Gwynedd Oed Gyfeillgar: Cynllun Gweithredu

Mae ein cynllun gweithredu ar gyfer Gwynedd wedi ei ddatblygu yn dilyn sgyrsiau gyda phobl hŷn a’n partneriaid ar draws Gwynedd. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth a gasglwyd o fforymau, cynadleddau, gweithdai a digwyddiadau a gynhaliwyd dros y blynyddoedd diwethaf i drafod ein datblygiadau oed-gyfeillgar.

Mae hon yn ddogfen a fydd yn cael ei datblygu'n barhaus. Mae’r cynllun gweithredu wedi’i rannu ar sail wyth parth oed-gyfeillgar: tai, trafnidiaeth, cyfranogiad cymdeithasol, mannau ac adeiladau awyr agored, parch a chynhwysiant cymdeithasol, cyfranogiad dinesig a chyflogaeth, cymorth cymunedol a gwasanaethau iechyd, a chyfathrebu a gwybodaeth.

Bydd pob parth yn canolbwyntio ar yr hyn rydym yn ei wybod yn barod, enghreifftiau o arfer da, beth sydd wedi’i glywed, a'r hyn rydyn ni fel partneriaid yng Ngwynedd yn bwriadu ei wneud

 

CYSYLLTU

Cysylltu â ni

Rydym yn awyddus i glywed gennych chi. Ein manylion cyswllt a gwybodaeth am ein partneriaid.

 

 

 

Gweld manylion cyswllt Gwynedd Oed Gyfeillgar 
TAI

 Tai

Mae cael gwahanol fathau o dai a mannau i unigolion fyw yn holl bwysig er mwyn cyfarch anghenion ein poblogaeth. 
Gweld Cynllun Gweithredu Tai
TRAFNIDIAETH

Trafnidiaeth

Gan fod Gwynedd yn sir eang wledig mae trafnidiaeth yn hollbwysig i alluogi unigolion i fedru cymryd rhan mewn cymdeithas, i barhau i weithio, i gael mynediad i wasanaethau iechyd, a llawer mwy.
Gweld Cynllun Gweithredu Trafnidiaeth
(Cymraeg) SOCIAL PARTICIPATION

Cyfranogiad Cymdeithasol

Mae cadw mewn cysylltiad yn hanfodol ac ar draws Gwynedd mae cymunedau yn cynnig gweithgareddau, lleoliadau a digwyddiadau i roi cyfleoedd i unigolion gymryd rhan yn gymdeithasol.
Gweld Cynllun Gweithredu Cyfranogiad Cymdeithasol
(Cymraeg) OUTDOOR SPACES AND BUILDINGS

Mannau awyr agored ac adeiladau

Mae cymunedau'n ffynnu o gael mannau awyr agored ac adeiladau sy'n groesawgar i bawb. Mae cael digon o’r lleoedd hyn y gall pobl o bob oed dreulio amser gyda’i gilydd yn adeiladu ar wydnwch cymunedol.

Gweld Cynllun Gweithredu Mannau Agored
[(Cymraeg) RESPECT AND SOCIAL INCLUSION

Parch a chynhwysiad cymdeithasol

Mae parch at unigolion o bob oed yn bwysig ymhob cymuned ond drwy ddod â phobl o bob oed ynghyd â phrosiectau sy’n pontio’r cenedlaethau gallwn sicrhau ein bod yn dysgu gwahanol genedlaethau am bwysigrwydd parchu ein gilydd.
Gweld Cynllun Gweithredu Parch a chynhwysiad
(Cymraeg) CIVIC PARTICIPATION AND EMPLOYMENT

Cyfranogaiad Dinesig a Chyflogaeth

Mae gan bobl hŷn gyfoeth o wybodaeth a phrofiad nad yw'n cael ei werthfawrogi na'i gydnabod yn ddigonol ac mae’n bwysig i'w gofio. Rydym yn annog pwysigrwydd parhau i weithio a gwirfoddoli os mai dyna yw dymuniad yr unigolyn.
Gweld Cynllun Gweithredu Cyfranogiad Dinesig
(Cymraeg) COMMUNITY SUPPORT

Cefnogaeth Gymunedol a Gwasanaethau Iechyd

Mae Gwynedd yn sir wledig ac felly mae mynediad at wasanaethau iechyd, ar adegau, yn gallu bod yn heriol, ond yn hanfodol. Gall gweithio'n agos mewn cymunedau gefnogi mynediad at wasanaethau iechyd.
Gweld Cynllun Gweithredu Cefnogaeth Gymunedol
(Cymraeg) COMMUNICATION AND INFORMATION

Cyfathrebu a gwybodaeth

Mae nifer cynyddol o bobl hŷn yng Nghymru mewn perygl o gael eu heithrio’n gymdeithasol ac yn cael eu gadael ar ôl wrth i’r defnydd o dechnoleg ddigidol barhau i gynyddu.
Gweld Cynllun Gweithredu Cyfathrebu

 
Lawrlwytho Cynllun Gweithredu Gwynedd Oed Gyfeillgar

Lawrlwytho Asesiad Sylfaenol Gwynedd Oed Gyfeillgar