Mae aelod o staff Dementia Actif Gwynedd yn rhannu mewnwelediad i bwysigrwydd cynnwys mynediad i ddosbarthiadau wyneb yn wyneb ac ar-lein trwy stori swynol:
“Mae mynychu’r dosbarthiadau ar-lein wedi rhoi’r hyder i berson sy’n byw gyda dementia fynychu dosbarth wyneb yn wyneb Arfon. Teimlai na allai bob amser gadw i fyny â chyflymder dosbarth wyneb yn wyneb a pheidiodd â mynychu.Teimlai fod dilyn dosbarth ar-lein arafach yn fwy addas iddi bryd hynny.
Fodd bynnag, erbyn hyn, mae’n adrodd bod mynychu’r dosbarthiadau ar-lein wedi cynyddu ei hyder, ac oherwydd hynny, mae wedi dychwelyd i’r dosbarth wynebyn wyneb yn Arfon y mae’n ei fwynhau, ac yn teimlo y gall gadw i fyny â’r ymarferion yn well. Nawr, mae'r dosbarthiadau byw ar-lein wedi'u canslo am y tro oherwydd capasiti staff - fodd bynnag, ynghyd â'i gŵr, maen nhw'n parhau i wneud y sesiynau ar-lein gartref, trwy ddilyn sesiynau a recordiwyd yn flaenorol.”