Ardal Ni 2035
Mae'r cyfnod ymgynghori wedi dod i ben. Bydd y canlyniadau ar gael cyn bo hir.
- Beth sy’n dda am eich ardal leol?
- Beth sydd ddim mor dda?
- Beth sydd angen newid er mwyn gwneud eich ardal yn lle gwych i fyw ynddo erbyn 2035?
Mae'r Cyngor yn galw ar drigolion y sir - o Ben Llŷn i Benllyn ac o Aberdyfi i Abergwyngregyn – i lenwi holiadur 'Ardal Ni 2035' er mwyn canfod atebion i’r cwestiynau allweddol yma.
Ymarferiad ymgysylltu sy’n canolbwyntio ar gymunedau unigol o fewn y sir yw 'Ardal Ni 2035' sy’n holi barn pobl Gwynedd am ddyfodol eu hardal leol. Gall pobl Gwynedd lenwi’r holiadur:
- ar-lein drwy ymweld â gwefan Dweud eich Dweud Gwynedd a dewis eu cymuned lleol o’r ddewislen:
Dweud Eich Dweud Gwynedd
- drwy geisio copi papur o’r llyfrgell neu Siop Gwynedd lleol;
- drwy ffonio Galw Gwynedd (01766 771 000) i ofyn am gopi papur drwy’r post.
Bydd yr holl ymatebion yn siapio’r gwaith o flaenoriaethu a datblygu 13 cynllun adfywio lleol unigryw ar gyfer cymunedau Gwynedd dros y 15 mlynedd nesaf. Y cam nesaf wedyn fydd cydweithio a chyd-ddatblygu datrysiadau gyda sefydliadau, grwpiau ac unigolion.
Os ydych yn cael trafferth llenwi unrhyw holiadur neu os ydych eisiau unrhyw holiadur mewn iaith neu fformat arall, anfonwch ebost i: EichBarn@gwynedd.llyw.cymru