Helpu'n Hun

Teclyn hunanasesu ar-lein ydi Helpu'n Hun. Gall eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn ag adnoddau sydd ar gael i chi er mwyn gwneud gweithgareddau bob dydd yn eich cartref yn haws.

Mae’r asesiad yn hawdd ac am ddim. Dewiswch y pwnc yr hoffech gael help gydag o, ac yna ateb cwestiynau syml amdanoch eich hun a’ch amgylchedd.  Ar sail eich atebion, bydd Helpu'n Hun yn gallu awgrymu:

  • Syniadau a chyngor am sut i wneud eich bywyd yn haws.
  • Manylion am offer ac adnoddau a allai fod o fudd i chi, a gwybodaeth am lle i ddod o hyd iddynt. 
  • Cysylltiadau am fwy o gyngor a chymorth os oes angen.

Dechrau hunan-asesiad Helpu'n Hun

 

Os byddai’n well gennych i drafod gyda aelod o’r tîm cysylltwch â ni