Llanbedr: Gwella trafnidiaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn cydweithio gyda phartneriaid i adnabod datrysiad trafnidiaeth i leddfu problemau traffig Llanbedr.
Er fod cynllun blaenorol wedi ei ddatblygu rai blynyddoedd yn ôl, oherwydd penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio parhau gyda chefnogaeth cyllidol yn sgil adolygiad ffyrdd, nid oedd modd parhau gyda’r cynllun bryd hynny.
Tra bod y broses bresennol sydd yn cael ei dilyn yn cymryd amser, rydym yn credu mai dyma'r dull cywir o sicrhau ein bod yn cydymffurfio'n llawn â chanllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu prosiectau Trafnidiaeth, yn ogystal â sicrhau eu bod yn cydymffurfio'n llawn gydag amrywiol ddeddfwriaeth arall.
Byddai peidio â chydymffurfio â'r prosesau a'r ddeddfwriaeth yn peri risg sylweddol i’r prosiect, a allai eu gosod yn ôl ymhellach fyth yn ein cynnydd.
Y broses sy’n cael ei dilyn fel rhan o’r gwaith ydi Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG). Yn ôl Llywodraeth Cymru “Dylid defnyddio WelTAG i ddatblygu a gwerthuso cynigion trafnidiaeth sy’n cael eu hyrwyddo neu eu hariannu gan Lywodraeth Cymru”. Gweld mwy o wybodaeth
Mae mewnbwn rhanddeiliaid lleol yn hanfodol i ddatblygiad y cynllun ac mae cwmni arbenigol WSP wedi eu comisiynu i arwain ar y gwaith yma ar ein rhan ynghyd a’r broses WelTAG. Maent wedi cynnal dau weithdy yn Llanbedr gan gynnal trafodaethau adeiladol fel rhan o’r broses.
Mae gweithgor o swyddogion Cyngor Gwynedd, Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru yn cyfarfod yn fisol i drafod ac adrodd ar waith trafnidiaeth yn Llanbedr. Mae diweddariadau gan y gweithgor yn cael eu cyfathrebu gyda’r gymuned drwy’r Cynghorwyr Lleol Annwen Hughes a Gwynfor Owen ynghyd a Chyngor Cymuned Llanbedr, yn bennaf drwy Newyddlenni rheolaidd.
Mae’r diweddariadau ar gael yn yr Newyddlenni isod:
Newyddlenni
Dogfennau