Cychod pleser

Er mwyn llogi cychod pleser i'r cyhoedd yng Ngwynedd (yn cynnwys byrddau hwylio, cychod rhwyfo, canŵau, cychod modur, pedalos a chychod mwy) er defnydd personol neu er mwyn cludo teithwyr, mae angen trwydded. Ni chaniateir cludo mwy o deithwyr na'r hyn a nodir ar y drwydded.

Gall ffi fod am y drwydded. Gall amodau fod ar y drwydded.

Proses gwerthuso’r cais
Bydd y cwch yn cael ei archwilio ar y lan ac ar y dŵr er mwyn gwneud yn siŵr ei fod mewn cyflwr addas a bod yr offer priodol gennych. Bydd angen dangos dogfennau fel tystysgrif yswiriant hefyd.

Gwneud cais
Am ragor o wybodaeth a ffurflen gais, ffoniwch 01758 704066.

Deddfau perthnasol
Deddf Diwygio Deddfau Iechyd y Cyhoedd 1907 adran 94 

A fydd caniatâd dealledig yn berthnasol?
Na fydd. Er budd y cyhoedd mae’n ofynnol i’r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei ganiatáu. Os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn amser rhesymol, cysylltwch â hwy.

Gweithredu pan fydd cais yn methu
Cysylltwch â’ch awdurdod lleol yn gyntaf.

Os ydych yn dymuno apelio yn erbyn penderfyniad gallwch wneud hynny ymhen 2 ddiwrnod ar ôl y penderfyniad yn y Llys Ynadon lleol.

Camau gan ddeiliad trwydded
Cysylltwch â’ch awdurdod lleol yn gyntaf.

Os ydych yn dymuno apelio yn erbyn penderfyniad gallwch wneud hynny ymhen 2 ddiwrnod ar ôl y penderfyniad yn y Llys Ynadon lleol. Rhaid i chi roi 24 awr o rybudd o’ch bwriad i apelio.

Cwyn gan ddefnyddwyr
Os ydych, fel defnyddiwr, am wneud cwyn, ein cyngor fyddai i chi gysylltu â'r masnachwr - trwy lythyr (gyda phrawf danfon). Os na fydd hynny yn llwyddiannus, ac os ydych yn byw yn y DU, gall Cyngor ar Bopeth roi cyngor i chi. Y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewrop y DU (UK European Consumer Centre).

Cymdeithasau masnach
Association of Leading Visitor Attractions (ALVA)