Cronfa-Ysgoloriaeth-Morgan

Gallwch chi wneud cais am help ariannol gan gronfa Ysgoloriaeth Morgan os ydych chi -

  • o dan 25 oed
  • yn byw yn Wardiau Abersoch a Llanengan
  • ac yn astudio cwrs addysg uwch mewn prifysgol neu sefydliad addysg uwch
  • neu ar gwrs preswyl mewn coleg oddi cartref.

Mae'r Ysgoloriaeth hon yn dibynnu hefyd ar incwm eich cartref.

 

Gwneud cais

 

Lawrlwythwch y  Ffurflen gais   a'i gyrru at: 

Gwasanaethau Adnoddau Addysg 
Cyngor Gwynedd
Swyddfa'r Cyngor
Stryd y Jêl
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SH

 

neu cysylltwch â'r

Cynghorydd Dewi Roberts (Abersoch), 
Cesail y Coed,
Llanengan,
Abersoch
LL53 7LH

Rhif ffôn symudol:  07796797062

Rhif ffôn: 01758 713893

E-bost: Cynghorydd.DewiRoberts@gwynedd.llyw.cymru