Adolygu Darpariaeth Addysg Bangor

Cynyddu capasiti Ysgol y Garnedd

Ar ddydd Mawrth 6 Tachwedd, 2018, cymeradwyodd Cabinet Cyngor Gwynedd y cynnig i gynyddu capasiti Ysgol y Garnedd i 420 o ddisgyblion blynyddoedd Derbyn i 6, a 30 disgybl Meithrin llawn amser drwy drosglwyddo’r ysgol i adeilad newydd sydd i’w godi ar safle ger llaw yr adeilad presennol, a hynny yn weithredol o 1 Medi, 2020.

O ganlyniad i effaith y sefyllfa argyfyngus Covid-19 ar y gwaith adeiladu, byddai’n afresymol o anodd i weithredu’r cynnig ar y dyddiad gwreiddiol. Y rheswm dros hyn yw:

  • Roedd cyfnod o 6 wythnos lle nad oedd gwaith adeiladu yn mynd ymlaen ar y safle o ganlyniad i’r cyfnod clo.
  • Wedi i’r gwaith ailgychwyn, bu rhaid i’r contractwr gyflwyno mesurau i gydymffurfio a chanllawiau pellhau cymdeithasol y Llywodraeth a olygir fod llai o weithwyr yn gallu bod ar y safle nag oedd cyn y cyfnod clo.

Ar y 16 Gorffennaf 2020, hysbyswyd yr holl randdeiliaid ac ymgyngoreion o’r oediad, ac y byddai’r Awdurdod yn anelu i agor yr ysgol newydd pan fydd disgyblion yn dychwelyd ar ôl hanner tymor yr Hydref 2020, a hynny yn ddibynnol ar y sefyllfa gyda’r pandemic dros y misoedd nesaf.

 

Ar ddydd Mawrth, 6 Tachwedd 2018, bu i Gabinet Cyngor Gwynedd gwrdd i ystyried argymhelliad i weithredu ar y cynnig i gau Ysgol Glanadda ac Ysgol Babanod Coed Mawr ar 31 Awst 2020, a chynnig lle i’r disgyblion yn Ysgol y Garnedd (yn ddarostyngedig i ddewis rhieni); a chynyddu capasiti Ysgol y Garnedd i 420 yn weithredol 1 Medi 2020.

Daw hyn yn dilyn cynnal cyfnod gwrthwynebu ar y cynnig rhwng 4 Medi a 2 Hydref 2018.

Mae’r adroddiad llawn wedi ei gyhoeddi ar dudalen y Cabinet 6 Tachwedd 2018 (eitem 6).

Yn dilyn ystyriaeth fanwl o’r cynnig, penderfynodd Cabinet y Cyngor:

Gweithredu ar y cynnig a gyhoeddwyd 4 Medi 2018 i gau Ysgol Glanadda a Babanod Coed Mawr ar 31 Awst 2020, a chynnig lle i’r disgyblion yn Ysgol y Garnedd (yn ddarostyngedig i ddewis rhieni); a chynyddu capasiti Ysgol y Garnedd i 420 yn weithredol 1 Medi 2020.

Yn unol â chyfansoddiad Cyngor Gwynedd, daeth penderfyniad y Cabinet yn weithredol ar 21 Tachwedd 2018 a cyhoeddwyd a cylchredwyd llythyr penderfyniad i’r holl ran-ddeiliaid.

Gwybodaeth bellach:

Yn dilyn cynnal cyfnod o ymgynghori statudol yn ymwneud ag ysgolion y Garnedd, Babanod Coedmawr a Glanadda, adroddwyd i Gabinet y Cyngor ar 3 Gorffennaf 2018.

 

Penderfynodd y Cabinet:

  1. Cymeradwyo'r cynnig i gau Ysgolion Glanadda a Babanod Coed Mawr ar 31 Awst 2020, a chynnig lle i’r disgyblion yn Ysgol y Garnedd (yn ddarostyngedig i ddewis rhieni); a chynyddu capasiti Ysgol y Garnedd i 420.
  2. Cymeradwyo cyhoeddi rhybuddion statudol ar y cynnig uchod yn unol â gofynion Adran 48 o ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.

Yn unol â’r penderfyniadau uchod, cyhoeddwyd Rhybudd Statudol ar 4 Medi 2018

Gall unrhyw un wrthwynebu'r cynnig o fewn cyfnod o 28 diwrnod o ddyddiad cyhoeddi'r rhybudd hwn, hynny yw erbyn 2 Hydref 2018.

Dylid anfon gwrthwynebiadau ysgrifenedig at sylw’r Pennaeth Addysg:

Cyngor Gwynedd, 
Swyddfa’r Cyngor, 
Caernarfon, 
Gwynedd, 
LL55 1SH

neu drwy anfon neges e-bost at sylw’r Pennaeth Addysg: 
moderneiddioaddysg@gwynedd.llyw.cymru

Cynhaliwyd ymgynghoriad statudol ar ddyfodol ysgolion dalgylch Bangor; yn benodol Ysgol y Garnedd, Ysgol Babanod Coedmawr ac Ysgol Glanadda rhwng 10 Ebrill – 22 Mai 2018. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 22 Mai 2018, a cyflwynwyd y sylwadau a dderbyniwyd mewn adroddiad i Gabinet Y Cyngor ar 3 Gorffennaf 2018.

Gweler isod gopi o’r adroddiad a’r atodiadau.

Penderfynodd Cabinet Cyngor Gwynedd mewn cyfarfod ar 13 Mawrth 2018 i ymgymryd â phroses ymgynghori statudol ar ddyfodol ysgolion dalgylch Bangor; yn benodol Ysgol y Garnedd, Ysgol Babanod Coedmawr ac Ysgol Glanadda.

Bu cyfnod o ymgynghori Statudol rhwng 10 o Ebrill a 22 o Fai 2018.

Mae’r ddogfen ymgynghori statudol, pecyn cefndirol a’r holl ddogfennau perthnasol ar gael isod:

Os ydych angen copïau caled o unrhyw ddogfen mae croeso i chi gysylltu â ni drwy ffonio (01286) 679247 neu e-bostio moderneiddioaddysg@gwynedd.llyw.cymru

Cyn yr haf, sefydlwyd Panel Adolygu Dalgylch i drafod darpariaeth addysg yn nalgylch Bangor. Cynhaliwyd dau gyfarfod cyn yr haf ac mae dau arall wedi cael eu trefnu ar gyfer 11 Medi a 2 Hydref 2017. 

Mae’n rhaid i’r awdurdod adolygu darpariaeth addysg yn y dalgylch yn bennaf oherwydd datblygiad tai newydd Goetre Uchaf yn yr ardal a’r ffaith bod angen mwy o le yn rhai o ysgolion y dalgylch.

Bydd yr amcanion isod hefyd yn sail i’r adolygiad yn nalgylch Bangor:
  • Sicrhau digon o lefydd ar gyfer bob plentyn yn y llefydd cywir
  • Sicrhau nad oes unrhyw ysgol yn orlawn
  • Sicrhau nad oes unrhyw ysgol yng nghyflwr C neu waeth
  • Lleihau llefydd gweigion sylweddol mewn ysgolion neu gynyddu effeithiolrwydd
  • Lleihau amrediad cost y pen ar gyfer darparu addysg yn yr ardal
  • Sicrhau bod maint dosbarthiadau yn addas mewn ysgolion cynradd
  • Cysoni ansawdd addysg yn yr ardal
  • Sicrhau nad oes unrhyw bennaeth yn treulio rhagor na 20% o’i amser yn dysgu
  • Datblygu defnydd ysgolion fel adnodd cymunedol
  • Gwella darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol yn yr ardal

Bydd y Panel Adolygu Dalgylch yn ystyried y cyfleoedd a’r opsiynau sydd ar gael yn y dalgylch a bydd Cabinet Cyngor Gwynedd yn caniatáu proses ymgynghori statudol ar ôl i gyfarfodydd y Panel ddod i ben ac ar ôl i’r holl opsiynau ar gyfer y dalgylch gael eu hystyried.  Mae’r Panel wedi cyfarfod ddwywaith cyn yr haf ac wedi dechrau trafod yr holl opsiynau posib sydd ar gael ar gyfer Bangor.  Bydd cyfarfodydd y Panel yn parhau ym mis Medi er mwyn blaenoriaethu’r opsiynau a chytuno ar yr opsiwn ffafredig. 

 

Aelodaeth y Panel

  • Pennaeth bob ysgol yn y dalgylch
  • Cadeirydd corff llywodraethu bob ysgol
  • Rhiant lywodraethwr o bob ysgol
  • Cynrychiolaeth o’r Eglwys yng Nghymru
  • Cynrychiolaeth o’r Eglwys Gatholig

 

Ymgynghori â Phlant a Phobl Ifanc

Bydd yr awdurdod yn ymgysylltu ac ymgynghori gyda phlant a phobl ifanc ysgolion Bangor unwaith y bydd y Panel wedi ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael ar gyfer yr ardal.

 

Mwy o wybodaeth: