Gwasanaeth Archebu a Chasglu / Cludo Gartref

Erbyn hyn mae’n bosib archebu llyfrau, a byddwn yn cysylltu efo chi pan fyddant yn barod i’w casglu o’r llyfrgell. Mae gwasanaeth cludo i’r cartref hefyd ar gael os nad ydych yn gallu dod i’r llyfrgell i gasglu’r archeb. 
 

Sut mae’r gwasanaeth yn gweithio?

 

  1. Bydd angen i chi fod yn aelod o lyfrgell Gwynedd er mwyn defnyddio’r gwasanaeth. Gallwch ymaelodi ar-lein, neu drwy ffonio eich llyfrgell leol.

    Os ydych yn aelod yn barod, byddwch angen rhif eich cerdyn llyfrgell.

  2. Os ydych yn gwybod pa lyfr rydych am ei archebu, y ffordd hawsaf ydi archebu drwy’r catalog llyfrgell, neu cysyllltwch â'ch llyfrgell leol.
    Archebu llyfr o’r catalog llyfrgell