Arolwg Awtistiaeth Gydol Oes Gwynedd
Ar ôl i Llywodraeth Cymru gyhoeddi’r cod ymarfer ar gyfer awtistiaeth Cod Ymarfer ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth (llyw.cymru) mae Cyngor Gwynedd yn awyddus i ymgysylltu ag unigolion awtistig a’u teuluoedd wrth ddatblygu gwasanaethau awtistiaeth ar draws y sir.
Nod yr holiadur yw casglu data am y gwasanaethau sydd yn cael eu darparu yn eich ardal chi ar hyn o bryd.
Os yw mwy nag un aelod o'r teulu efo diagnosis awtistiaeth, er mwyn casglu trosolwg clir a chael gwell dealltwriaeth o brofiadau unigolion ar draws oedrannau, byddai'n ddefnyddiol iawn petaech yn llenwi’r arolwg ar gyfer pob aelod o'r teulu.
Bydd eich ymateb a’ch barn yn gymorth mawr i ni asesu beth sydd yn gweithio yn dda, meysydd i’w gwella, ac unrhyw fylchau sydd angen sylw.
Rhoi eich barn
Mae'r cyfnod ymgynghori wedi dod i ben. Bydd y canlyniadau ar gael cyn bo hir.
Close
Er mwyn derbyn mwy o wybodaeth am unrhyw cymorth awtistiaeth, neu os oes gennych gwestiwn neu sylw am yr arolwg yma, cysylltwch ar
E-bost: Awtistiaeth@gwynedd.llyw.cymru
Rhif ffôn: 01766772570
Cyfnod yr ymgynghoriad: 04.03.24 - 14.04.24