Mannau parcio i bobl anabl
Os oes gennych anabledd dwys ac angen sicrhau Man Parcio i Berson Anabl yn agos at neu o flaen eich cartref, mae’n rhaid cwblhau ffurflen cyn gallwn ystyried unrhyw gais. Mae modd derbyn ffurflen gais drwy gysylltu â’r swyddfa isod.
Pan fyddwn yn derbyn eich ffurflen, byddwn yn prosesu'r cais yn ystod cyfarfodydd panel man parcio sy’n cael eu cynnal dwywaith y flwyddyn.
Os yw eich cais yn llwyddiannus byddwn yn cysylltu â chi i drefnu i gyflawni'r gwaith.
Beth yw'r canllawiau ar gyfer caniatáu man parcio i berson anabl?
Dim ond nifer bychan o geisiadau sydd yn llwyddiannus a dim ond achosion mewn mwyaf o angen oherwydd amhariad neu iechyd bregus fydd yn gymwys.
Er mwyn i ni ystyried darparu cyfleuster parcio i berson anabl, mae'n rhaid i'r ymgeisydd fodloni'r meini prawf canlynol:
- Rhaid iddynt fod ag anabledd neu amhariad parhaol sy’n golygu na allwch gerdded fwy na phellter byr iawn heb gymorth. Mae ffurflen ar gael gyda mwy o fanylion am y rhain.
- Gall y Cyngor ofyn am dystiolaeth gan eich meddyg/ymgynghorydd i gadarnhau cyflwr eich iechyd a'r effaith ar eich symudedd
- Rhaid iddynt fod â cherbyd eu hunain ac efo’r gallu i yrru'r car ei hunain
- Rhaid iddynt fod yn gymwys ar gyfer Bathodyn Parcio i Bobl Anabl a bod ag angen cludiant trwy'r amser oherwydd anabledd.
- Rhaid bod yn berchennog ar, neu yn denant tymor hir, yr eiddo sydd yn berthnasol i’r cais ac mae’n rhaid i’r eiddo fod yn brif gartref yr ymgeisydd
- Rhaid bod y man o flaen eiddo'r ymgeisydd yn addas ar gyfer man parcio i berson anabl.
- Ni fydd man parcio yn cael eu hystyried mewn cul de sac neu lefydd tebyg oherwydd tebygrwydd y bydd gwrthwynebiad i’r cais gan drigolion eraill yn yr ardal.
Dalier sylw:
- Mae'r ddarpariaeth o le parcio i bobl anabl yn gofyn am lunio Gorchymyn Rheoliad Traffig sy'n golygu cyfnod hirfaith o i fyny at flwyddyn cyn bydd y man parcio yn gallu cael ei osod.
- Hoffwn eich hysbysu bydd y man parcio arfaethedig ar gyfer person anabl yn rhoi hawl i unrhyw berchennog bathodyn glas i ddefnyddio’r man parcio. Nid yw hi’n bosibl i neilltuo unrhyw ddarn o’r priffordd ar gyfer defnydd un person penodol yn unig.
- Ystyrir man parcio i berson anabl ar yr amod nad oes lle o fewn terfynau yr eiddo ar gyfer cyfleusterau parcio a gall gynnwys rhoi dreif neu garej o fewn y terfynau.
- Os bydd lle o fewn eich eiddo i greu dreif neu garej fe fydd disgwyl i chi ymgymryd â’r gwaith yma yn breifat.
- Heblaw am rhai eithriadau eithafol, mae’n rhaid i’r safle arfaethedig fod o flaen prif fynediad eiddo’r ymgeisydd ac ar dir sydd o dan awdurdodaeth Cyngor Gwynedd. Ni allwn ystyried safleoedd ar dir sydd yn berchen i sefydliadau eraill a/neu ar dir mewn meddiant preifat.
- Ni allwn ystyried lleoli man parcio i’r anabl ar unrhyw briffordd sydd yn dod o dan reolaeth Llywodraeth Cymru, sef yr A5, A470, ac yn y blaen.
Sut mae gwneud cais?
Cysylltwch â ni:
- E-bost: gcgc@gwynedd.llyw.cymru
- Ffôn: (01286) 679549
- Cyfeiriad: Swyddog Gofal Cwsmer, Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Swyddfa’r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH
Beth os yw fy nghais yn cael ei wrthod?
Os byddwn yn gwrthod eich cais fe fyddwch yn derbyn llythyr yn egluro’r rhesymau am wrthod y cais.
Os ydych yn anghytuno a’r penderfyniad dylech ysgrifennu i mewn i’r cyfeiriad isod gyda mwy o wybodaeth yn egluro pam dylech gael eich ail ystyried.
- E-bost: gcgc@gwynedd.llyw.cymru
- Ffôn: 01286 679549
- Cyfeiriad: Swyddog Gofal Cwsmer, Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Swyddfa’r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH
Os gwrthodir eich cais oherwydd rhesymau gwaharddiadau parcio cyfreithiol sydd yn bodoli ar y safle ni fydd yr Uned Trafnidiaeth yn gwrthdroi'r penderfyniad.
Cwynion a sylwadau
Os byddwch yn anhapus gydag unrhyw agwedd o’r gwasanaeth ac eisiau mynd â’r mater ymhellach gallwch gyflwyno cwyn at sylw:
- E-bost: gcgc@gwynedd.llyw.cymru
- Ffôn: (01286) 679549
- Cyfeiriad: Swyddog Gofal Cwsmer, Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Swyddfa’r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH
Yn yr un modd hoffem glywed oddi wrthych os oes gennych sylwadau ynglŷn â’r gwasanaeth. Mae eich sylwadau yn bwysig fel y gallwn fonitro a gwella’r gwasanaeth.
Gellir darparu pob taflen mewn print bras, breil, ar gasét, yn electronig neu mewn unrhyw iaith arall yn ôl y gofyn.