Atal Cwympiadau
Wrth i bob un ohonom fynd yn hŷn, mae’r risg o gael anaf difrifol o ganlyniad i gwympo yn cynyddu. Gall hyn fod yn rhwystr i sut mae rhywun yn byw eu bywydau.
Ar y dudalen hon gallwch ddarganfod gwybodaeth o sut i leihau’r risg, cymorth ychwanegol a hefyd cymorth yn dilyn cwymp.
Awgrymiadau defnyddiol
-
Gwisgwch esgidiau/ ‘slipars’ addas sy’n ffitio yn dda
-
Sicrhewch fod digon o olau ar eich grisiau a gosodwch ganllaw grisiau
-
Symudwch unrhyw fatiau rhydd neu sicrhewch bod cefn gwrth-slip arnynt
-
Symudwch ddodrefn i sicrhau nad ydynt ar lwybr cerdded
-
Defnyddiwch fat gwrth-slip mewn bath neu gawod
-
Cadwch offer rydych yn ddefnyddio yn aml o fewn gafael hawdd
-
Sicrhewch bod golau wrth eich gwely i chi fedru rhoi hwnnw ymlaen cyn codi
-
Os ydych yn defnyddio cynorthwyon cerdded sicrhewch bod traed rwber arnynt.
-
Ystyriwch gael larwm Teleofal a all alw am gymorth os ydych yn cwympo. Sicrhewch eich bod yn gwisgo’r larwm trwy’r amser.
Iechyd
-
Sicrhewch brawf llygaid rheolaidd. Os ydych dros 60 mlwydd oed mae modd cael prawf am ddim ar y GIG pob dwy flynedd.
-
Gwiriwch eich pwysau gwaed gyda’r meddyg, yn enwedig os ydych yn cwympo ar ôl codi o’r gwely neu o gadair
-
Os oes gennych broblemau symudedd, ewch i weld meddyg
-
Bwytwch yn iach a chadwch yn heini. Mae mwy o wybodaeth am ddosbarthiadau heini pwrpasol is-law.
Cadw’n heini
Mae sawl gwasanaeth yng Ngwynedd yn cynnig cymorth ataliol neu wedi cwymp. Cymerwch olwg fan hyn ar beth sydd ar gael yn eich ardal chi i’ch helpu.
- Byw’n Iach – Mae holl ganolfannau nofio Byw’n Iach yn rhan o’r cynllun nofio am ddim 60+
- Dementia Actif Gwynedd – Mae'r sesiynau'n gynhwysol i bobl sy'n cael effeithio gan ddementia ac yn agored i oedolion hŷn sydd eisiau gwneud mwy o ymarfer corff i wella eu stamina, cryfder a chydbwysedd, gêm o boccia, a chymdeithasu dros baned.
Cyfarpar, offer a chymorth ychwanegol
- Teleofal - Gwasanaeth monitro sy’n eich galluogi i alw am help ddydd neu nos drwy gyffwrdd botwm, neu drwy gyfres o synwyryddion awtomatig yn eich cartref yw Teleofal. Mae'n ffordd ataliol o gynnig gofal o bell i drigolion, ac mae'n gallu bod o gymorth i leihau risgiau o fewn y cartref ac i alluogi chi fyw bywyd mor annibynnol a phosib.
- Gofal a Thrwsio Gwynedd a Môn - Mae Gofal a Thrwsio yn cynnig gwasanaeth i helpu pobl hŷn Gwynedd a Môn i fyw yn annibynnol adref a hynny trwy wneud asesiad o’r cartref a chynnig cyfarpar lle’n briodol i leihau’r risg o godwm.
- Age Cymru
Mae Age Cymru yn cynnig mwy o wybodaeth er mwyn lleihau’r risg o gwympo.