Tystysgrif marwolaeth

Mae'n bosib prynu copi o dystysgrif marwolaeth ar gyfer unrhyw un sydd wedi marw yng Ngwynedd ers 1837. Os ydych yn chwilio am dystysgrif hŷn na hyn, cysylltwch ag un o archifdai Gwynedd.

  • Faint mae tystysgrif marwolaeth yn ei gostio? 
    £11.00 am bob copi yn cynnwys postio dosbarth cyntaf. 
  • Sut mae gwneud cais am gopi? 
    Dros y ffôn: 01766 771000 a thalu gyda cherdyn debyd
    Drwy'r post: Lawrlwythwch y ffurflen hon: 
    Prynu copi o dystysgrif marwolaetha'i hanfon wedi ei chwblhau gyda siec/archeb bost yn daladwy i 'Cyngor Gwynedd' i: Cofrestryddion, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
  • Sut a phryd fydda i yn derbyn y dystysgrif? 
    Unwaith y byddwn wedi derbyn eich cais a'ch taliad byddwn yn ymdrechu i anfon y dystysgrif i chi drwy’r post o fewn 10 diwrnod gwaith.  

Os ydych angen y dystysgrif ar frys bydd yn bosib gwneud cais brys. 

Os byddwn yn derbyn y cais cyn 10.30am (Llun i Iau) bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i bostio y dystysgrif gyda post dosbarth cyntaf ar yr un diwrnod. Nid yw'n bosib casglu y dystysgrif o'r Swyddfa ar hyn o bryd.

Cost am gais brys yw £35 am bob copi yn cynnwys postio dosbarth cyntaf

  • Sut mae gwneud cais brys am dystysgrif?
    Ffoniwch 01766 771000 a thalu gyda cherdyn debyd cyn 10:30am (Llun i Iau)

Os ydych yn amau fod camgymeriad ar dystysgrif marwolaeth, ffoniwch 01766 771000. 

Ewch i www.northwalesbmd.org.uk i ymchwilio i hanes eich teulu. Mae'r wefan yn rhoi manylion y mynegai sy'n berthnasol i'r Swyddfeydd Cofrestru. 

 

Mwy o wybodaeth

Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01766 771000.