Baban wedi marw ar ei enedigaeth
Os yw baban yn cael ei eni wedi mwy na 24 wythnos o feichiogrwydd, ond ddim yn anadlu nac yn arddangos unrhyw arwydd o fywyd, bydd angen ei gofrestru fel baban marw-anedig.
Os yw baban yn cael ei eni, ac yn byw am unrhyw gyfnod o amser, bydd angen cofrestru’r enedigaeth a chofrestru’r farwolaeth.
Am fwy o wybodaeth, edrychwch ar dudalen cofrestru marwolaeth.
I drefnu apwyntiad i gofrestru, ffoniwch 01766 771000.