Cyfranogiad Dinesig a Chyflogaeth: Cynllun Gweithredu Oed Gyfeillgar

Mae gan bobl hŷn gyfoeth o wybodaeth a phrofiad nad yw'n cael ei werthfawrogi na'i gydnabod yn ddigonol ac mae’n bwysig i'w gofio. Rydym yn annog pwysigrwydd parhau i weithio a gwirfoddoli os mai dyna yw dymuniad yr unigolyn.

Mae Gwynedd yn ardal wledig lle mae llawer o heriau o ran cyfranogiad dinesig achyflogaeth gan gynnwys trafnidiaeth. Gobeithiwn y bydd gweithio mewn fforddoed-gyfeillgar yn datrys rhai o’r heriau.

 

Ein Cynllun Gweithredu

  • Gwahanol bartneriaid i edrych ar y posibilrwydd o ymuno ag addewid cyflogwyr oed-gyfeillgar
  • Mae gan Mantell Gwynedd swydd newydd a fydd yn helpu unigolion i gael cyfleoedd gwirfoddoli ar draws Gwynedd. 
  • Mae Grŵp Cynefin yn gobeithio recriwtio swyddog oed-gyfeillgar i weithio gyda rhai o’r heriau hyn a chefnogi eu tenantiaid. 
  • Mae Cymunedoli Cyf. yn edrych i gynyddu eu rhwydwaith o 33 aelodau gefnogi mentrau cymunedol gyflogi'n lleol a chefnogi gwirfoddolwyr lleol. 
  • Edrych mewn i gynlluniau gwirfoddol newydd gefnogi ein cymunedau. 

 

Astudiaethau achos 

Mae Gwaith Gwynedd wedi gosod ‘pobl dros 50 oed’ fel un o’u grwpiau targed drwy eu hannog i mewn i waith.Maent wedi cysylltu’r ymgyrch hon â sut mae’n cydfynd â’r ymgyrch 5 ffordd at les a sut y gall cyflogaeth helpu i gadw’r ymennydd yn iach ac yn cynnig digon o ryngweithio cymdeithasol.

Mae Gwaith Gwynedd nid yn unig yn cefnogi pobl i mewn i waith ond hefyd yn cefnogi unigolion i uwchsgilio fel y gallant ymgeisio am swyddi gwahanol a chefnogi pobl gyda newid gyrfa, beth bynnag eu hoedran. Gall newid gyrfa fod yn frawychus, yn enwedig heb unrhyw gefnogaeth, ond gall Gwaith Gwynedd helpu unigolion i ddod o hyd i'w ffordd o newid gyrfa a'u helpu hefyd i adnabod pa sgiliau sydd eu hangen arnynt.

Mae Cymunedoli Cyf. fel aelodau, wedi eu gwreiddio yn ein cymunedau, yn gwasanaethu ein cymunedau ac yn gwneud gwahaniaeth i’r cymunedau hynny. Amlygir manteision rhwydweithio eisoes drwy ymdrech i gasglu data gan 23 o’r Mentrau (allan o 33) sy’n profi ein cryfder ar y cyd. Mae’r ffigyrau hyn, wrth gwrs, tu hwnt i werth cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol y mentrau cymunedol, yn ogystal â’r ffaith bod y mentrau hyn i gyd yn gweithredu a gweinyddu yn Gymraeg.

Dyma drosolwg o’r hyn rydym yn gynnig ar lefel lleol ar draws Gwynedd:

  • Cyfanswm Trosiant yn £13.56m
  • Gwerth Asedau £43.2m
  • Cyflogi 239 llawn amser
  • Cyflogi 215 rhan amser
  • 536 o wirfoddolwyr

Trwy gynnig cyfleoedd lleol i weithwyr a gwirfoddolwyr ar draws Gwynedd mae Cymunedoli Cyf. yn sicrhau nad yw byw mewn ardal wledig yn heriol.