Ysgol newydd yng Nghricieth

Arwyddo'r trawst

Mae’r gwaith yn dod yn ei flaen yn dda ar y prosiect £8 miliwn i adeiladu ysgol ar safle newydd yng Nghricieth. Yn ddiweddar cymrodd disgyblion o’r ysgol bresennol ran mewn seremoni arwyddo trawstiau i nodi cwblhau’r gwaith ar fframiau to adeilad yr ysgol newydd. 

Cricieth

Mae’r ysgol newydd yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru drwy’r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy a Chyngor Gwynedd, a bydd ganddi le i 150 o ddisgyblion mewn chwe ystafell ddosbarth, neuadd, cegin ac ystafell amlbwrpas. Pan fydd yn agor ym mis Medi 2024, bydd y cyfleuster newydd hefyd yn cynnwys Uned Blynyddoedd Cynnar ac Uned Asesu Dysgu Ychwanegol.   

 

Torri'r dywarchen

Cafodd seremoni ei chynnal yng Nghricieth yn ddiweddar i ddathlu dechrau gwaith adeiladu ar safle newydd Ysgol Treferthyr, gyda’r Cynghorydd Beca Brown, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd a chriw o ddysgwyr yr ysgol yn torri’r dywarchen.

Llun torri'r dywarchen

Dywedodd y Cynghorydd Beca Brown,

"Rwy'n falch iawn o weld gwaith yn dechrau ar yr ysgol newydd a fydd, pan fydd wedi'i orffen, yn darparu cyfleusterau modern i blant Cricieth ac yn caniatau iddynt gyrraedd eu llawn botensial.

Bydd yr ysgol newydd yn cynnwys chwe ystafell ddosbarth gyda mynediad allanol, neuadd, cegin ac ystafell amlbwrpas. Bydd gan yr ardal allanol arwynebedd caled ar gyfer chwarae, ardal gemau aml-ddefnydd a chae chwarae gwair. 

Er bod yr hen ysgol wedi bod yn nodwedd boblogaidd o'r dref, rwy'n hyderus bydd y dysgwyr, eu teuluoedd a'r staff dysgu wrth ei boddau gyda'r ysgol newydd." 

 

Darllen mwy

Yn 2021 cyflwynwyd cais cynllunio i Wasanaeth Cynllunio’r Cyngor yn dilyn cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru o’r cyllid a chaniatâd gan Gabinet y Cyngor i adeiladu Ysgol Treferthyr newydd.

Fodd bynnag, oherwydd cyfuniad o resymau, mae'r amserlen ar gyfer adeiladu wedi llithro rhywfaint o'r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol. Roedd angen archwiliad archeolegol o’r safle ynghyd â gwaith pellach mewn cydweithrediad ag Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol y Cyngor ar gynlluniau ar gyfer llwybrau diogel i’r ysgol newydd.

Derbyniwyd caniatâd cynllunio ym mis Medi 2022 ar ôl cwblhau’r gwaith ychwanegol yma.

Ffactor arall a gyfrannodd at y llithriad yn yr amserlen oedd y gwelwyd cynnydd cyson a sylweddol ym mhrisiau deunyddiau, ynni ac ati yn y maes adeiladu yn ystod y cyfnod hwn a olygai nad oedd y gyllideb o tua £5m ar gyfer y prosiect bellach yn ddigonol.

Felly, yn dilyn y caniatâd cynllunio, cyflwynwyd cais i gynyddu’r gyllideb i ychydig dros £8m ac fe gymeradwywyd hyn gan Gabinet y Cyngor a Llywodraeth Cymru. Yn ogystal â hyn mae'r Cyngor hefyd wedi sicrhau cyllid ychwanegol trwy amryw grantiau eraill gan Lywodraeth Cymru i gynnwys uned Blynyddoedd Cynnar ac Uned Asesu Dysgu Ychwanegol yn Ysgol Treferthyr newydd.

Dyddiad agor

Yn anffodus mae’r materion a soniwyd amdanynt uchod wedi golygu bod y gwaith ar y safle wedi cychwyn yn hwyrach, ac o ganlyniad bydd angen newid y dyddiad agor ar gyfer yr ysgol newydd. Yn dilyn trafodaethau gyda Chorff Llywodraethol Ysgol Treferthyr, cytunwyd i newid y dyddiad agor i 1 Medi 2024. 

Cynhaliwyd cyfnod gwrthwynebu statudol rhwng 24 Chwefror a 24 Mawrth 2021 ar y cynnig i gynyddu capasiti Ysgol Treferthyr i 150 ac adleoli’r ysgol i safle amgen y cyfeirir ato fel safle A497 ar 1 Medi 2023. Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiad i’r cynnig.

Ar ddydd Mawrth 18 Mai 2021, cymeradwyodd Cabinet Cyngor Gwynedd y cynnig a roddwyd drwy rybudd statudol, i gynyddu capasiti Ysgol Treferthyr i 150 ac adleoli’r ysgol i safle amgen y cyfeirir ato fel safle A497 ar 1 Medi 2023, yn unol ag Adran 53 o’r Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion 11/2018.

Mae’r adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet ar 18 Mai 2021 yn ymhelaethu ar y cefndir, yr ymgynghori a’r broses statudol. Mae’r adroddiad i’w weld isod.

Yn dilyn ystyriaeth o’r cynnig gan Cabinet Cyngor Gwynedd “cadarnhawyd yn derfynol y cynnig a roddwyd drwy rybudd statudol, i gynyddu capasiti Ysgol Treferthyr i 150 ac adleoli’r ysgol i safle amgen y cyfeirir ato fel safle A497 ar 1 Medi 2023, yn unol ag Adran 53 o’r Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion 11/2018.”  

Daeth penderfyniad y Cabinet yn weithredol ar 2 Mehefin 2021 ac mi gyhoeddwyd a cylchredwyd llythyr penderfyniad i’r holl ran-ddeiliaid.

 

Gwybodaeth pellach:

Yn unol â’r penderfyniadau uchod, cyhoeddwyd Rhybudd Statudol ar 24 Chwefror 2021.

Gall unrhyw un wrthwynebu'r cynnig o fewn cyfnod o 28 diwrnod o ddyddiad cyhoeddi'r rhybudd hwn, hynny yw erbyn 24 Mawrth 2021.

Dylid anfon gwrthwynebiadau ysgrifenedig at sylw:

Pennaeth Addysg
Cyngor Gwynedd
Swyddfa’r Cyngor
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SH

neu drwy anfon neges e-bost at sylw’r Pennaeth Addysg:

moderneiddioaddysg@gwynedd.llyw.cymru 

 

Adroddiadau ac atodiadau:

Os ydych angen copïau caled o unrhyw ddogfen mae croeso i chi gysylltu â ni drwy ffonio (01286) 679640 neu e-bostiwch moderneiddioaddysg@gwynedd.llyw.cymru

Yn dilyn cyfres o gyfarfodydd lleol gyda Panel Adolygu Lleol i drafod opsiynau posib ar gyfer ysgol newydd yng Nghricieth, penderfynodd Cabinet Cyngor Gwynedd mewn cyfarfod ar 13 Hydref 2020 i ymgymryd â phroses ymgynghori statudol, yn unol â gofynion adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, ar y cynnig i gynyddu capasiti Ysgol Treferthyr i 150 ac adleoli’r ysgol i safle newydd, cyfeirir ato fel safle A497, ar 1 Medi 2023.

Bydd y cyfnod o Ymgynghori Statudol yn cael ei gynnal rhwng 6 Tachwedd 2020 a 18 Rhagfyr 2020.

Mae’r ddogfen ymgynghori statudol a’r holl ddogfennau perthnasol ar gael isod:

Os ydych angen copïau caled o unrhyw ddogfen mae croeso i chi gysylltu â ni drwy ffonio (01286) 679640 neu e-bostiwch moderneiddioaddysg@gwynedd.llyw.cymru

Yn dilyn cyfres o gyfarfodydd lleol gyda Panel Adolygu Lleol i drafod opsiynau posib ar gyfer ysgol newydd yng Nghricieth, penderfynodd Cabinet Cyngor Gwynedd mewn cyfarfod ar 13 Hydref 2020 i ymgymryd â phroses ymgynghori statudol, yn unol â gofynion adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, ar y cynnig i gynyddu capasiti Ysgol Treferthyr i 150 ac adleoli’r ysgol i safle newydd, cyfeirir ato fel safle A497, ar 1 Medi 2023. 

Dywedodd y Cynghorydd Cemlyn Rees Williams, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd: 

“Rydym yn falch iawn o sicrhau buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru drwy’r Rhaglen Ysgolion 21ain Ganrif ar gyfer adeiladu ysgol newydd yng Nghricieth. Golygir hyn y bydd plant Cricieth yn gallu mwynhau derbyn eu haddysg mewn adeilad modern sy’n addas i’w bwrpas ar gyfer addysgu a dysgu yn yr oes fodern hon.” 

Rhagwelir y bydd y cyfnod ymgynghori statudol yn dechrau yn yr wythnosau nesaf. Bydd y cyfnod ymgynghori yn rhoi cyfle i’r rhai sy’n gysylltiedig â’r ysgol yn ogystal ac unrhyw rai eraill i gyflwyno sylwadau ar y cynnig.

Yn dilyn penderfyniad Cabinet Cyngor Gwynedd ar 2 Ebrill 2019 mae Panel Adolygu Lleol wedi ei sefydlu i drafod ysgol newydd yng Nghricieth. Y bwriad ydi i’r Panel hwn drafod anghenion ysgol newydd yn y dref yn bennaf oherwydd cyflwr gwael Ysgol Treferthyr.

Bydd y Panel Adolygu Lleol yn ystyried y cyfleoedd a’r opsiynau sydd ar gael ar gyfer yr ysgol newydd gan yna ofyn i Gabinet Cyngor Gwynedd i ganiatáu proses ymgynghori statudol ar yr opsiwn ffafredig fydd wedi ei gytuno yn dilyn cwblhau cyfarfodydd y Panel. 

 

Mwy o wybodaeth:

Adroddiad Cabinet Ebrill 2019 (eitem 8)