Cyfranogiad Cymdeithasol: Cynllun Gweithredu Oed Gyfeillgar

Mae cadw mewn cysylltiad yn hanfodol ac ar draws Gwynedd mae cymunedau yn cynnig gweithgareddau, lleoliadau a digwyddiadau i roi cyfleoedd i unigolion gymryd rhan yn gymdeithasol. Gall cyfranogiad cymdeithasol edrych yn wahanol ym mhob ardal leol a hefyd i bob unigolyn a gall amrywio o fod yn gyfle i gymryd rhan mewn fforymau a gweithdai i fynychu dosbarth crefft, i sgwrs dros baned. Mae ein partneriaid oed-gyfeillgar yn gwrando ar yr hyn y mae pobl lleol ei eisiau ac yn darparu ar sail hynny.

Mae rhai partneriaid hefyd yn cynnig grantiau bach cymunedol i helpu mentrau a grwpiau cymunedol i gynnig cyfleoedd.

 

Ein Cynllun Gweithredu

  •  Yn dilyn canfyddiadau ymgynghoriad Ardal Ni 2035 bydd Swyddogion Adfywio Cyngor Gwynedd yn parhau i weithio gyda sefydliadau lleol, grwpiau, ac amrywiol bartneriaid oed-gyfeillgar i sicrhau bod datblygiadau'n cael eu gwneud mewn ardaloedd lle mae bylchau wedi'u hadnabod.
  • Bydd partneriaid Gwynedd oed-gyfeillgar yn cynnal digwyddiadau ar draws Gwynedd yn 2024-25 gan gynnwys digwyddiadau ‘Paratoi ar gyfer y Gaeaf’ a digwyddiadau ‘5 ffordd at les’. Byddant yn cynnwys gwybodaeth, gweithgareddau, a fforymau pobl hŷn.
  • Mae pontio’r bwlch rhwng ysgolion a chartrefi gofal i sicrhau bod mwy o gyfleoedd pontio’r cenedlaethau ar draws Gwynedd yn waith sydd eisoes wedi dechrau a bydd llawlyfr pontio’r cenedlaethau yn cael ei rannu gyda phob ysgol, hwb cymunedol, cartref gofal, ac amrywiol bartneriaid i annog cysylltiadau a sut i fynd ati.
  • Mae Cymdeithas Tai Gogledd Cymru, ADRA, a Grŵp Cynefin i gyd yn gweithio ar gael eu hachredu yn y maes pontio’r cenedlaethau er mwyn gallu cynnig mwy o gyfleoedd cymunedol sy’n pontio’r cenedlaethau.
  • Bydd cynghorwyr lleol a staff o’n partneriaid oed-gyfeillgar yn parhau i fynd o gwmpas ardaloedd lleol a siarad ag unigolion. Bydd hyn yn cynnwys mynychu digwyddiadau yn ogystal â cherdded o amgylch cymunedau a chael sgyrsiau gyda phobl ar stepen eu drws.

 

Astudiaethau Achos

Penododd Cyngor Gwynedd Gydlynydd Pontio’r Cenedlaethau llawn amser ym mis Gorffennaf 2018 ac ar yr un pryd bu’n gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor a KESS 2 i gynnal ymchwil yn edrych ar effaith gwaith pontio’r cenedlaethau ar draws Gwynedd. Arweiniodd gwaith yr ymchwilydd ar edrych ar yr heriau a’r rhwystrau sy’n wynebu gwaith pontio’r cenedlaethau mae hefyd wedi cael sylw mewn erthygl sy’n trafod gwaith Gwynedd yn y maes drwy fod yr awdurdod lleol cyntaf i benodi cydlynydd pontio’r cenedlaethau llawn amser, ond hefyd yn cydnabod pwysigrwydd y gwaith mewn cyfnod ble mae mwy o arwahanrwydd cymunedol.

Mae gwaith pontio’r cenedlaethau wedi bod yn rhan bwysig o daith Oed-Gyfeillgar Gwynedd gan ei fod yn ffordd o ddod â chenedlaethau at ei gilydd, adeiladu gwytnwch cymunedol a lleihau unigrwydd. Cyflawnwyd y gwaith mewn gwahanol ffurfiau gan sawl partner.

Gweld adroddiad ar dri mis cyntaf 2023 gyda chyllid a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru Betsi Cadwaladr.

Mae sawl partner yn parhau i wneud gwaith pontio’r cenedlaethau ar draws Gwynedd a chynyddu ar y ddarpariaeth yma. 

Ar draws Gwynedd, rydym wedi cynnal fforymau a digwyddiadau i glywed lleisiau pobl hŷn ac i sicrhau eu bod yn gallu cymryd rhan yn gymdeithasol. Gan fod Gwynedd yn ardal eang yn ddaearyddol, rydym wedi treialu llawer o ddulliau gan gynnwys fforymau lleol lle rydym wedi rhannu gwybodaeth a chlywed gan unigolion sy'n byw yn yr ardaloedd hynny.

Yn ogystal â threfnu digwyddiadau a fforymau, rydym hefyd yn mynychu grwpiau sydd eisoes yn cyfarfod ac yn cyflwyno ein gwaith, yn rhannu gwybodaeth ac yn cynnal sgwrs a thrafodaeth gyda'r rhai sy'n mynychu.