GDMC Caernarfon
Beth yw Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC)?
Mae GDMC yn un o'r pwerau a gyflwynwyd gan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Heddlu 2014. Mae'n rhoi pwerau i'r awdurdodau orfodi cyfyngiadau a gofynion ar unigolion o fewn ardaloedd dynodedig, mae hyn er mwyn mynd i'r afael â niwsans neu broblemau penodol mewn ardaloedd gyda'r nod o wella bywyd ymwelwyr a thrigolion yn yr ardal.
Pam ystyried GDMC?
Yng Nghaernarfon, mae'r penderfyniad i ystyried Gorchymyn Diogelu'r Mannau Cyhoeddus (GDMC) yn ymateb i fathau newydd ac yn gynyddol o ymddygiad gwrthgymdeithasol o fewn yr ardal benodol. Mae data'r heddlu ac adroddiadau tystion wedi amlygu graddfa'r broblem, a'r effaith y mae hyn yn ei chael ar drigolion, busnesau ac ymwelwyr. Cyn ystyried GDMC, rhaid i'r Awdurdod Lleol fod yn fodlon:
- Fod ymddygiad o'r fath mewn gofod cyhoeddus wedi cael, neu'n debygol o gael, effaith niweidiol ar ansawdd bywyd pobl yn y gymdogaeth.
- Bod y gweithgareddau hyn yn, neu'n debygol o fod, yn aml ac o fewn natur barhaus.
- Bod y gweithgareddau hyn yn, neu'n debygol o fod, yn afresymol.
- Eu bod yn cyfiawnhau'r cyfyngiadau a amlinellir.
Beth yw'r cyfyngiadau arfaethedig?
Mae'r cyfyngiadau dan ystyriaeth wedi'u datblygu'n benodol i ddelio â'r mathau o ymddygiad sy'n achosi'r problemau mwyaf difrifol yn yr ardal hon, ac felly maent yn cyfiawnhau eu cynnwys. Rydym yn ystyried y cyfyngiadau canlynol yn briodol, sef:
-
Ni chaiff unigolyn ddilyn dull o ymddygiad sy'n achosi aflonyddu, braw, niwsans, neu drallod.
- Ni chaiff unigolyn yfed alcohol os yw Person Cymeradwy yn gofyn i'r unigolyn stopio yfed.
-
Ni chaiff person loetran mewn cyflwr o feddwdod o ganlyniad i gymryd alcohol neu gyffuriau.
Beth yw ardal y GDMC arfaethedig?
Map Ardal GDMC Caernarfon
Dweud eich dweud
Mae'r cyfnod ymgynghori wedi dod i ben. Bydd y canlyniadau ar gael cyn bo hir.
Close
Beth sy'n digwydd nesaf?
Bydd eich adborth yn cael ei ystyried gan ran swyddogol o'r Cyngor, Grŵp Adolygu o gynghorwyr a swyddogion a fydd yn gwneud argymhellion ar y cynigion a gytunwyd a fydd yn cael eu rhoi mewn GDMC i'w hystyried gan gyfarfod llawn y Cyngor.
Byddwch yn gallu dod o hyd i'r adroddiad llawn ar sail ymgynghori hon ar wefan Diogelwch Cymunedol Cyngor Gwynedd.
Er mwyn derbyn mwy o wybodaeth am unrhyw fater Diogelwch Cymunedol, neu os oes gennych gwestiwn neu sylw am yr arolwg yma, cysylltwch ar
E-bost: DiogelwchCymunedol@gwynedd.llyw.cymru
Rhif ffôn: 01766 771 000
Cyfnod yr ymgynghoriad: 26.02.24 - 07.04.24