Premiwm Treth Cyngor ar Ail Gartrefi ac Anheddau Gwag Hirdymor (2021)
Mae Adrannau 12A a 12B at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 yn rhoi'r hawl i gynghorau godi Premiwm ychwanegol ar Dreth Cyngor eiddo gwag hirdymor (Adran 12A) ac ail gartrefi (Adran 12B).
Ers 1 Ebrill 2018 mae Cyngor Gwynedd wedi codi Premiwm o 50% ar Dreth Cyngor yr eiddo yma, ond mae'r Cyngor rŵan yn ystyried cynyddu graddfa'r Premiwm i hyd at yr uchafswm a ganiateir dan y gyfraith, sef 100%. Rydym yn ymgynghori er mwyn derbyn barn trethdalwyr Gwynedd, perchnogion tai, ac eraill ar sut y dylai’r Cyngor weithredu’r grym yma.
Ceir manylion cefndirol tu ôl i’r penderfyniad i gynnal yr ymgynghoriad yn yr adroddiad a gyflwynwyd i Gabinet y Cyngor ar 15 Rhagfyr 2020: Gweld Adroddiad Cabinet - Premiwm Treth Cyngor
Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 1 Chwefror 2021.
Mae canlyniadau'r Arolwg hwn ar gael yn y linc isod.
Canlyniadau