Bathodyn glas
Mae'r Bathodyn Glas yn galluogi unigolion anabl i barcio mewn unrhyw un o'r isod yng Ngwynedd:
- Maes parcio arhosiad hir (trwy'r dydd)
- Maes parcio arhosiad byr (trwy'r dydd)
- Bae parcio ar ochr stryd (trwy'r dydd)
- Stryd gyda llinellau melyn dwbl (am 3 awr, rhaid arddangos eich bathodyn glas gyda'r amser parcio ar y cloc, edrychwch ar Ganllawiau Cenedlaethol Bathodyn Glas ar gyfer telerau ac amodau parcio ar linellau melyn dwbl)
Gallwch wneud cais am Fathodyn Glas ar eich cyfer eich hun, neu gall aelod o'r teulu gyflwyno cais ar eich rhan. Ni fydd cost am y bathodyn.
Gall sefydliad sy'n gofalu am bobl ag anableddau gyflwyno cais hefyd. Bydd ffi o £10 am fathodyn ar gyfer sefydliad.
Mwy o wybodaeth:
Pwy all dderbyn Bathodyn Glas a sut i'w ddefnyddio’n gywir?
Mae angen gwneud cais newydd am Fathodyn Glas bob 3 blynedd. Gallwch gyflwyno cais:
I wneud cais am gopi papur o'r ffurflen ffoniwch: 01766 771000.
Bydd angen cyflwyno dogfennau tystiolaeth penodol gyda'ch cais - mae'r manylion ar y ffurflen gais. Os yw'n gais ar ran sefydliad bydd hefyd angen talu ffi o £10.
Os caiff eich bathodyn ei ddwyn, cysylltwch â'r heddlu er mwyn cael rhif trosedd. Yna cysylltwch â ni i gael bathodyn newydd. Ni fydd ffi i'w dalu am docyn newydd os oes gennych rif trosedd.
Os yw eich bathodyn wedi malu neu wedi ei golli gallwch wneud cais am fathodyn yn ei le. Bydd cost o £10 am fathodyn arall. Cysylltwch â ni:
Os ydych yn symud i Wynedd o sir arall, cysylltwch â'r cyngor a roddodd y bathodyn i chi.
Os oes newid i'ch manylion (er enghraifft, eich cyfeiriad) cysylltwch â ni. Bydd cost o £10 os bydd angen ailosod y bathodyn cyn i'r 3 blynedd ddod i ben.
Mwy o wybodaeth
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni:
Cofiwch: mae'n drosedd camddefnyddio Bathodyn Glas - gallech dderbyn dirwy o hyd at £1000. Gallwch ddod o hyd i ganllawiau sut mae defnyddio'r Bathodyn Glas yn gywir ar wefan Llywodraeth Cymru - Cynllun Bathodyn Glas.
Datganiad Preifatrwydd