Palmant Isel

Os am gael mynediad cerbyd i lôn o flaen eich tŷ, neu le parcio mae'n debygol y byddwch angen palmant isel (dropped kerb).

Os yw'r lleoliad ar lôn swyddogol (ffyrdd A,B neu C) yna byddwch angen caniatâd er mwyn gwneud y gwaith hwn.

Os yw'r palmant ar stâd tai cymdeithasol (e.e Cartrefi Cymunedol Gwynedd) cysylltwch â'ch asiantaeth dai.

 

Sut mae gwneud cais?

Gwneud cais ar-lein

 

Beth fydd yn digwydd wedyn?

Bydd Swyddog yn ymweld â'r safle er mwyn asesu. 

Os bydd y Swyddog yn cymeradwyo'r cais bydd cyfnod ymgynghori gyda chwmnïau a chyrff perthnasol eraill yn cychwyn. Bydd hyn yn cymryd 10 diwrnod gwaith.

Os na fydd unrhyw wrthwynebiad i'r ymgynghoriad bydd y drwydded yn cael ei chymeradwyo.

Os bydd gwrthwynebiad gan y cwmnïau gwasanaeth bydd rhaid cynnal ymholiadau pellach. Bydd manylion yr ymholiadau pellach yn cael eu hanfon i'r ymgeisydd.

Bydd angen caniatau 15 diwrnod gwaith ar gyfer prosesu eich cais. 

Os yw'r cais yn llwyddiannus mae'n rhaid i'r holl waith gael ei wneud gan gontractwr priffyrdd sydd wedi cael ei gymeradwyo. Bydd disgwyl i'r contractwr hysbysu'r adran Gwaith Stryd yn unol â deddf 1991.