Bwlio
Mae gan bob ysgol bolisi atal bwlio. Mae'r polisi'n cynnwys gwybodaeth fel:
- beth yw'r mathau gwahanol o fwlio (corfforol, geiriol, emosiynol ac ati)
- pwy i gysylltu â nhw os yw eich plentyn yn cael ei fwlio
- gwasanaethau sy'n cynnig cefnogaeth i ddisgyblion sydd yn cael eu bwlio
Am wybodaeth ychwanegol, neu i dderbyn copi o ganllawiau'r ysgol, cysylltwch â’r ysgol yn uniongyrchol. Am fanylion cyswllt ewch i'r Manylion Cyswllt Ysgolion.
Beth yw bwlio?
- ymddygiad niweidiol bwriadol sy’n parhau dros gyfnod o amser
- gall fod yn llafar, corfforol neu emosiynol
- gall ddigwydd yn yr ysgol neu y tu allan i’r ysgol
Mae bwlio yn golygu bod rhywun yn defnyddio eu pŵer dros rywun arall.
Gall olygu:
- bygythiadau a thrais corfforol
- galw pobl yn enwau
- gwneud niwed i eiddo
- peidio â chynnwys disgyblion mewn gweithgareddau cymdeithasol yn fwriadol
- lledaenu straeon
- negeseuon tecst neu e-bost cas
Nid bwlio yw. . .
- ffraeo gyda ffrindiau
- dadleuon dros dro
- profocio achlysurol
- cweryla
- ymddygiad niweidiol bwriadol sy’n parhau dros gyfnod o amser
- gall fod yn llafar, corfforol neu emosiynol
- gall ddigwydd yn yr ysgol neu y tu allan i’r ysgol
Mae bwlio yn golygu bod rhywun yn defnyddio eu pŵer dros rywun arall.
Gall olygu:
- bygythiadau a thrais corfforol
- galw pobl yn enwau
- gwneud niwed i eiddo
- peidio â chynnwys disgyblion mewn gweithgareddau cymdeithasol yn fwriadol
- lledaenu straeon
- negeseuon tecst neu e-bost cas
Nid bwlio yw. . .
- ffraeo gyda ffrindiau
- dadleuon dros dro
- profocio achlysurol
- cweryla
- mae 1 ym mhob 2 o ddisgyblion yn dweud eu bod wedi cael eu bwlio yn ystod tymor ysgol
- mae bron i hanner disgyblion ysgol uwchradd yn teimlo nad yw eu hathrawon yn ymwybodol bod bwlio yn mynd ymlaen
- dros y bum mlynedd ddiwethaf, bwlio yw’r rheswm mwyaf cyffredin dros ffonio Childline.
Siarad gyda’ch plentyn
Efallai na wnaiff eich plentyn ddweud wrthych ei fod yn cael ei fwlio ond efallai y bydd yn ddistaw, i’w weld yn anhapus a ddim eisiau mynd i’r ysgol.
Ceisiwch ddarganfod a oes problem drwy siarad gyda nhw am:
- eu gwaith ysgol
- eu ffrindiau
- beth maent yn ei wneud yn ystod amser chwarae ac amser cinio
- unrhyw broblemau neu bryderon sydd ganddynt
Gall darganfod bod eich plentyn yn cael ei fwlio fod yn anodd, ond ceisiwch beidio â chynhyrfu a siaradwch efo nhw am yr hyn sy’n digwydd:
- gwnewch nodyn o’r hyn y maent yn ddweud sydd wedi digwydd; pwy oedd yno, lle, pryd a pha mor aml
- cysurwch nhw eu bod wedi gwneud y peth iawn yn dweud wrthych chi
- dywedwch wrthynt am ddweud wrth athro am y bwlio ar unwaith
- cysylltwch gydag ysgol eich plentyn ynglŷn â’r bwlio a gofynnwch am weld eu polisi bwlio er mwyn i chi fod yn ymwybodol o’r hyn fydd yn digwydd
- cadwch mewn cysylltiad gyda’r ysgol; rhowch wybod iddynt os yw’r bwlio yn dod i ben neu’n dal i ddigwydd
- os yw’r bwlio yn ddifrifol, cysylltwch gyda’r heddlu; maent yn cymryd unrhyw adroddiadau o fwlio o ddifrif.
- gofynnwch iddynt ddangos unrhyw negeseuon y maent wedi eu derbyn i chi
- dywedwch wrthyt am beidio ymateb i fwli ar y rhyngrwyd, nac ymateb i negeseuon tecst ymosodol
- gwnewch yn siŵr mai dim ond sgyrsiau ar-lein sydd yn cael ei harchwilio y maent yn eu defnyddio
- os yw bwlio yn dechrau yn ystod sgyrsiau ar-lein, dywedwch wrthynt am roi’r gorau i’r sgwrs yn syth a dweud wrthych chi
- dywedwch wrthynt am beidio â rhannu eu manylion cyswllt personol ar-lein
Gall rhywun fod yn fwli heb hyd yn oed sylweddoli hynny. Gall eich plentyn fod yn fwli damweiniol drwy:
- anfon neges tecst cas am rywun i rywun arall
- chwerthin am sylwadau annifyr
- mae’n haws bod yn fwli damweiniol wrth ddefnyddio e-bost, negeseuon tecst ac ati gan nad yw’n gwneud dim yn uniongyrchol
Os yw eich plentyn yn bwlio
- efallai eu bod yn dynwared ymddygiad eraill yn y teulu, y gymuned neu ffrindiau
- gall eu ffrindiau fod yn eu hannog i fwlio
- gall eich plentyn fod yn mynd trwy gyfnod anodd ac felly’n ymddwyn mewn ffordd ymosodol tuag at eraill
Er mwyn atal eich plentyn rhag bwlio
- ceisiwch annog eich plentyn i gyfaddef beth y maent yn ei wneud – bydd yn anodd iddynt gyfaddef eu bod yn gwneud rhywbeth o’i le
- eglurwch i’ch plentyn nad yw’r ffordd y maent yn ymddwyn yn dderbyniol a’i fod yn gwneud i eraill deimlo’n anhapus
- ceisiwch annog eich plentyn i ymddiheuro i’r plentyn y maent wedi ei frifo
- dangoswch i’ch plentyn sut i chwarae gydag eraill heb fwlio
- cysylltwch gydag ysgol eich plentyn er mwyn trafod sut y gallwch weithio gyda’ch gilydd er mwyn diwedd ar y bwlio
- gofynnwch i’ch plentyn sut y mae pethau yn yr ysgol
- rhowch ganmoliaeth i’ch plentyn pan maent yn cydweithredu ac yn garedig gydag eraill
- ceisiwch annog eich plentyn i helpu eraill sy’n cael ei bwlio a’u hannog i ddweud wrth athro neu oedolyn y maent yn ymddiried ynddynt