Archifau a hanes teulu
Archifau a hanes teulu
Mae gan Archifdai Gwynedd ystod eang o ddogfennau, lluniau, mapiau a phapurau newydd.
Chwilio a phori drwy'r catalog archifau ar-lein
Canran yn unig o'r catalogau sydd yma, gellir gweld rhestr o'r casgliadau a gedwir yn yr Archifdai isod.
Gweld rhestr o'r casgliadau sydd ar gael
Archifdy Caernarfon
Dyma'r oriau agor.
Oriau agor archifdy
Diwrnod | Oriau agor |
Dydd Llun |
Ar gau |
Dydd Mawrth |
Ar gau |
Dydd Mercher |
9:30 - 12:30
13:30 - 17:00
|
Dydd Iau |
9:30 - 12:30
13:30 - 17:00
|
Dydd Gwener |
9:30 - 12:30
13:30 - 17:00
|
Archifdy Meirionnydd
Dyma'r oriau agor.
Oriau Agor Meirionnydd
Diwrnod | Oriau agor |
Dydd Llun |
9:30 - 12:30
13:30 - 17:00
|
Dydd Mawrth |
9:30 - 12:30
13:30 - 17:00
|
Dydd Mercher |
Ar Gau |
Dydd Iau |
Ar Gau |
Dydd Gwener |
Ar Gau |
Ymchwil Ar-lein
Os oes gennych ddiddordeb yn hanes lleol Gwynedd, neu eisiau canfod hanes eich teulu mae’r catalog archifau ar-lein yn cynnwys dros 12,000 o dudalennau a 2,000 o ddelweddau.
Chwilio drwy'r catalog ar-lein
Canran yn unig o'r catalogau sydd yma, gellir gweld rhestr o'r casgliadau a gedwir yn yr Archifdai isod.
Gweld rhestr o'r casgliadau sydd ar gael
Os nad ydych yn gallu darganfod yr hyn ydych eisiau cysylltwch â'r Archifdai.
Isod mae canllawiau i gynorthwyo eich ymchwil:
Ymweld â'r Archifdy
Mae modd copïo'r mwyafrif o ddeunydd. Cost llungopi yw 30c y dudalen. Gweler y daflen amodau a phrisiau copïo, a’r ffurflenni isod i wneud cais am gopïau. Nid ydym yn caniatáu defnyddio cyfarpar tynnu lluniau a sganio.
Gwasanaeth ymchwil
Os yw’n amhosib i chwi ddod i’r Archifdy, gallwn gynnig gwasanaeth ymchwil drwy’r post am ffi. Cysylltwch i drafod eich ymchwil drwy unai e-bostio archifau@gwynedd.llyw.cymru neu ffonio Archifdy Caernarfon (01286) 679 095 neu Archifdy Meirionnydd (01341) 424 682.
Gwasanaeth Cadwraeth
Mae’r Uned Gadwraeth yn atgyweirio dogfennau a rhwymo llyfrau i’r Gwasanaeth Archifau yr cyhoedd a sefydliadau amrywiol. Am fwy o wybodaeth e-bostiwch archifdycaernarfon@gwynedd.llyw.cymru neu ffoniwch (01286) 679 095.
Adneuo Casgliadau
Mae llawer o’r cofnodion yr ydym yn gofalu amdanynt wedi eu rhoi i ni neu wedi eu hadneuo gan aelodau’r cyhoedd, busnesau, sefydliadau a chymdeithasau. Os oes gennych chi ddogfennau sy’n ymwneud a phobl neu ardaloedd yng Ngwynedd yr hoffech chi eu diogelu yna gallwch eu hychwanegu at ein casgliadau. Gallwch roi eich dogfennau i ni’n rhodd neu eu hadneuo i ni ar fenthyg.
Gwasanaeth addysg
Gall y Swyddog Addysg ymweld ag ysgol i wneud cyflwyniad yn seiliedig ar ddelweddau amrywiol o gasgliad yr archifdai, yn hen luniau, mapiau, papurau newydd a dogfennau eraill o bob math. Yn ogystal, gellir darparu copïau o ddeunydd o gasgliad yr archifdai i ateb gofynion ysgol unigol.
Mae croeso hefyd i ysgolion ymweld ag archifdai’r sir yng Nghaernarfon a Dolgellau a chael taith dywys o gwmpas.
I drefnu ymweliad i'r Archifyd, i Amgueddfa Lloyd George neu i Amgueddfa Gwynedd, Bangor cysylltwch â'r gwasanaeth addysg:
Cymru a’r Môr
Mae’r Gwasanaeth Archifau yn cyhoeddi Cymru a’r Môr yn flynyddol sef cyfrol sy’n cynnwys erthyglau yn ymwneud a hanes morwrol Cymru.
Polisïau
Mae ein polisiau i'w gweld yma: