trychfilod eraill yn yr ardd.

Mae nifer o driniaethau ar gael i ddifa gwenyn meirch. Cyn prynu pryfleiddiad, ystyriwch:

  • ydych chi'n siŵr mai gwenyn meirch yw'r pryfed?
  • oes arnoch chi angen dillad pwrpasol i atal cael eich pigo?
  • sut ydych chi am gyrraedd y nyth?
  • beth fydd effaith cythruddo'r gwenyn os nad yw'r driniaeth yn gweithio?

Chwilen-welyMae chwilod gwely tua maint hadau afal (6mm) ac yn frowngoch, gyda'r chwilod iau bron yn ddi-liw. Mae ganddynt dri phâr o goesau bachog a phâr o deimlyddion. Nid ydynt yn gallu hedfan.

Maent yn bwydo ar waed pobl a rhai anifeiliaid pan fyddant yn cysgu. Bydd y clystyrau brathiadau'n goch, wedi chwyddo ychydig ac yn cosi. Maent yn byw yn agos at eu bwyd - ym mhennau gwelyau ac yn sêms a chorneli matresi.

Gallech weld sbotiau gwaed ar ddillad gwely. Achosir hyn gan y bwydo neu os caiff y trychfil ei wasgu.

Nid ydynt yn peri risg sylweddol i iechyd, ond gallant achosi anemia mewn amgylchiadau prin.


Beth mae modd ei wneud?

Wrth brynu dodrefn ail-law, gwiriwch yn drwyadl rhag ofn fod trychfilod yn y sêms, craciau a chilfachau.

Mae cael gwared ar bla o chwilod gwely'n waith anodd felly mae angen help proffesiynol.

Os yw swyddog yn ymweld er mwyn trin y pla, rhaid i chi wneud hyn cyn yr ymweliad:

  • tynnu blancedi a gobenyddion oddi ar y gwely(au) a’u golchi ar dymheredd uchel neu eu sychlanhau. Peidiwch â’u gadael mewn ystafell neu eiddo arall cyn eu glanhau. Dylech eu cludo mewn bag dan sêl.
  • symud y dodrefn oddi wrth waliau’r ystafelloedd
  • hwfro'r carpedi’n drylwyr. Gwagiwch yr hwfyr i fin y tu allan os oes modd, a chael gwared ar unrhyw fag.
  • golchi dillad, llenni ac unrhyw ddeunydd arall ar dymheredd uchel neu eu sychlanhau
  • gwneud yn siŵr fod modd symud dodrefn o gwmpas ystafelloedd sydd i’w trin.

MorgrugynMorgrug gardd (morgrug duon) sydd i’w gweld mewn tai amlaf. Mae morgrug gardd yn frown tywyll neu'n ddu a tua 5mm o hyd.  Byddant yn dilyn yr un llwybr i mewn i adeilad i chwilio am fwyd. Maent yn hoff o fwyd melys ac i'w gweld amlaf yn y gegin neu mewn storfeydd bwyd.

Nid ydynt yn berygl i iechyd ond gall nifer fawr ohonynt fod yn niwsans.


Beth mae modd ei wneud?

  • gwella hylendid - cadw bwyd yn ofalus, clirio unrhyw lanast bwyd yn sydyn, symud ysbwriel a glanhau o dan unedau gwaith yn y gegin lle gall bwyd gasglu
  • chwythu pryfleiddiad llwch ar yr ardaloedd lle ma'r morgrug i'w gweld, yn enwedig holltau a llefydd gwag
  • chwistrellu pryfleiddiad aerosol ar dyllau a hafnau lle mae'r morgrug yn casglu neu'n teithio ac o gwmpas lle maent yn dod i mewn i'r adeilad. Gellir trin morgrug hedegog ag unrhyw chwistrell rheoli pryfed hedegog arferol.
  • gosod abwyd jel ger llwybrau / holltau lle gwelir y morgrug; bydd y gweithwyr yn ei gario'n ôl i'r nyth ac yn ei rannu â'r morgrug eraill. 

Mae pryfleiddiaid i'w cael mewn canolfannau garddio a siopau nwyddau tŷ.

Chwilen-ddu-ddwyreiniolMae dwy brif rywogaeth o chwilod duon ym Mhrydain:

  • chwilen Almaenaidd - tua 12mm o hyd, melyn-frown
  • chwilen ddwyreiniol - tua 30mm o hyd, brown tywyll.

Mae ganddynt deimlyddion hir yn dod allan o’u pennau a dau bâr o adenydd. Maent i’w cael y tu mewn yn bennaf – mewn selerydd, ceginau, croglofftydd ac ati.
 
Maent i'w gweld amlaf yn rhedeg ar draws lloriau neu i fyny waliau yn y nos, ac yn cysgodi y tu ôl i gypyrddau a ger modur oergelloedd a rhewgelloedd.

Gall y chwilod gario bacteria niweidiol a'u trosglwyddo i arwynebau a bwyd.


Beth mae modd ei wneud?

  • gwella hylendid - cadw bwyd yn ofalus, clirio llanast bwyd yn sydyn, symud ysbwriel a glanhau dan unedau gwaith lle gall bwyd gasglu
  • atal mynediad - llenwi unrhyw dyllau o amgylch pibellau a cheblau, selio drysau a ffenestri, gorchuddio awyrellau, selio mynediad mewnol at ddraeniau â saim
  • defnyddio pryfleiddiad gweddilliol yn ysbeidiol yn yr ardaloedd lle mae'r chwilod yn cysgodi
  • defnyddio chwistrellydd pryfleiddiad yn ysbeidiol yn yr hafnau / tyllau lle mae'r chwilod yn hel. Gall y chwilen ddwyreiniol wrthsefyll chwistrell barathyroid dan rai amgylchiadau.

Pryf-llyfrauMae pryfed llyfrau yn fach, tua 2mm o hyd, yn feddal ac yn amrywio o wyn i ddu yn eu lliw.

Maent yn byw mewn carpedi, dillad, llyfrau a hen ddodrefn ac yn bwyta llwydni sy’n tyfu ar ledr, carpedi, llyfrau, plastr a bwyd mewn llefydd tamp.

Does dim risg i iechyd ond gallant ddifrodi llyfrau a difwyno bwyd.


Beth mae modd ei wneud?

  • lleihau lleithder yn y rhan o’r tŷ lle mae’r pryfed i’w gweld
  • defnyddio pryfleiddiad

Chwilen-bisgediMae’r chwilod hyn fel arfer yn frowngoch a tua 2-3mm o hyd. Mae ganddynt adenydd a theimlyddion.

Maent i’w gweld yn aml ger bwydydd sych - maent yn hoff flawd, bara, bisgedi a grawnfwyd a bwydydd eraill sydd yn dod ar ffurf powdwr. Nid yw chwilod aeddfed yn bwyta.

Mae’r chwilod yn difetha bwyd ac yn medru brathu drwy’r rhan fwyaf o becynnau bwyd plastig.


Beth mae modd ei wneud?

  • gwella hylendid - cadw’r gegin a storfeydd bwyd yn lân
  • defnyddio pryfleiddiad.

Dylid taflu unrhyw fwyd y bu’r chwilen ynddo.

Chwilen-carpedMae’r chwilod hyn fel arfer yn frith - yn gymysgedd o wyn, brown, du a melyn. Mae’r corff yn hirgrwn a tua 2-4mm o hyd. Mae larfa'r chwilen yn frown gyda bandiau gwyn, wedi ei orchuddio â blew ac oddeutu 5mm o hyd.

Bydd chwilod carped yn mynd i mewn i dai i aeafgysgu. Yno maent yn dodwy wyau ar unrhyw ddodrefn neu ddeunyddiau a wnaed o anifeiliaid, fel lledr, gwlân a ffwr.

Bydd y larfa'n difrodi'r deunyddiau y mae'n bwydo arno.


Beth mae modd ei wneud?

  • hwfro'r deunyddiau y mae’r larfa arnynt a’r ardal o gwmpas
  • defnyddio pryfleiddiad.

ChwannenMae chwain yn eu llawn dwf rhwng 1 a 4mm o hyd ac yn frown. Does dim adenydd ganddynt ond gallant neidio'n uchel iawn. Gallech eu gweld yn y tŷ, arnoch eich hun neu ar anifeiliaid. Gall chwain anifeiliaid frathu a sugno gwaed pobl.

Mae’r brathiadau'n edrych fel sbotiau sy’n cosi ac wedi chwyddo, gydag un twll yn y canol. Maent yn ymddangos fesul clwstwr neu linellau o ddau frathiad, a gallant gosi a brifo am wythnosau.

Bydd chwain yn dodwy wyau llwydwyn hirgrwn ar anifeiliaid neu ar ddillad, dillad gwely neu garpedi. Ar ôl i'r wyau ddeor, ceir larfae tebyg i gynrhon.

Os yw anifeiliaid anwes yn crafu mwy nag arfer, archwiliwch nhw am chwain neu sbotiau bach du. Ar bobl, mae brathiadau'n gyffredin ar waelod coesau.


Beth mae modd ei wneud?

Er mwyn osgoi cael pla:

  • archwiliwch eich anifeiliaid a'u gwelyau yn rheolaidd; sicrhewch fod eich anifeiliaid yn cael eu trin am chwain yn aml – trafodwch â’r milfeddyg
  • archwiliwch anifeiliaid strae cyn gadael iddynt ddod i mewn i'r tŷ
  • hwfrwch lefydd byw, dodrefn, a lle mae anifeiliaid yn cysgu yn aml, ac yna cael gwared ar y gwastraff mewn bin y tu allan. Golchwch ddillad gwely a dillad gwely anifeiliaid mewn dŵr poeth yn aml.
  • mae coleri ar gael gan y milfeddyg.

Gall y milfeddyg drin anifeiliaid anwes sydd â chwain drwy eu chwistrellu â phryfleiddiad.

Mae triniaeth safonol broffesiynol fel arfer yn golygu chwistrellu holl loriau'r eiddo (a dodrefn meddal efallai) â phryfleiddiad.

Pryf-clwstwrPryfed clwstwr

  • pryf heidiog melyn (corff melyn â marciau duon)
  • pry’r hydref (abdomen melyn)
  • pryf clwstwr gwyrdd (gwyrdd / glas llachar)
  • pryf clwstwr cyffredin (brown / tywyll gydag abdomen brith)

Mae pryfed clwstwr yn hel mewn adeiladu wrth i’r tywydd oeri, gan heidio mewn toeau a chroglofftydd. Cânt eu denu at olau a ffenestri, a byddant yn dechrau hedfan wrth i’r tywydd gynhesu. Nid ydynt yn peri risg i iechyd.


Gwybed

  • pryfed tai / pryfed bach y tai (magu mewn llysiau sy’n pydru / baw anifeiliaid)
  • pryfed gwyrdd / pryfed glas (magu mewn cig)
  • pryfed ffrwythau (magu mewn llysiau sy’n pydru, llaeth sur, cwrw a finegr)

Bydd gwybed mewn adeiladau yn ystod yr haf yn bennaf. Byddant yn hedfan o gwmpas ffynhonnell o fwyd, lle byddant yn dodwy wyau. Mae potensial iddynt drosglwyddo bacteria / afiechydon i unrhyw arwyneb neu fwyd.


Beth mae modd ei wneud?

Pryfed clwstwr: Er mwyn osgoi cael pla, dylech geisio cau pob twll ger y bondo. Gallwch ddefnyddio pryfleiddiad / stribedi pryfed neu ddefnyddio olew sitronela. Byddwch yn ofalus wrth drin unrhyw bla yn y groglofft – mae’n drosedd tarfu ar ystlumod.

Gwybed: Er mwyn osgoi cael pla, dylech gadw’r gegin yn lân a gorchuddio bwyd. Dylid cadw gwteri gwastraff bwyd / carthffosiaeth yn lân a rhoi baw anifeiliaid mewn bag yn y bin. Mae chwistrelli prifleiddiad a stribedi pryfed ar gael.

Gwyfyn-pryd-IndaiddY gwahaniaeth rhwng gwyfynnod a gloynnod byw yw bod lwmp crwn ar ben antennae gwyfynnod. Maent yn amrywio o wyn i frown i ddu o ran lliw, ac yn cael eu denu at olau trydan. Un o bedair rhywogaeth o wyfynnod sy’n creu problem mewn tai fel arfer – gwyfyn brown y tŷ, gwyfyn dillad cyffredin, gwyfyn pryd Indiaidd a gwyfyn y felin.

Byddant yn bwydo ar rawnfwyd, dillad, lledr a gwlân; bydd y larfa i’w weld ar ochrau carpedi a waliau ac y tu ôl i ddodrefn. Nid ydynt yn peri risg i iechyd ond gallant ddifrodi dillad, carpedi, lledr, ffwr a bwyd.


Beth mae modd ei wneud?

  • gwella hylendid – glanhau carpedi a defnyddiau sydd wedi eu heffeithio yn drylwyr
  • lladd y gwyfynnod – gallwch chwistrellu pryfleiddiad pryfetach hedegog ar wyfynnod, a defnyddio trapiau pwrpasol a golau uwchfioled i’w lladd. Efallai y bydd angen parhau â’r driniaeth am dros bedair wythnos.

GwiwerMae’r wiwer lwyd yn gyffredin iawn. Mae tua 25cm o hyd, gyda chynffon yr un mor hir. Mae’r bol yn wyn; yn y gaeaf mae gweddill y gôt yn llwyd ac mae’n fwy brown yn yr haf.

Rydych yn fwy tebygol o weld gwiwerod yn ystod y dydd. Maent yn llai gweithgar yn y gaeaf ond nid ydynt yn gaeafgysgu. Arwyddion fod gennych wiwerod yw:

  • sŵn rhedeg yn yr atig
  • difrod i offer bwydo adar
  • difrod cnoi ar ymyl y to a gwifrau trydan
  • deunydd inswleiddio wedi ei dynnu’n bentyrrau, efallai i ffurfio nyth.


Beth mae modd ei wneud?

  • atal mynediad – sicrhau bod y bondo wedi ei selio’n iawn; cau tyllau drwy ddefnyddio rhwyd ddur, darn o fetel neu goncrid. Gwnewch yn siŵr nad oes gwiwer yno cyn cau twll.
  • torri canghennau coed sy’n tyfu’n agos at y to – dyma lwybr y wiwer at y tŷ
  • gosod trap cawell – rhaid archwilio’r trap bob dydd a lladd gwiwerod gaiff eu dal mewn modd trugarog, heb achosi llawer o boen nac ofn. Ar ôl dal gwiwer, mae’n anghyfreithlon gadael iddi fynd.
  • defnyddio byrddau bwydo adar sy’n atal gwiwerod.

Gwiddon-llwch-tyMae gwiddon llwch tŷ yn rhy fach i’w gweld â’r llygad noeth. Nid ydynt yn brathu nac yn sugno’r gwaed ond gall rhai pobl fod ag alergedd atynt. Mae symtomau o alergedd yn cynnwys tisian, trwyn yn rhedeg, trwyn yn llawn, llygaid yn ddagreuol ac yn cosi, problemau anadlu, ecsema ac (mewn achosion drwg) asthma.

Gall sylweddau eraill achosi alergedd tebyg felly byddai angen cyngor meddygol er mwyn gallu dweud ai gwiddon llwch tŷ yw’r broblem.


Beth mae modd ei wneud?

  • lleihau lleithder yr aer yn y tŷ drwy ddefnyddio system cyflyru'r aer
  • osgoi cadw anifeiliaid anwes â phlu neu ffwr, neu cadwch nhw i ffwrdd oddi wrth lle rydych yn cysgu
  • golchi dillad gwely’n dda â dŵr cynnes unwaith yr wythnos
  • hwfro carpedi unwaith yr wythnos – neu dewiswch loriau heb garpedi.

 

Creaduriaid byddwn yn trin y pan nad oes dewis arall

Mae 260 o rywogaethau o wenyn ym Mhrydain ac mae eu hedrychiad yn amrywio. Mae'n debyg y byddwch yn gweld dau fath:

  • Cacwn: Cyngor yn unig
  • Gwenyn mêl: Cyngor yn unig


Beth ellir ei wneud?

Er mwyn osgoi denu gwenyn i'r tŷ:

  • Cadw bagiau a biniau gwastraff i ffwrdd o'r adeilad /pwyntiau mynediad
  • selio fel fentiau a chraciau o amgylch ffenestri a drysau
  • chwiliwch am arwyddion o nyth yn eich llofft / atig o dro i dro yn ystod yr haf.

Yn y rhan fwyaf o achosion, nid oes angen dinistrio nythod gwenyn - os nad oes unrhyw darfu arnynt, ni fydd gwenyn yn datblygu i fod yn blâ.

Gallai gwenynwyr lleol fod yn barod i ddod draw a mynd â'r nyth i ffwrdd. Ewch i wefan Cymdeithas Gwenynwyr Cymru:www.wbka.com

 

All Cyngor Gwynedd helpu?

Ni ddylech ddinistrio gwenyn os yn bosibl - maent yn rhan bwysig o ecosystemau lleol.
Gall swyddogion rheoli plâ Cyngor Gwynedd ddod draw i asesu'r broblem a chynnig cyngor am ddim.

 

Creaduriaid nad ydym yn trin

LleuenMae lliw llau pen yn amrywio ac maent yn fach iawn – mae’r rhai ifanc tua maint pen pin ac yn eu llawn dwf maent yn llai na phen matsien. Y prif arwydd fod llau ar ben yw cosi. Y ffordd orau o chwilio am lau yw defnyddio crib mân ar wallt gwlyb unwaith yr wythnos. Gweld llau byw sy’n symud yw’r unig destun pryder.

Mae lliw llau corff yn amrywio o oren i lwydwyn ac maent tua’r un maint â hadyn sesame. Y prif arwydd fod gennych lau corff yw cosi drwg. Mae waethaf fel arfer o gwmpas y canol, yn y ceseiliau, ger strap y bra neu yn unrhyw le lle mae’r dillad yn dynn. Mae chwyddiadau coch yn ymddangos ar y corff. Gall y croen gen y wast neu’r afl fynd yn dewach a cholli’i liw pan fo llau wedi bod yno am amser hir.


Beth mae modd ei wneud?

Does dim modd osgoi cael llau pen. Dydi glendid na hyd gwallt ddim yn gwneud gwahaniaeth. Maent yn symud o ben i ben drwy neidio, felly maent yn fwy cyffredin ymysg plant am eu bod yn dal eu pennau yn agos at ei gilydd yn aml. Does dim pwynt defnyddio sylweddau atal llau cyn i’r llau gyrraedd y pen – gall hynny wneud mwy o ddrwg nag o les.

Mae dau ddewis o ran cael gwared ar lau pen:

  • mae hylifau lladd llau ar gael gan y meddyg neu’r fferyllydd

  • gallwch ddefnyddio crib mân, sydd ar gael o’r fferyllfa, i chwilio am lau a chael gwared ohonynt yn unigol. Bydd angen mynd drwy’r gwallt bob 3 diwrnod am hyd at dair wythnos er mwyn cael gwared ar y llau i gyd.

Gwella hylendid personol yw’r dull gorau o reoli a gwaredu llau corff. Dylid ymolchi’n iawn unwaith y dydd, a newid dillad o leiaf unwaith yr wythnos. Dylid golchi dillad sydd â’r pla ynddynt ar wres uchel iawn a’u sychu yn y peiriant ar wres uchel. Mae berwi’r dillad yn ddewis arall. Mewn rhai achosion, dylid mynd at y meddyg i gael triniaeth â hylif.

LlwynogMae llwynogod tua 1 metr o hyd yn eu llawn dwf; mae ganddynt frest wen a ffwr browngoch, a thrwyn hir main.

Gallech eu clywed yn gwneud sŵn tebyg i fabi’n sgrechian, yn enwedig yn y tymor atgenhedlu, a gallent darfu arnoch drwy daro biniau ac ati wrth chwilio am fwyd.

Byddant yn tyllu daear, gydag o leiaf ddau dwll sylweddol ac amlwg (mae mwy o dyllau gan ddaear mochyn daear). Gall daear dan dŷ danseilio sylfeini ond mae hyn yn anghyffredin. Gallant hefyd geisio lloches dan hen adeiladau a siediau gardd.

Mae aroglau mwsoglyd a chryf trawiadol ar eu baw ac wrin, ac maent yn baeddu a thyllu lawntiau wrth dyllu am bryfetach.


Beth mae modd ei wneud?

  • gwella hylendid - storio gwastraff bwyd y tu allan mewn biniau trwm, cadarn gyda chaeadau

  • atal mynediad - codi cawell o rwyll cryf i warchod ieir ac anifeiliaid anwes, gyda thua 30cm wedi ei gladdu. Dylai cewyll penagored fod o leiaf 2 metr o uchder, gyda 30cm wedi ei ymestyn yn llorweddol.

  • defnyddio cemegau / dyfeisiau sŵn uwchsonig / chwistrellwyr dŵr - dylai'r rhain gadw'r llwynog oddi ar eich tir ond mae eu heffeithiolrwydd yn amrywio.

Chwilio am fwyd hawdd ei gael y mae’r llwynog; bydd yn bwyta unrhyw beth y bydd yn ei ddarganfod. Mae anifeiliaid anwes bychain mewn peryg felly mae’n bwysig eu cadw’n saff, ond dylai cathod a chŵn fod yn iawn.


All Cyngor Gwynedd helpu?

Nid yw'r Cyngor yn difa llwynogod.

Gall swyddogion gynnig cyngor am ddim ar ddulliau o ddelio ag anifail fel hyn.

Mochyn-daearMae moch daear yn eu llawn dwf tua 80cm o'i drwyn i'w gynffon, ac mae'r pen streipiog du a gwyn yn hawdd ei adnabod.

Yn y nos y maent yn dod allan, ac maent yn anodd eu gweld yn y tywyllwch. Nid ydynt yn gwneud sŵn yn aml, heblaw ambell sŵn pleserus a chyfarth weithiau. Mae arwyddion o foch daear yn cynnwys llwybrau, gydag olion troed â 5 bys arnynt, marciau crafangau ar goed, pyllau baw, twmpathau o bridd ger mynedfeydd setiau, olion deunyddiau gwâl, a’r blew gwifrennog.

Gallant faeddu a thyllu lawntiau wrth chwilio am bryfetach a gall moch unigol geisio lloces dan hen adeiladau a siediau gardd. Gallent danseilio sylfeini drwy greu daear dan dŷ, ond mae hyn yn anghyffredin; byddant weithiau'n ceisio torri i mewn i loches anifeiliaid er mwyn eu bwyta.


Beth mae modd ei wneud?

  • gwella hylendid - storio gwastraff bwyd y tu allan mewn biniau trwm, cadarn gyda chaeadau

  • atal mynediad - codi cawell o rwyll cryf i warchod ieir ac anifeiliaid anwes, gyda thua 30cm wedi ei gladdu. Dylai cewyll penagored fod o leiaf 2 metr o uchder, gyda 30cm wedi ei ymestyn yn llorweddol.

Mae Deddf Gwarchod Moch Daear 1992 yn gwarchod moch daear. Mae'n drosedd:

  • lladd, niweidio, cymryd, cadw neu gam-drin mochyn daear

  • difrodi neu ddinistrio daear

  • atal mynediad i ddaear

  • aflonyddu ar fochyn mewn daear

  • erlid mewn ffyrdd eraill.


All Cyngor Gwynedd helpu?

Nid yw'r Cyngor yn difa moch daear - mae'n drosedd gwneud hynny.

Gall swyddogion gynnig cyngor am ddim ar ddulliau o ddelio ag anifail fel hyn.

GwylanMae gwylanod yn adar gweddol fawr - tua 55cm o'u pig i'w cynffon a'u hadenydd yn ymestyn tua 85cm. Mae'r adenydd a'r cefn yn llwyd a'r pen yn wyn. Maent i’w gweld yn aml ynghanol trefi yn chwilio am fwyd.

Maent yn niwsans am eu bod yn cadw sŵn ac yn difrodi adeiladau i greu nythod. Gall nythod fod yn beryglus wrth rwystro ffliwiau bwyleri nwy. Gall eu baw a'u plu dagu gwteri, ac mae'r baw yn cynnwys bacteria sy'n achosi afiechydon mewn pobl. Bydd gwylanod a'u cywion yn ymosod ar bobl ac anifeiliaid sy'n dod yn agos atynt. 


Beth mae modd ei wneud?

  • peidio â bwydo'r gwylanod

  • gosod pigau adar ar doeau fflat a silffoedd gwteri to er mwyn atal yr adar rhag nythu.

  • gosod gwifrau neu rwydi ar doeau i atal y gwylanod rhag glanio.

Yn ddibynnol ar statws y wylan, mae'n bosib y gallwch aflonyddu ar safleoedd nythu, gan gynnwys tynnu nythod ac wyau. Yn gyffredinol, mae'n anghyfreithlon dal, niweidio neu ddifa unrhyw aderyn gwyllt, ac ymyrryd â'r nyth neu'r wyau. Ond mae rhai eithriadau i hyn. Bob blwyddyn mae Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi trwyddedau cyffredinol sy'n dweud pa rywogaethau o adar y gellir eu difa a sut mae gwneud hynny.


All Cyngor Gwynedd helpu?

Nid ydym yn cynnig gwasanaeth difa'r pla hwn.

Gall ein swyddogion gynnig cyngor i chi ar ffyrdd o ddelio ag adar.

Colomennod-gwylltColomennod gwyllt yw’r adar llwyd sy’n gyffredin iawn ynghanol trefi. Maent yn dod yn fwy cyfarwydd oherwydd

  • bod llefydd iddynt nythu mewn adeiladau gwag, pontydd ac adeiladau â diffygion strwythurol

  • bod bwyd ar gael iddynt - pobl yn taflu gwastraff bwyd sydyn yn ddiofal neu'n bwydo'r colomennod.

Gall y colomennod wneud drwg:

  • mae eu baw yn difrodi adeiladau am ei fod yn asidig

  • mae eu baw yn cynnwys bacteria sy'n achosi afiechydon mewn pobl

  • gall baw a phlu dagu gwteri neu wneud llwybrau'n llithrig.


Beth mae modd ei wneud?

Er mwyn rheoli'r pla:

  • bwydwch adar yn gall, gan ddefnyddio byrddau neu declynnau bwydo sy’n hongian ar wifren

  • peidiwch â rhoi bwyd ar y llawr a chliriwch unrhyw fwyd sydd wedi syrthio

  • sicrhewch fod unrhyw fwyd anifeiliaid sy’n cael ei gadw y tu allan yn cael ei gadw mewn cynwysyddion dan sêl

  • sicrhewch fod gwastraff bwyd yn cael ei gadw a’i daflu’n iawn a bod ardaloedd biniau’n cael eu cadw’n lân a thaclus.

Er mwyn cael gwared ar golomennod gwyllt:

  • rhwystrwch unrhyw fylchau y gallai adar fynd trwyddynt i’r to - teils wedi malu ar y to, ffenestri wedi torri neu bwyntio wedi erydu. Gadewch i rywun proffesiynol wneud hyn os yw’n lle uchel.

  • gosodwch bigau adar ar doeau fflat a silffoedd gwteri to er mwyn atal yr adar rhag nythu.


All Cyngor Gwynedd helpu?

Nid ydym yn cynnig gwasanaeth difa’r pla hwn.

Gall ein swyddogion gynnig cyngor i chi ar ffyrdd o ddelio ag adar.

YstlumMae’r ystlumod sydd yn y DU i gyd yn fach; mae ganddynt adenydd o groen a ffwr neu flew drostynt. Mae’r baw yn ddu neu frown, rhwng 4 ac 8mm o hyd ac yn mynd yn bowdr yn hawdd, yn wahanol i faw llygod mawr.

Maent i’w cael mewn tai, eglwysi, ffermydd, ogofâu, ceudyllau a phob math o adeiladau. Maent fel arfer yn cysgu â’u pen i lawr mewn cilfachau.


Beth mae modd ei wneud?

Mae ystlumod yn cael eu gwarchod gan y gyfraith. Mae'n drosedd:

  • dal, niweidio a lladd ystlum

  • tarfu ar grŵp o ystlumod mewn ffordd sy’n debygol o (a) amharu ar eu gallu i oroesi, atgenhedlu, magu rhai bach, gaeafgysgu neu fudo, neu (b) effeithio’n fawr ar bresenoldeb lleol y rhywogaeth

  • difrodi neu ddinistrio mannau lle mae ystlum yn atgenhedlu neu’n gorffwys

  • rhwystro’r ffordd i ystlum gyrraedd ei fan gorffwys. 


All Cyngor Gwynedd helpu?

Nid yw’r Cyngor yn difa ystlumod - mae'n drosedd gwneud hynny.

Am gyngor ynghylch ystlumod, ffoniwch Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod y DU ar 0845 1300 228, Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar 0845 1306 229 neu eich grŵp ystlumod / bywyd gwyllt lleol.

Os ydych yn bwriadu gwneud gwaith adeiladu ar adeilad lle ceir ystlumod, dylech ddweud wrth Adran Gynllunio’r Cyngor.

Gallwn gynnig cyngor am ddim ynghylch y math hwn o bla.

 

Gallwn hefyd gynnig gwasanaeth contractau difa pla ar gyfer busnesau a sefydliadau.