Symud o ofal plant i ofal oedolion
Unwaith y bydd unigolyn yn cyrraedd 18 mlwydd oed, bydd unrhyw gymorth y byddent angen o ran gofal cymdeithasol yn dod gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant. Os oedd unigolyn yn derbyn cymorth fel plentyn yna bydd angen trafodaethau ac asesiad cyn gynted â sydd bosib er mwyn sefydlu os oes anghenion gofal a chefnogaeth y dylid yr Adran Oedolion eu diwallu.
Trosglwyddo
Pan fydd y defnyddiwr gwasanaeth rhwng 16 a 18 mlwydd oed, bydd cynlluniau’n cael eu gwneud gyda’r unigolyn ifanc a’u teuluoedd, i’w paratoi i symud i wasanaethau oedolion. Gelwir hyn yn trosglwyddo.
Gwyddom y bydd unrhyw newid yn anodd ond byddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau trosglwyddiad syml a byddwn yma i’ch cefnogi bob cam o’r ffordd.
Yn ystod y trosglwyddo bydd angen trafod:
- Iechyd a gofal cymdeithasol
- Iechyd meddwl
- Addysg
- Buddion ariannol i’r person ifanc a’i deulu
- Gwaith
- Llety a chefnogaeth
- Llesiant
Wedi i ni gasglu’r wybodaeth am y meysydd yma gallwn gynorthwyo’n well i baratoi'r plentyn ar gyfer y byd fel oedolyn a bydd yr asesiad yn ystyried
- gofynion y defnyddiwr gwasanaeth
- beth sydd yn bwysig i’r defnyddiwr gwasanaeth
- beth mae’r defnyddiwr gwasanaeth eisiau gyflawni mewn bywyd
- pa fath o ofal neu gefnogaeth a all fod o fudd i’r defnyddiwr gwasanaeth
- pa gymorth arall sydd ar gael?
Gallwn yna symud ymlaen i gyflwyno’r gofal, cyngor neu gefnogaeth orau.
Wrth fynd drwy’r broses o drosglwyddo i wasanaethau oedolion, bydd gennych weithiwr penodol a fydd yn eich cefnogi i drefnu cynlluniau a byddwn yn ymrwymo i’ch cynorthwyo i gael y dyfodol gorau phosib.
Darllen mwy: Llawlyfr Trosglwyddo