Gwybodaeth, adnoddau a grwpiau cefnogaeth
Cefnogaeth i blant a theuluoedd
Mae cyngor Gwynedd yn gweithio mewn partneriaeth a BCUHB er mwyn darparu sesiynau paned a sgwrs i rieni plant gyda anghenion dysgu ychwanegol. Does ddim angen diagnosis er mwyn mynychu y sesiynau. Bydd cyfle i drafod gyda gweithwyr proffesiynol ac i gwrdd a rhieni i rannu profiadau. Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag:
Cefnogaeth bellach i oedolion
Mae’r gwasanaeth integredig awtistiaeth yn darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i oedolion awtistig ac i rieni plant awtistig:
Cefnogaeth gyffredinol
- Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gogledd Cymru: cymorth ac adnoddau i helpu pobl awtistig i ddeall eu diagnosis o awtistiaeth, yn ogystal â chynnal sesiynau galw heibio a chyrsiau hyfforddi i oedolion a gafodd ddiagnosis o awtistiaeth yn ddiweddar.
Byw yn annibynnol
Sensori
Gall prosesu gwybodaeth synhwyraidd bob dydd fod yn anodd i bobl awtistig. Gall unrhyw un o'r synhwyrau fod yn or-sensitif neu'n dansensitif, neu'r ddau. Gall y gwahaniaethau synhwyraidd hyn effeithio ar sut mae person yn teimlo ac yn ymateb, a gall gael effaith ddwys ar fywyd rhywun.
I ddysgu mwy am wahaniaethau sensori, ewch i:
Awtistiaeth a chyfathrebu
Mae llawer o bobl awtistig yn cael anawsterau sy'n gysylltiedig â chyfathrebu cymdeithasol a rhyngweithio cymdeithasol. Mae anawsterau o'r fath yn aml yn deillio o diifyg dealltwriaeth pobl eraill, a diffyg profiad o ran cyfathrebu â phobl awtistig.
Mae mwy o wybodaeth am gyfathrebu a rhyngweithio cymdeithasol ar gael drwy ddilyn y lincs isod:
Cefnogaeth i rieni a gofalwyr
Iechyd meddwl