Adnoddau digidol
Adnoddau ar-lein (ar gael o fewn y llyfrgelloedd yn unig)
- Access to research - Mynediad i ystod eang o erthyglau ac ymchwil academaidd. Ar gael am ddim mewn unrhyw lyfrgell yn Ngwynedd.
- Ancestry Library - Gallwch ymchwilio hanes eich teulu drwy chwilio ystod eang o gofnodion cyfrifiadau a chofnodion hanesyddol. Ar gael am ddim mewn unrhyw lyfrgell yn Ngwynedd.
- Find my past - Gallwch ymchwilio hanes eich teulu drwy chwilio ystod eang o gofnodion cyfrifiadau a chofnodion hanesyddol. Ar gael am ddim mewn unrhyw lyfrgell yn Ngwynedd.
- Learn My Way - cyrsiau am ddim i ddechreuwyr, i’ch helpu chi i ddatblygu sgiliau digidol.
- Theory Test pro - Efelychiad realistig ar-lein o brawf theori gyrru'r Deyrnas Unedig. Byddwch angen eich rhif cerdyn llyfrgell i gofrestru. Mynediad allanol ar gael.
Cymorth Digidol
Rydym yn cynnig sesiynau cymorth digidol cyffredinol mewn llyfrgelloedd ar draws y sir.
Ceir fwy o wybodaeth am sesiynau Cymorth Digidol yn adran eich llyfrgell leol.
Cymorth Digidol i’r Cartref
Rydym yn cynnig gwasanaeth cymorth digidol i'r cartref, mewn achosion ble mae person yn:
- dioddef o anawsterau symudedd
- dioddef o salwch tymor hir
- ofalwr llawn-amser.
Gall un o’n Llyfrgellwyr Ardal eich gweld yn eich cartref neu eich Llyfrgell leol i’ch helpu gyda mynd ar-lein, defnyddio cyfrifiadur neu dabled a chael mynediad at e-lyfrau, e-lyfrau llafar, e-gylchgronau, e-gomics. Cysylltwch â 01286 679465 neu llyfrgell@gwynedd.llyw.cymu i drefnu apwyntiad.
Adnoddau ar-lein Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Os ydych yn aelod o lyfrgelloedd Gwynedd gallwch gofrestru i gael mynediad i adnoddau electronig Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
Gwefannau defnyddiol