Tai Cymdeithasol Gwynedd (3)

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithio gyda chymdeithasau tai i helpu pobl i ddod o hyd i dai fforddiadwy. Mae gennym restr aros ar gyfer eiddo’r cymdeithasau tai, ac rydym yn cynnig cyngor ar opsiynau tai eraill.  

Gwneud cais am dŷ cymdeithasol

Yng Ngwynedd, mae tai cymdeithasol yn cael eu darparu gan y cymdeithasau tai canlynol: 

I wneud cais am dŷ cymdeithasol:  

  1. Darllenwch y llawlyfr gwybodaeth i ymgeiswyr
  2. Lawrlwythwch ffurflen gais a'i chwblhau:

Lawrlwytho ffurflen gais

3. Gyrrwch y ffurflen gais yn ôl i ni drwy'r post neu e-bost, neu cysylltwch â ni: 

Mae tai cymdeithasol yng Ngwynedd yn cael eu darparu gan gymdeithasau tai sy’n cynnig opsiynau tai fforddiadwy i bobl. Mae’n rhatach na rhentu’n breifat ac yn aml yn cynnig sefydlogrwydd hir dymor i denantiaid, gan helpu’r rhai na allant fforddio rhentu neu brynu cartref ar y farchnad agored. 

Er mwyn cael eich ystyried am dŷ cymdeithasol mae’n rhaid gwneud cais am dŷ cymdeithasol. 

Gall unrhyw un gyda chysylltiad â Gwynedd wneud cais i fod ar y Gofrestr Tai.  

Mae yna gysylltiad â Gwynedd:  

  • Os ydych wedi bod yn byw yng Ngwynedd am 5 mlynedd (ar unrhyw adeg).
  • Os oes gennych aelod o deulu agos sydd yn byw yng Ngwynedd ar hyn o bryd ac wedi byw yma am o leiaf 10 mlynedd.
  • Os ydych yn darparu neu dderbyn cymorth yng Ngwynedd.
  • Os ydych wedi bod mewn cyflogaeth yng Ngwynedd am y 5 mlynedd diwethaf.
  • Os ydych wedi cael cynnig swydd yng Ngwynedd ond wedi gorfod gwrthod oherwydd anabledd ac wedi cael trafferth cael hyd i dŷ yn yr ardal.
  • Os ydych yn gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog yng Ngwynedd.  

Mwy o wybodaeth  

Bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi i drafod y cais ac i gwblhau asesiad. Fel rhan o'r asesiad byddwn yn trafod gwybodaeth eich cais, gan gynnwys y dogfennau cefnogol. Yna bydd aelod o'r tîm yn gadael i chi wybod am ganlyniad yr asesiad. 

Os ydych angen addasu eich cais, bydd angen i chi gysylltu â ni:  

Os bydd eich amgylchiadau yn newid mae angen i chi adael i ni wybod. Yr ymgeisydd sy'n gyfrifol am ddiweddaru'r wybodaeth yn y cais.   

Mae’r galw am dai cymdeithasol yn uchel iawn ac mae’r nifer o bobl sy’n gwneud cais ac yn aros am eiddo yn llawer uwch na nifer yr eiddo sydd ar gael. Nid oes unrhyw ffordd o wybod pa mor hir fydd y broses i unigolion. Mae'r cyfan yn dibynnu ar bryd y daw eiddo ar gael a faint o ymgeiswyr sydd eisiau/angen tŷ yn yr ardal honno. 

Pan ddaw eiddo ar gael, bydd rhestr yn cael ei gynhyrchu o’r Gofrestr Tai. Bydd ymgeiswyr sydd wedi dewis yr ardal, y math hwnnw o eiddo a nifer yr ystafelloedd gwely yn cael eu rhoi ar restr fer yr eiddo. Bydd ymgeiswyr yn cael eu blaenoriaethu yn ôl bandiau, cysylltiad cymunedol ac amser aros. 

Os ydi’r tŷ yn un o’r ardaloedd yr ydych wedi eu dewis does dim angen i chi roi eich enw ymlaen. Byddwch yn cael eich ystyried yn awtomatig am eiddo sy’n cyd-fynd gyda’r dewisiadau yr ydych chi wedi eu nodi yn eich cais. 

 

Mae’r galw am dai cymdeithasol yn uchel iawn yng Ngwynedd. Bydd rhaid i chi ymuno â rhestr aros am gartref, ac nid oes sicrwydd y bydd eiddo ar gael i chi.  

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol efallai y byddwch yn gallu ystyried opsiynau tai eraill. 

Opsiynau rhentu cartref


Os ydych yn ddigartref neu mewn peryg o fod yn ddigartref
 cysylltwch gyda Gwasanaeth Digartrefedd Cyngor Gwynedd am gyngor a chefnogaeth. 

Gwasanaeth digartrefedd 

Close

 

 

Cysylltu â ni 

Am fwy o wybodaeth neu gymorth, cysylltwch â ni: