Cofrestru marwolaeth
Mae’n rhaid i bob marwolaeth gael ei chofrestru yn yr ardal lle digwyddodd y farwolaeth cyn gynted â phosib, ac o fewn 5 diwrnod i’r farwolaeth ar yr hwyraf (oni bai bod y Crwner yn ymchwilio i'r amgylchiadau sy'n ymwneud â'r farwolaeth.)
Mae'r wybodaeth yma yn berthnasol i farwolaethau yng Nghymru neu Loegr. Os ydi'r farwolaeth wedi digwydd y tu allan i Gymru neu Loegr, edrychwch ar dudalen symud corff i / o Gymru neu Loegr.
Pan fo rhywun yn marw, mae angen dweud wrth nifer o sefydliadau gwahanol am hynny. Mae'r gwasanaeth yma yn golygu mai unwaith yn unig y bydd yn rhaid i chi ddweud am farwolaeth rhywun; byddwn ni wedyn yn rhannu'r wybodaeth â'r sefydliadau eraill. Mae'r gwasanaeth yn cael ei gynnig yn Swyddfeydd Cofrestru Caernarfon, Bangor, Pwllheli a Dolgellau yn unig. Rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth
Bydd angen cofrestru'r farwolaeth yn unrhyw un o
swyddfeydd cofrestru Gwynedd drwy wneud apwyntiad o flaen llaw. Bydd y cofrestru’n cymryd tua 30 munud. I drefnu apwyntiad i gofrestru marwolaeth ffoniwch 01766 771000.
Bydd angen cofrestru’r farwolaeth yn yr ardal ble bu'r person farw. Mae posib rhoi datganiad o’r farwolaeth yn un o swyddfeydd cofrestru Gwynedd a bydd y wybodaeth yn cael ei anfon ymlaen i’r swyddfa gofrestru yn yr ardal ble bu'r person farw. Yn yr achos yma, y swyddfa gofrestru lleol i ble bu’r person farw fydd yn cynhyrchu’r dogfennau angenrheidiol, nid Gwynedd. Am ragor o wybodaeth ffoniwch 01766 771000
Bydd angen cofrestru'r farwolaeth yn un o
swyddfeydd cofrestru Gwynedd drwy wneud apwyntiad o flaen llaw. Mae posib rhoi datganiad o’r farwolaeth mewn unrhyw swyddfa gofrestru arall yng Nghymru neu Loegr a bydd y wybodaeth yn cael ei anfon ymlaen i Wynedd. Yn yr achos yma, byddwn gyrru’r dogfennau perthnasol allan unwaith y byddwn wedi derbyn y datganiad gan y swyddfa arall ac wedi gwneud y cofrestru. Am ragor o wybodaeth neu i drefnu apwyntiad i gofrestru marwolaeth ffoniwch 01766 771000.
Os yw baban yn cael ei eni wedi mwy na 24 wythnos o feichiogrwydd, ond ddim yn anadlu nac yn arddangos unrhyw arwydd o fywyd, bydd angen ei gofrestru fel baban marw-anedig.
Os yw baban yn cael ei eni, ac yn byw am unrhyw gyfnod o amser, bydd angen cofrestru’r enedigaeth a chofrestru’r farwolaeth.
Am ragor o wybodaeth, neu i drefnu apwyntiad i gofrestru, ffoniwch 01766 771000.
Gall unrhyw un ffonio i drefnu’r apwyntiad ar gyfer cofrestru marwolaeth, ond mae cyfrifoldeb ar un o’r personau isod i fod yn bresennol yn yr apwyntiad i gofrestru'r farwolaeth (mewn trefn blaenoriaeth).
- Perthynas i’r person sydd wedi marw (perthynas agosaf fel arfer)
- Person a oedd yn bresennol pan ddigwyddodd y farwolaeth
- Perchennog neu reolwr/wraig yr ysbyty neu'r cartref preswyl lle digwyddodd y farwolaeth
- Y sawl sy'n gyfrifol am yr angladd (er enghraifft ffrind neu gyfreithiwr)
Mae enghreifftiau eraill - cysylltwch â ni ar 01766 771000 i drafod os nad ydych yn siŵr pwy ddylai gofrestru'r farwolaeth.
Byddwch angen y dystysgrif farwolaeth feddygol er mwyn cofrestru’r farwolaeth. Byddwch yn derbyn hon gan yr ysbyty neu gan y meddyg a oedd yn trin yr unigolyn fu farw. Bydd hefyd angen yr wybodaeth ganlynol am y sawl sydd wedi marw:
I gofrestru marwolaeth plentyn o dan 16 mlwydd oed:
- enw llawn
- dyddiad geni
- man geni
- cyfeiriad cartref
- manylion am alwedigaeth y ddau riant.
I gofrestru marwolaeth person dros 16 oed mlwydd oed:
- enw llawn
- dyddiad geni
- man geni
- cyfeiriad cartref
- galwedigaeth yr ymadawedig
- os ydi’r cerdyn meddygol ar gael, dewch ag o i’r cofrestru, ond bydd yn bosib cofrestru hebddo
- os oedd yr ymadawedig yn ferch briod neu mewn partneriaeth sifil bydd hefyd angen ei henw morwynol; ac enw llawn, dyddiad geni a galwedigaeth ei phartner.
Os bydd post mortem, disgwyliwch tan mae'r crwner yn dweud wrthych chi cyn ein ffonio. Unwaith mae'r crwner yn hapus i ni gofrestru, bydd yn anfon y dogfennau priodol atom ni.
Bydd yn bosib prynu copïau o'r dystysgrif marwolaeth wrth gofrestru. Cofiwch fod nifer o sefydliadu yn gofyn am gopi o’r dystysgrif pan fyddwch yn cau cyfrifon banc ayyb, felly mae’n bosib y byddwch yn dymuno prynu mwy nag un copi.
- Cost: £12.50 yr un yn ystod y cofrestru.
- Sut mae talu? Gallwch dalu yn ystod yr apwyntiad gydag arian parod, cerdyn debyd / credyd, siec neu archeb bost yn daladwy i ‘Cyngor Gwynedd’.
Gallwch brynu copïau ychwanegol o’r dystysgrif marwolaeth ar unrhyw adeg. I weld prisiau copïau ychwanegol ewch i’r dudalen Prynu copi o dystysgrif marwolaeth ar y wefan hon.
Os ydych yn credu fod camgymeriad ar dystysgrif marwolaeth, cysylltwch â ni drwy ffonio 01766 771000.