Bilio electronig
Gallwch ddewis derbyn eich bil Treth Cyngor drwy e-bost yn hytrach na derbyn eich bil drwy'r post.
Mae hon yn ffordd fwy cyflym ac effeithlon o dderbyn eich bil neu unrhyw hysbysiadau eraill, ac mae’n fwy caredig i’r amgylchedd.
Cofrestru i dderbyn bil drwy e-bost
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Byddwn yn cadarnhau derbyn eich cais o fewn 10 diwrnod gwaith. Wedi i chi gofrestru byddwn yn anfon e-bost atoch pan fydd bil newydd ar gael, neu os bydd addasiad i’ch bil.
Sut ydw i'n canslo derbyn fy mil drwy e-bost?
Os ydych yn penderfynu eich bod eisiau mynd yn ôl i'r drefn o dderbyn bil drwy'r post, rhowch wybod i ni: rhoi'r gorau i filio electronig
Wedi newid eich cyfeiriad e-bost?
Rhowch wybod os ydych yn newid eich cyfeiriad e-bost drwy ail-lenwi'r ffurflen bilio electronig gyda'ch manylion newydd.
Beth arall ddylwn i ei wybod ynghylch derbyn fy mil drwy e-bost?
Os bydd bil sy'n cael ei anfon i chi drwy e-bost yn cael ei ddychwelyd i ni fel e-bost 'heb ei anfon' ddwy waith ni fyddwn yn anfon bil drwy e-bost i chi eto. Byddwn yn rhoi eich manylion yn ôl ar y rhestr i dderbyn bil drwy'r post. Pe baech chi eisiau derbyn eich biliau drwy e-bost eto byddai'n rhaid i chi lenwi'r ffurflen ar-lein eto.