Trwyddedau Perfformio

Trwyddedau Plant

Mewn rhai achosion bydd plentyn (o dan oedran gadael ysgol) angen trwydded perfformio os yn cymryd rhan yn un neu fwy o'r canlynol:

  • Ffilm, drama neu gyngerdd mae'r gynulleidfa yn talu i'w gwylio
  • Digwyddiad chwaraeon neu waith modelu ble mae plentyn yn derbyn cyflog.

Cyfrifoldeb y person sydd yn gyfrifol am gynnal y digwyddiad yw cysylltu â'r Cyngor i gael trwydded perfformio.

 

Sut ydw i'n gwneud cais?

Rhaid lawrlwytho ffurflen gais a'r holiadur meddygol a'u dychwelyd i'r cyfeiriad isod:

Cyfeiriad e-bost: 

Cyfeiriad: Swyddog Cefnogol Addysg, Gwasanaeth Disgyblion a Chynhwysiad, Adran Addysg, Swyddfeydd y Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon LL55 1SH

 

Gwybodaeth bellach

 

Trwyddedau Chaperone

Os na fydd rhiant, athro o'r ysgol neu diwtor cartref gyda phlentyn mae'n rhaid iddynt gael eu goruchwylio gan Chaperone sydd wedi ei gymeradwyo gan y Cyngor.  

 

Sut ydw i'n gwneud cais?

Rhaid lawrlwytho ffurflen gais a'r holiadur meddygol a'u dychwelyd i'r cyfeiriad isod:

  • Ffurflen Gais

Cyfeiriad e-bost: 

Cyfeiriad: Swyddog Cefnogol Addysg, Gwasanaeth Disgyblion a Chynhwysiad, Adran Addysg, Swyddfeydd y Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon LL55 1SH

 

Gwybodaeth bellach