Teithio Llesol
Mae’r Cyngor wedi mynd ati i wella llwybrau a chyfleusterau cerddwyr a beicwyr Gwynedd gan ystyried beth mae nhw angen. Rydym wedi llunio mapiau o’r llwybrau y gall bobl Gwynedd eu defnyddio rŵan ac hefyd o’r llwybrau fydd ar gael yn y dyfodol.
Mapiau Rhwydwaith Integredig
Mae Cyngor Gwynedd wedi paratoi Mapiau Rhwydwaith Integredig ar gyfer deuddeg ardal sydd wedi cael ei gytuno gan Lywodraeth Cymru. Y gobaith yw cysylltu llwybrau cerdded a beicio o fewn/rhwng yr ardaloedd hyn.
Eleni, mae Cyngor Gwynedd wedi llwyddo i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i wella’r cysylltiadau cerdded a beicio o amgylch Ysgol Godre’r Berwyn, Y Bala. Mae diogelwch cerdded a beicio wedi bod yn broblem ers sawl blwyddyn ac mae Aelod Lleol ac Cyngor Cymuned wedi codi pryderon ynghylch diogelwch plant pan fyddant yn mynychu’r ysgol. Mae'r atodiadau PDF yn dangos y gwaith gwelliannau sydd i gychwyn ar 29/01/2024 am 7 wythnos.
Ysgol Godre'r Berwyn
Ffrydan Rd - Afallon
Ffordd Arenig - Arenig Street
Fideos defnyddiol
Beth am roi cynnig ar gerdded neu feicio i'r gwaith? Dyma rai fideos defnyddiol i'ch helpu chi ar eich ffordd.
Manteision Iechyd
10 Cam Syml i Ddiogelwch Beicio
Arwyddion Llaw ar gyfer Beicio
Mwy o wybodaeth
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth
E-bost: teithio-llesol@gwynedd.llyw.cymru
Ffôn: 01286 679 413