Help i fyw yn annibynnol (2)

Mae aros yn annibynnol yn flaenoriaeth i'r rhan fwyaf ohonom, ac mae aros adref yn ein cartref ein hunain a chymdeithasu yn rhan fawr o hynny. 


Pa help sydd ar gael i chi?

Defnyddiwch y teclyn hunanasesu ar-lein Helpu'n Hun i ddod o hyd i wybodaeth am offer sydd ar gael i wneud eich bywyd bob dydd yn haws. Mae asesiad Helpu’r Hun yn cynnig cyngor i’ch helpu efo anawsterau yr ydych yn eu wynebu yn:

  • Eich cartref – e.e. yr ystafell ymolchi, grisiau, yr ystafell fyw, yr ardd.
  • Gweithgareddau bob dydd- e.e. siopa, gwisgo, paratoi bwyd.
  • Eich iechyd – e.e. rheoli meddyginiaeth, diogelwch yn y cartref, golwg a chlyw.

Asesiad Helpu’n Hun: Gweld pa help sydd ar gael

Gwybodaeth hefyd ar gael ar Dewis Cymru - #cefnogaethynycartref



Asesiad gan Wasanaeth Oedolion Cyngor Gwynedd

Os ydych wedi gwneud yr hunanasesiad uchod ac yn teimlo eich bod angen asesiad gallwch gysylltu â ni. Mae Gweithwyr Cymdeithasol / therapyddion galwedigaethol / gofalwyr ar gael i gefnogi...mwy o wybodaeth

Byddwn yn cyd-weithio efo chi er mwyn asesu eich anghenion, tra'n ystyried eich cryfderau personol a'r cymorth sydd ar gael i chi gan aelodau o'r teulu, ffrindiau ac eraill yn y gymuned. 

Gwneud cais am asesiad 

Cefnogaeth oherwydd cyflwr acíwt (h.y. nid yw’n hirdymor):

Os ydych angen cefnogaeth oherwydd eich bod wedi eich effeithio gan gyflwr acíwt sydd ddim yn hir dymor (e.e. haint dŵr), neu os ydych angen cefnogaeth o fewn pythefnos o ddychwelyd o’r ysbyty cysylltwch â Thîm Therapi Cymunedol y Bwrdd Iechyd Lleol. 

  • Arfon: 03000 851 591.
  • Dwyfor: 03000 850076
  • Eifionydd a Gogledd Meirionnydd: 01766 510300
  • De Meirionydd: 03000 852488 / 03000 852489.
Close

 

 

Offer i'ch helpu i fyw yn annibynnol

Mae'n bosib y bydd yr asesiad yn amlygu y gallai cyfarpar penodol eich help o gwmpas y tŷ neu wrth i chi deithio a chymdeithasu.

Mae'n bosib prynu llawer o offer yn breifat ac mae'n bosib hunangyfeirio eich hun at rai gwasanaethau heb dderbyn asesiad. Dyma'r math o offer a gwasanaethau sydd ar gael: 

Help o gwmpas y tŷ

Gwasanaeth monitro sy’n eich galluogi i alw am help ddydd neu nos drwy gyffwrdd botwm, neu drwy gyfres o synwyryddion yn eich cartref yw teleofal. Mae’n ffordd ataliol o gynnig gofal o bell i drigolion, ac yn gallu bod o gymorth i leihau risgiau o fewn y cartref neu alluogi unigolion i barhau i fyw mor annibynnol â phosib.

Mwy o wybodaeth a gwneud cais am wasanaeth Teleofal

Os ydych angen offer cerdded gallwch hunangyfeirio eich hun i wasanaeth Ffisiotherapi Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr:

Mwy o wybodaeth: Gwefan Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr - dim llawer o wybodaeth yma....Linc arall??

Mae'n bosib prynu mân offer (e.e. offer ymcholi, codwyr cadeiriau) o siopau lleol megis



Offer wedi torri

Os ydych angen trefnu i gasglu offer o'ch cartref neu i roi gwybod bod offer wedi torri ac angen ei adnewyddu, ffoniwch: 03000 852 878.

Os ydych angen cadair arbenigol er mwyn eich cefnogi gyda osgo neu drosglwyddiadau gallwch gysylltu gyda’r isod er mwyn trefnu asesiad:

Os ydych angen lifft grisiau cysylltwch â:

Byw yn eich eiddo eich hun/rent preifat

Os ydych chi’n byw yn eich eiddo eich hun/rent preifat ac angen canllawiau, mân addasiadau i'r cartref neu gefnogaeth gyda chynllunio a threfnu addasiadau mawr (e.e. cawod mynediad gwastad) yn breifat, cysylltwch â: 

  • Gofal a Thrwsio (01286 889 360) 

Os ydych mewn sefyllfa i fod yn trefnu a thalu am unrhyw addasiad mawr arall (e.e. cawod mynediad gwastad) argymhellir i chi fod yn cysylltu gyda’ch adeiladwr lleol. 


Byw mewn eiddo sy'n berchen i Gymdeithas Dai

Os ydych yn byw mewn eiddo sydd yn berchen i Gymdeithas Dai, cysylltu’n uniongyrchol â nhw er mwyn hunangyfeirio am addasiadau mân (e.e. canllawiau, “key safe”):

    • Adra - 0300 123 8084.
    • Tai Gogledd Cymru - 01492 572727.
    • Grŵp Cynefin - 0300 111 2122.
    • Clwyd Alyn - 0800 183 5757.

 

??

Nid ydym yn asesu unigolion er mwyn cwblhau llythyrau cefnogol ar gyfer budd-daliadau yn benodol. Dim ond ar gyfer ar gyfer y rhesymau sydd wedi eu nodi o fewn y meini prawf uchod?? yr ydym yn cwblhau asesiadau. Os oes asesiad wedi ei gwblhau oherwydd y meini prawf uchod ac rydych yn dymuno cael cefnogaeth ar gyfer budd-daliadau, bydd y gweithiwr yn darparu copi o’r asesiad yn hytrach na ysgrifennu llythyr cefnogol penodol.

Ni fyddwn yn asesu unigolion yn benodol er mwyn cwblhau llythyrau cefnogol ar gyfer Bathodyn Glas. Dim ond ar gyfer ar gyfer y rhesymau sydd wedi eu nodi o fewn y meini prawf uchod yr ydym yn cwblhau asesiadau. Os oes asesiad wedi ei gwblhau oherwydd y meini prawf uchod ac rydych yn dymuno cael cefnogaeth ar gyfer cael Bathodyn Glas, bydd y gweithiwr yn darparu copi o’r asesiad yn hytrach na ysgrifennu llythyr cefnogol penodol.

Ni fyddwn yn asesu unigolion yn benodol er mwyn cwblhau llythyrau cefnogol ar gyfer symud eiddo. Dim ond ar gyfer ar gyfer y rhesymau sydd wedi eu nodi o fewn y meini prawf uchod yr ydym yn cwblhau asesiadau. Os oes asesiad wedi ei gwblhau oherwydd y meini prawf uchod ac rydych yn dymuno cael cefnogaeth er mwyn symud 

??

Rôl Therapyddion Galwedigaethol yw cefnogi unigolion i allu cymryd rhan mewn gweithgareddau pob dydd (e.e ymolchi, newid, paratoi prydau, mynediad mewn/allan o’r eiddo, ac o amgylch eich cartref, trosglwyddo) mor annibynnol a diogel â phosib, pan mae anabledd neu yr amgylchedd yn amharu ar y gallu yma.

Gall yr ymyraethau a fydd yn cael eu darparu gynnwys cyngor am sut i addasu’r modd mae’r weithgaredd yn cael ei chwblhau, offer (e.e. codwyr cadair, bwrdd bath), neu addasiadau canolig/mawr (e.e. lifft grisiau, cawod mynediad gwastad, addasiadau sydd yn golygu gwaith strwythurol). Unwaith bydd yr ymyrraeth wedi ei darparu bydd y Therapydd Galwedigaethol yn cysylltu gyda chi i adolygu.

??

Wrth i bob un ohonom fynd yn hŷn, mae’r risg o gael anaf difrifol o ganlyniad i gwympo yn cynyddu. Gall hyn fod yn rhwystr i sut mae rhywun yn byw eu bywydau.  

Dyma awgrymiiadau am sut i leihau’r risg, cymorth ychwanegol a hefyd cymorth yn dilyn cwymp.    

Awgrymiadau defnyddiol 

  • Gwisgwch esgidiau/ ‘slipars’ addas sy’n ffitio yn dda 
  • Sicrhewch fod digon o olau ar eich grisiau a gosodwch ganllaw grisiau
  • Symudwch unrhyw fatiau rhydd neu sicrhewch bod cefn gwrth-slip arnynt
  • Symudwch ddodrefn i sicrhau nad ydynt ar lwybr cerdded
  • Defnyddiwch fat gwrth-slip mewn bath neu gawod
  • Cadwch offer rydych yn ddefnyddio yn aml o fewn gafael hawdd
  • Sicrhewch bod golau wrth eich gwely i chi fedru rhoi hwnnw ymlaen cyn codi
  • Os ydych yn defnyddio cynorthwyon cerdded sicrhewch bod traed rwber arnynt.
  • Ystyriwch gael larwm Teleofal a all alw am gymorth os ydych yn syrthio.
     

Iechyd  

  • Sicrhewch brawf llygaid rheolaidd. Os ydych dros 60 mlwydd oed mae modd cael prawf am ddim ar y GIG pob dwy flynedd. 
  • Gwiriwch eich pwysau gwaed gyda’r meddyg, yn enwedig os ydych yn cwympo ar ôl codi o’r gwely neu o gadair
  • Os oes gennych broblemau symudedd, ewch i weld meddyg
  • Bwytwch yn iach a chadwch yn heini. Mae mwy o wybodaeth am ddosbarthiadau heini pwrpasol is-law.
  • Ewch am brawf clywed – gall hylif clustiau achosi heriau balans  

 

Cadw’n heini 

Mae sawl gwasanaeth yng Ngwynedd yn cynnig cymorth ataliol neu wedi cwymp. Cymerwch olwg fan hyn ar beth sydd ar gael yn eich ardal chi i’ch helpu.  

  • Actif am Oes – Mae’r dosbarthiadau hyn yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau arddwysedd isel.
  • Byw’n Iach – Mae holl ganolfannau nofio Byw’n Iach yn rhan o’r cynllun nofio am ddim 60+
      • Dementia Actif Gwynedd – Mae'r sesiynau'n gynhwysol i bobl sy'n cael effeithio gan ddementia ac yn agored i oedolion hŷn sydd eisiau gwneud mwy o ymarfer corff i wella eu stamina, cryfder a chydbwysedd, gêm o boccia, a chymdeithasu dros baned. 
      • Tim Atal Cwympiadau Betsi Cadwaladr – Mae’r gwasanaeth atal cwympiadau yn helpu unigolion dros 65 mlwydd oed wrth adnabod, asesu a chyflwyno ymyriadau i leihau’r risgiau o syrthio. 

 

Cyfarpar, offer a chymorth ychwanegol 

  • Teleofal - Gwasanaeth monitro sy’n eich galluogi i alw am help ddydd neu nos drwy gyffwrdd botwm, neu drwy gyfres o synwyryddion awtomatig yn eich cartref yw Teleofal. Mae'n ffordd ataliol o gynnig gofal o bell i drigolion, ac mae'n gallu bod o gymorth i leihau risgiau o fewn y cartref ac i alluogi chi fyw bywyd mor annibynnol a phosib.
  • Gofal a Thrwsio Gwynedd a Môn - Mae Gofal a Thrwsio yn cynnig gwasanaeth i helpu pobl hŷn Gwynedd a Môn i fyw yn annibynnol adref a hynny trwy wneud asesiad o’r cartref a chynnig cyfarpar lle’n briodol i leihau’r risg o godwm. 
  • Age Cymru
    Mae Age Cymru yn cynnig mwy o wybodaeth er mwyn lleihau’r risg o gwympo. 

Mae’r Gwasanaeth Cymorth Casglu ar gael i bobl sydd ddim yn gallu mynd â’u biniau neu focsys ailgylchu allan i’r man casglu oherwydd anabledd neu salwch.

Mwy o wybodaeth: Gwasanaeth Cymorth Casglu

 

Help wrth deithio a chymdeithasu

Mae’r gwasanaeth “The Wales Mobility Driving Assessment Service” yn cwblhau asesiadau gyda gyrwyr, teithwyr a gofalwyr sydd yn cael anawsterau gyrru neu trosglwyddo mewn/allan o’r car oherwydd cyflyrau meddygol (corfforol neu gwybyddiaeth).

  • Mae modd i chi gael eich cyfeirio am gadair olwyn syml drwy eich Meddyg Teulu, Ffisiotherapydd, neu drwy’r Nyrs Ardal sydd yn gweithio gyda chi.
  • Mae hefyd modd i chi eu hurio gan:

  

Rhoi gwybod am broblem efo offer wedi torri

Os ydych angen trefnu i gasglu offer o'ch cartref neu i roi gwybod bod offer wedi torri ac angen ei adnewyddu, ffoniwch: 

  • 03000 852 878 
Close

 

 

 

Mwy…