Help i fyw yn annibynnol
Mae aros yn annibynnol yn flaenoriaeth i nifer ohonom wrth i ni heneiddio, ac mae aros adref yn ein cartref ein hunain a chymdeithasu yn rhan fawr o hynny.
Pa help sydd ar gael i chi?
Defnyddiwch y teclyn hunanasesu ar-lein Helpu'n Hun i ddod o hyd i wybodaeth am offer sydd ar gael i wneud eich bywyd bob dydd yn haws. Mae asesiad Helpu’r Hun yn cynnig cyngor i’ch helpu efo anawsterau yr ydych yn eu wynebu yn:
- Eich cartref – e.e. yr ystafell ymolchi, grisiau, yr ystafell fyw, yr ardd.
- Gweithgareddau bob dydd- e.e. siopa, gwisgo, paratoi bwyd.
- Eich iechyd – e.e. rheoli meddyginiaeth, diogelwch yn y cartref, golwg a chlyw.
Asesiad Helpu’n Hun: Gweld pa help sydd ar gael
Close