Adolygu Dalgylch Felinwnda
Mae’r ymgynghoriad yma’n gwahodd sylwadau ar yr opsiynau o dan ystyriaeth ar gyfer dyfodol dalgylch presennol Ysgol Felinwnda.
Sylwer –Gwahoddir sylwadau gan yr ymgynghorai a restrir isod yn unig. Ni fyddwn yn derbyn sylwadau gan unigolion sy’n byw y tu allan i ddalgylch presennol Ysgol Felinwnda.
- Holl breswylwyr dalgylch presennol Ysgol Felinwnda,
- Cyrff Llywodraethol Ysgol Llandwrog, Ysgol Bontnewydd, Ysgol Bro Llifon ac Ysgol Rhostryfan
- Cylch Meithrin Dinas a Llanwnda
- Cyngor Cymuned Llanwnda
- Aelod Lleol Ward Llanwnda
- Canolfan Bro Llanwnda, a
- Yr Eglwys yng Nghymru
Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 22 Hydref 2024.