Parch a chynhwysiad cymdeithasol: Cynllun Gweithredu Oed Gyfeillgar

Mae parch at unigolion o bob oed yn bwysig ymhob cymuned ond drwy ddod â phobl o bob oed ynghyd â phrosiectau sy’n pontio’r cenedlaethau gallwn sicrhau ein bod yn dysgu gwahanol genedlaethau am bwysigrwydd parchu ein gilydd.

Gellir hefyd adeiladu parch trwy godi ymwybyddiaeth am wahanol bethau megis dementia.

Mae cymuned gynhwysol yn golygu y pwysigrwydd i gael adeiladau, palmentydd, ac ardaloedd sy'n gynhwysol, yn hygyrch ac yn groesawgar i bawb.

Ein Cynllun Gweithredu

  • Byddwn yn gweithio ar draws Gwynedd i gefnogi cymunedau i ddod yn Gymunedau Dementia Gyfeillgar wrth dderbyn cefnogaeth gan Dementia Actif Gwynedd, y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, a Chyngor Gwynedd. 
  • Mae Dementia Actif Gwynedd a Chyngor Gwynedd yn parhau i gynnig sesiynau Ffrindiau Dementia ar draws Gwynedd ar gyfer cymunedau, ysgolion a phwy bynnag sy’n dymuno derbyn y sesiwn wybodaeth. 
  • Pwrpas pontio’r cenedlaethau yw creu cysylltiadau newydd rhwng plant a phobl o bob oed. Bydd hyn yn cynyddu’r parch a’r ddealltwriaeth rhwng y cenedlaethau ac yn creu cymunedau cryfach. Bydd ysgolion, sefydliadau, cartrefi gofal a mentrau cymunedol eraill ar draws Gwynedd parhau i gydweithio i adeiladu ar gyfleoedd rhwng cenedlaethau. 

 

Astudiaethau Achos

Prosiect arall gan O Ddrws i Ddrws yw prosiect o’r enw Lôn i Les a oedd gyda’r nod gwreiddiol o gael pobl allan yn dilyn y cyfnod clo. Maent yn mynd ag unigolion a grwpiau i ddigwyddiadau lleol ac chyfleoedd cymdeithasol ac yn trefnu rhai eu hunain. Mae Lôn i Les wedi bod yn rhedeg ers 2021 ac ar hyn o bryd mae’n cefnogi tua 65 ounigolion o bob rhan o Lŷn i fynychu gweithgareddau gan gynnwys rhai gyda siaradwyr gwadd, tê prynhawn, a sesiynau crefft.

Mae’r cynllun yn lleihau unigrwydd ac ynysigrwydd ac yn dod â phobl ynghyd i gymdeithasu. Ers y cyfnod clo mae llawer o unigolion wedi'i chael hi'n anodd i gyrraedd lleoedd, ac mae llawer wedi rhoi'r gorau i yrru. Mae prosiectau fel Lôn i Les yn cefnogi'r unigolion hynny i fod yn aelodau gweithredol o'u cymunedau trwy eu cefnogi i gyrraedd bob math o weithgareddau.

Mae tîm Dementia Actif Gwynedd yn gweithio i gynyddu ymwybyddiaeth am ddementia ar draws Gwynedd. Trwy godi ymwybyddiaeth am ddementia, rydym yn gwella cynhwysiant cymdeithasol ar gyfer y rhai sy'n byw gyda dementia yn ein cymunedau. Paratowyd y sesiynau gan Gymdeithas Alzheimer a’u cyflwyno gan aelodau staff Dementia Actif Gwynedd. Mae’r sesiynau’n herio’r stigma a’r mythau sy’n ymwneud â dementia ac yn codi ymwybyddiaeth o’r newidiadau bychain y gallwn ni i gyd eu gwneud yn ein bywydau bob dydd i gefnogi’r rhai o’n cwmpas sy’n byw gyda dementia.

Dros y blynyddoedd rydym wedi codi ymwybyddiaeth ymhlith cannoedd o amgylch y sir ac wedi cyflwyno sesiwn i gyfanswm o 1,133 yn 2023 yn unig. Cyflwynwyd sesiynau i amrywiaeth o grwpiau gan gynnwys ffrindiau a theuluoedd y rhai sy’n byw gydadementia, cartref gofal a’u staff, grwpiau cymunedol, ac ysgolion.

Gan weithio gyda’r adran TG fewnol yng Nghyngor Gwynedd rydym hefyd wedi gallu ychwanegu nodwedd newydd i’r sesiwn ffrind dementia sy’n cynnwys profiad Virtualreality (VR) yn dilyn y sesiwn.

Trefnodd Dementia Actif Gwynedd hefyd ymweliad gan y Bws Dementia VR sef hyfforddiant a ddarperir gan training2care. Cynigwyd yr hyfforddiant hwn i ffrindiau,teuluoedd, gofalwyr a gweithwyr gofal ar draws Gwynedd.