Tai: Cynllun Gweithredu Oed Gyfeillgar

Mae cael gwahanol fathau o dai a mannau i unigolion fyw yn holl bwysig er mwyn cyfarch anghenion ein poblogaeth. Boed hynny yn gefnogaeth i aros adre yn y gymuned maent eisiau byw ynddi neu yn gynllun gofal ychwanegol.

Yr hyn sy’n bwysig yw sicrhau bod amrywiaeth ar gael ar draws Gwynedd i gyfarch yr anghenion ac ein bod partneriaid yn parhau i gyd-weithio i ddarparu’r hyn sydd ei angen.

 

Ein Cynllun Gweithredu

  • Mae Rhannu Cartref Gwynedd am recriwtio mwy o unigolion i fod yn rhan o'r cynllun.
  • Mae Adra yn edrych ar eu hasedau presennol a beth sydd angen ei ddatblygu ar draws Gwynedd i gwrdd ag anghenion poblogaeth sy'n heneiddio.
  • Mae Adra hefyd yn gweithio ar eu rhestr addasiadau cartref i sicrhau y gallant gefnogi'r anghenion a’r addasiadau cartref sydd eu hangen yn nhai eu tenantiaid yn y ffordd orau bosibl.
  • Mae Gofal a Thrwsio Gwynedd a Môn yn cefnogi unigolion ar draws Gwynedd gydag addasiadau cartref a byddant yn parhau i gynnig eu gwasanaethau a chefnogaeth.
  • Mae Grŵp Cynefin yn datblygu cynllun cyffrous ym Mhenygroes gyda amryw o bartneriaid o’r enw ‘Canolfan Lleu’ - gweld mwy
  • Mae Adra hefyd wrthi yn datblygu mwy o gynlluniau sydd yn gynllun tebyg i Fron Deg, Pwllheli gyda Plas Penrhos ym Mangor fydd gyda 44 fflat a datblygiad yng Nghaernarfon a fydd gyda 18 fflat. Mae Cyngor Gwynedd ac Asiantaeth Tai Clwyd Alyn yn datblygu cynllun gofal ychwanegol ym Mhenrhos, Pwllheli.
  • Mae Cyngor Gwynedd yn gwneud darn o waith i ddeall yr anghenion sydd eu hangen o ran asedau a chynlluniau tai ar draws y Sir

 

Astudiaethau achos

Mae Rhannu Cartref yn brosiect sy'n helpu pobl i fyw adre yn eu cartrefi'n hirach. Mae’n paru deiliaid tai sy'n chwilio am gwmnïaeth a chymorth ymarferol â phobl sy'n chwilio am lety fforddiadwy ac yn awyddus i gynnig help llaw. Mae Rhannu Cartref yn paru cyfranogwyr yn seiliedig ar ddiddordebau.

Mae Audrey a James wedi bod yn byw gyda’i gilydd ers rhai misoedd o dan y cynllun Rhannu Cartref, ac mae Audrey’n nodi bod “cael James yma’n rhoi cymaint o sicrwydd a chwmnïaeth i mi, yn enwedig yn ystod nosweithiau hir y gaeaf”

Mae’r datblygiad Fron Deg yn cynnwys 28 o fflatiau annibynnol sydd wedi'i dylunio i ddiwallu anghenion trigolion dros 55 oed ac unigolion ag anableddau. Mae nodweddion allweddol y cynllun yn cynnwys 28 o Fflatiau Cymunedol a adeiladwyd i ddarparu mannau byw cyfforddus ac annibynnol ar gyfer pobl dros 55 oed a’r rhai ag anableddau. Mae'r datblygiad hefyd yn cynnwys lolfa a chegin gyffredin sy'n meithrin ymdeimlad o gymuned ac yn darparu mannau cymunedol ar gyfer cymdeithasu a hamdden. Mae Fron Deg wedi’i lleoli mewn lleoliad cyfleus sy’n caniatáu mynediad i gyfleusterau lleol, yn sicrhau mynediad hawdd at wasanaethau hanfodol ac i allu byw mewn awyrgylch gymunedol fywiog. Mae warden ar y safle hefyd a bydd preswylwyr yn elwa o bresenoldeb unigolyn penodedig ar y safle am 18 awr yr wythnos, gan gynnig cymorth a chefnogaeth yn ôl yr angen.

Mae’r datblygiad hwn yn rhan o bartneriaeth rhwng Adra a Chyngor Gwynedd fel rhan o Raglen Datblygu Tai Fforddiadwy Gwynedd. Ariannwyd y cynllun hwn gan Lywodraeth Cymru drwy Grant Tai Cymdeithasol Cyngor Gwynedd.