Canlyniadau Ardal Ni 2035 Bro Ffestiniog
Canlyniadau Cam 1 - Holi barn Cynghorwyr, Cynghorau Cymuned/Tref/Dinas, grwpiau a mudiadau
Fel cam cyntaf i’r gwaith, cynhaliwyd sgyrsiau gyda Chynghorwyr, Cynghorau Cymuned a Thref a grwpiau adfywio lleol.
Fe wnaeth 10 o Gynghorau Cymuned/Tref, mudiadau, grwpiau ac Aelodau lleol yn Fro Ffestiniog gyflwyno eu syniadau ynglŷn â beth ddylai fod yn flaenoriaethau lleol ar gyfer yr ardal yn y cyfnod hyd at 2035. Defnyddiwyd yr ymatebion yma fel sail ar gyfer yr ail-gam o ymgysylltu ehangach gyda’r cyhoedd.
Cliciwch isod i weld adroddiad o'r adborth.
Canlyniadau Cam 1 - Bro Ffestiniog (Ionawr 2022)
Canlyniadau Cam 2 - Holi barn y cyhoedd
Yn dilyn Cam 1, ym mis Chwefror 2022 fe lansiwyd ymarferiad ymgysylltu cyhoeddus ar gyfer pob un o’r 13 ardal/dalgylch, gyda gwahoddiad i bobl leol gyfrannu i’r gwaith o siapio prosiect Ardal Ni 2035 drwy lenwi holiadur syml ar-lein neu ar bapur. Er mwyn annog cymaint o bobl â phosib i gymryd rhan, trefnwyd ymgyrch ymgysylltu cynhwysfawr gan gynnwys cyfres o ymweliadau a chyfarfodydd wyneb yn wyneb.
Bydd yr ymatebion yn helpu i siapio prosiect Ardal Ni 2035 - sef fframwaith Cyngor Gwynedd i adfywio cymunedau lleol - ac yn bwydo i nifer o brosiectau i wella gwasanaethau lleol yn eich ardal.
Cliciwch isod i weld adroddiad o'r adborth.
Canlyniadau Cam 2 - Bro Ffestiniog (Chwefror - Mehefin 2022)
Cliciwch isod i weld fideo fer sy'n cynnwys ystadegau am Fro Ffestiniog.
Gweld map o Fro Ffestiniog