Cartref > Trigolion > Dweud eich Dweud > Ymgynghoriadau Byw > Holiadur Maes Parcio Dinas Dinlle

Holiadur Maes Parcio Dinas Dinlle

Yn gynharach eleni, cwblhawyd gwelliannau i faes parcio Dinas Dinlle yn cynnwys ail-wynebu, addasu’r fynedfa, marcio mannau parcio, tirweddu ac uwchraddio cyfleusterau. 

 

Yn ystod cyfnod 16 Awst – 30 o Fedi trefnwyd cyfnod arbrawf drwy godi ffioedd parcio isod rhwng oriau 0900 – 1700 yn ddyddiol: 


Hyd at 1 awr : Am ddim 

Hyd at 2 awr : £2.00 

Hyd at 3 awr : £3.00 

Hyd at 8 awr : £6.00 

Tocyn Tymor : £25.00 

 

Pwrpas yr holiadur yma yw casglu adborth defnyddwyr y maes parcio, trigolion a busnesau lleol ar y cyfnod arbrawf, i’w ystyried wrth lunio trefniadau rheoli’r maes parcio i’r dyfodol. 

 

Map o gynllun y safle 

 

 

Rhoi eich barn 

Holiadur Maes Parcio Dinas Dinlle

 

Gofynnwn i chi gyflwyno eich ymateb erbyn 13 Rhagfyr 2024.

 

Os na allwch roi eich barn ar-lein, gallwch gael copi papur o'r holiadur ac amlen bost am ddim i'w dychwelyd atom: 

  • yn Llyfrgelloedd Caernarfon a Phenygroes
  • yn Siop Gwynedd Caernarfon