Mae Y Dref Werdd yn fenter gymunedol sy’n cynnig trafnidiaeth cymunedol yn ardal Blaenau Ffestiniog a Phenrhyndeudraeth. Maent hefyd yn gweithio mewn partneriaeth gyda O Ddrws i Ddrws, Yr Orsaf a Partneriaeth Ogwen ac wedi datblygu rhwydwaith sy’n cefnogi ei gilydd a’u datblygiadau gyda thrafnidiaeth cymunedol.
Mae’r Dref Werdd yn helpu llawer o drigolion hŷn i gyrraedd apwyntiadau meddygol, siopa a gweithgareddau cymdeithasol. Dyma sut wnaethon nhw helpu un ddynes yn ei 80au. oedd angen teithio 35 milltir i Ysbyty Gwynedd:
Cyn dechrau defnyddio’r Dref Werdd fel dull o deithio, bu’n rhaid i’r unigolyn adael ei thŷ am 7:30yb ac ni fyddai adref tan ar ôl 8pm gan mai dyna oedd ei hunig opsiwn tra’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Roedd y Dref Werdd yn gallu camu i mewn a’i chael yn ôl ac ymlaen o’i hapwyntiadau ysbyty ar adegau a oedd yn gweithio iddi, gan aros yn yr archfarchnad ar y ffordd adref i gwblhau ei siop wythnosol. Roedd hyn yn caniatáu i'r fenyw gael mwy o amser rhydd, i gwblhau ei siopa a'i hapwyntiad gyda'i gilydd, ac i gael y cyfle i gymdeithasu â'r gyrrwr. Dim ond un o sawl enghraifft yw hwn lle mae'r cynllun wedi gallu helpu.
Gall trafnidiaeth gymunedol fod yn fwy hyblyg gan ddiwallu anghenion yr unigolyn sy'n defnyddio'r gwasanaeth