Mannau awyr agored ac adeiladau: Cynllun Gweithredu Oed Gyfeillgar

Mae cymunedau'n ffynnu o gael mannau awyr agored ac adeiladau sy'n groesawgar i bawb. O hybiau cymunedol i erddi cymunedol i feinciau cyfeillgarwch mae sawl gwahanol beth o fewn cymuned a all gynnig hyn. Mae cael digon o’r lleoedd hyn y gall pobl o bob oed dreulio amser gyda’i gilydd yn adeiladu ar wydnwch cymunedol.

Mae partneriaid oed-gyfeillgar yn cynnig cyfleoedd amrywiol o dan y parth hwn a byddant yn parhau i gydweithio i ddatblygu cyfleoedd ac edrych ar ganfyddiadau Ardal Ni 2035 i lenwi’r bylchau

 

Ein Cynllun Gweithredu

  • Mae hybiau cymunedol ar draws Gwynedd yn cael eu datblygu gyda deg wedi agor yn barod a thri arall yn y broses ddatblygol/sgyrsiau cychwynnol. Mae’r rhain yn cynnwys adeiladau cymunedol sy’n cynnig gwahanol fathau o gymorth a chefnogaeth i’w cymunedau lleol yn ogystal â rhai mannau awyr agored.
  • Mae bwriad i ddatblygu gofodau cymunedol o fewn ysgolion Gwynedd lle byddant nid yn unig yn pontio’r ysgol leol gyda’r gymuned ond hefyd yn gaffaeliad mawr i gymunedau.
  • Mae Cyngor Gwynedd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gweithio’n barhaus i wneud mwy o lwybrau cerdded ar draws Gwynedd yn hygyrch a diogel.
  • Mae gan Antur Waunfawr brosiect o’r enw Beics Antur sy’n cynnig beiciau i’w llogi er mwyn i bawb fwynhau byd natur eu ardaloedd lleol ar gefn beic. Mae'r cynllun hwn yn cynnig llogi beic am ddim i bobl dros 65 oed. Mae eu casgliad o feiciau yn cynnwys e-feiciau, ochr yn ochr, tuk-tuks, treiciau, a beic sy'n addas ar gyfer defnyddiwr cadair olwyn. Mae Antur Waunfawr yn edrych i gynyddu eu darpariaeth presennol gyda Beics Antur.
  • Mae Adra, Grŵp Cynefin, a Chymdeithas Tai Gogledd Cymru i gyd yn datblygu’r gallu i’w mannau cymunedol yn eu lleoliadau tai gofal ychwanegol gael defnydd gan y gymuned ehangach.
  • Mae Antur Aelhaearn wedi prynu hen adeilad toiled cyhoeddus ac yn gobeithio ail-agor y toiled fel un fydd yn cael ei redeg gan y gymuned. Maent hefyd yn gobeithio agor campfa gymunedol drwy weithio gyda phartneriaid Gwynedd oed-gyfeillgar. 
  • Mae gan Y Dref Werdd brosiect Presgripsiwn Gwyrdd - maent yn rhannu’r canfyddiadau gyda partneriaid a llawer yn awyddus i ddysgu o’r prosiect.

 

Atudiaethau Achos

Gan weithio gyda sawl partner, grwpiau, ac artistiaid lleol ar draws Gwynedd rydym wedi adeiladu a phaentio dros 20 o Feinciau Cyfeillgarwch. Crëwyd pob Mainc Gyfeillgarwch trwy weithio gyda grwpiau lleol a oedd yn cynnwys pobl o bob oed ac artist lleol. Ysbrydolwyd y gwaith celf ar bob mainc gan hanes lleol a’r hyn oedd yn bwysig i’r grwpiau lleol a gyfrannodd at y grwpiau ffocws ym mhob lleoliad. Daeth y meinciau â phobl at ei gilydd o fewn y gweithdai i ddylunio’r meinciau ac yna yn leoliad i annog sgwrs yn lleol.

Ar draws Gwynedd mae deg hwb cymunedol wedi’i sefydlu a phob un yn cynnig rhywbeth ychydig yn wahanol. Un o’r hybiau cymunedol yw Porthi Dre sydd wedi’i leoli yng Nghaernarfon.

Mae Porthi Dre yn cynnig sawl cefnogaeth o fewn wythnos arferol ar gyfer pobl hŷn yr ardal. Ar ddyddiau Llun mae Clwb Seiont sy’n cynnig amryw o weithgareddau a chinio poeth, ar elfen bwysicaf yw cyfle i gymdeithasu. Mae cinio poeth am ddim hefyd ar gael pob Dydd Mawrth a Iau sy’n bryd cynnes maethlon a chyfle i fwynhau sgwrs â phobl eraill sy’n mynychu.

Mae clybiau wythnosol eraill yr hwb yn cynnwys Caban y Cofis sy’n debyg i Men’s Shed, a phob dydd Mercher mae Clwb Pwytho Dre a hefyd y cyfle am baned a chacen. Mae amryw o fudiadau hefyd yn cynnal sesiynau galw heibio yn y lleoliad.