Newidiadau posib i'r system bleidleisio ar gyfer ethol Cynghorwyr Sir

Mae Cyngor Gwynedd wedi penderfynu cynnal ymgynghoriad ar newid y system bleidleisio ar gyfer ethol Cynghorwyr. 

Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Adran 5), yn rhoi’r hawl i Gynghorau ddewis rhwng dwy system bleidleisio, sef:  

System Mwyafrif Syml (cyntaf i’r felin), sef y system bresennol, NEU

System Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy (system bleidleisio gyfrannol neuproportional representation’) 

Mae’r ddwy system yn cael eu hegluro isod. 


System Mwyafrif Syml  
 

  1. Mae etholwr yn dewis un ymgeisydd (neu fwy mewn ambell Ward) sydd ar y papur pleidleisio drwy roi croes yn y bocs.
  2. Mae un ymgeisydd (neu fwy mewn ambell Ward) yn cael ei ethol yn Gynghorydd ar gyfer y Ward. 
  3. Yr ymgeisydd sy’n cael y nifer mwyaf o bleidleisiau sy’n cael ei ethol. 
  4. Dyma’r system sy’n cael ei defnyddio ar hyn o bryd ar gyfer etholiadau Cyngor Gwynedd.  

System Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy 

  1. Mae etholwr yn gosod yr ymgeiswyr sydd ar y papur pleidleisio mewn trefn blaenoriaeth, gan ddefnyddio rhifau – eu ffefryn yn rhif 1, y nesaf yn rhif 2 ac yn y blaen. Mae etholwr yn gallu rhoi rhif yn erbyn pob ymgeisydd, ambell un neu un yn unig.
  2. Mae’r system hon yn gweithredu ar sail Wardiau mwy o faint gyda rhwng 3 a 6 Chynghorydd yn cynrychioli pob Ward. 
  3. Mae ymgeiswyr yn cael eu hethol drwy gyrraedd cwota penodol o bleidleisiau sy’n cael ei benderfynu drwy rannu yr holl bleidleisiau yn y Ward gyda nifer y seddi sydd ar gael.  Bydd yr ymgeiswyr sy’n cyrraedd neu’n pasio’r cwota yn cael eu hethol. Os oes seddi ar ôl yn dilyn hyn, mae pleidleisiau dros ben gan yr ymgeiswyr llwyddiannus a phleidleisiau’r ymgeiswyr ar waelod y rhestr canlyniadau yn cael eu hail-ddosbarthu i ymgeiswyr eraill (gan ddefnyddio trefn blaenoriaeth yr etholwr), nes bod yr holl seddi wedi’u llenwi.
  4. Am fwy o wybodaeth gallwch wylio fideo syml sy’n egluro’r broses:

 

Sut mae Cyngor Gwynedd yn mynd i benderfynu beth i’w wneud? 

Os ydy Cyngor Gwynedd eisiau symud i System Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar gyfer Etholiad nesaf Cyngor Gwynedd yn 2027, rhaid penderfynu cyn 15 Tachwedd 2024.  

Bydd y Cyngor Llawn yn gwneud penderfyniad terfynol mewn cyfarfod arbennig ym mis Hydref 2024.  

Cyn penderfynu i gadw’r system bresennol (System Mwyafrif Sengl) neu newid i system newydd (Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy), rydym yn ymgynghori efo etholwyr Gwynedd i weld beth yw eich barn.

 

Sut rydw i’n gallu rhoi fy marn?  

Mae'r cyfnod ymgynghori wedi dod i ben. Bydd y canlyniadau ar gael cyn bo hir. Close

 

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Bydd yr holl ymatebion gan etholwyr Gwynedd yn cael eu dadansoddi, a’r canlyniadau’n cael eu cyflwyno fel rhan o adroddiad i’r Cyngor Llawn ar 24 Hydref 2024, er mwyn helpu’r Cynghorwyr i wneud eu penderfyniad.   

 

Dogfen gefndirol

Cyngor Llawn Rhagfyr 2023, Eitem 11: Dewis ar Fabwysiadu System Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar gyfer Etholiadau Cyngor Gwynedd