Amgylchedd
Pennaeth yr Adran:
Dafydd Wyn Williams
Penaethiaid Cynorthwyol yr Adran:
Gareth Jones
Cyngor Gwynedd
Swyddfa'r Cyngor
Stryd y Jêl
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SH
E-bost: GarethJones3@gwynedd.llyw.cymru
Trosolwg am Wasanaethau Cynllunio, Rheolaeth Adeiladu a Gwarchod y Cyhoedd
Roland Thomas
Cyngor Gwynedd
Swyddfa'r Cyngor
Stryd y Jêl
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SH
E-bost: rolandthomas@gwynedd.llyw.cymru
Trosolwg am Wasanaethau Gwastraff ac Ailgylchu
Gerwyn Jones
Cyngor Gwynedd
Swyddfa'r Cyngor
Stryd y Jêl
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SH
E-bost: gerwynjones@gwynedd.llyw.cymru
Trosolwg am Wasanaethau Trafnidiaeth
Gwasanaethau Gwastraff ac Ailgylchu
Casglu gwastraff - Casglu gwastraff (domestig, masnachol, swmpus, clinigol, clytiau), ailgylchu a chompostio.
Trin gwastraff - Canolfannau ailgylchu, safle Caergylchu, gorsafoedd compostio (gwastraff gardd a bwyd), gwaredu gwastraff a throsglwyddo gwastraff.
Gwasanaethau Cynllunio
Ceisiadau Cynllunio
Gwasanaeth Cyngor cyn Cyflwyno Cais
Gorfodaeth Cynllunio
Polisi Cynllunio Tirwedd a Natur – yn cynnwys Bioamrywiaeth ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol
Apeliadau ac Ymchwiliadau Cyhoeddus
Cadwraeth Adeiladu
Cynllunio Mwynau a Gwastraff
Pridiannu Tir
Gwasanaeth Rheolaeth Adeiladu
Rheolaeth Adeiladu - Archwilio Cynlluniau ac Archwiliadau Safle
Cyngor Cyn Cyflwyno Cais
Partneriaeth LABC
Strwythurau Peryglus
Enwi Eiddo
Digwyddiadau Allanol
Gwasanaeth Siartredig
Gwobrau Rhagoriaeth Adeiladu LABC
Gwasanaethau Gwarchod y Cyhoedd
Safonau Masnach - Iechyd a Lles Anifeiliaid
Llygredd a Thrwyddedu
Bwyd a Diogelwch - Hylendid a Safonau Bwyd
Gwasanaethau Trafnidiaeth a Llwybrau
Cludiant Cyhoeddus
Teithio Llesol
Rheolaeth Traffig
Gwelliannau Ffyrdd a Strydoedd
Rheoli a Gorfodaeth Parcio
Cynnal a Gwella Rhwydwaith Llwybrau Cyhoeddus a Beicio - Llwybr yr Arfordir
Gwasanaethau Busnes
Contractau
Tendro a Pwrcasu, Cytundebau
Grantiau, Cyllid
Trwyddedu Gwaith Stryd
Gweinyddu
Mwy o wybodaeth...
Mae'r Uned yn gyfrifol am:
- roi cyngor arbenigol ar faterion yn ymwneud ag Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth
- adolygu Ardaloedd Cadwraeth Gwynedd (ac eithrio Parc Cenedlaethol Eryri)
- monitro Adeiladau Rhestredig
Rhagor o wybodaeth
Am ragor o wybodaeth neu gyngor cysylltwch â ni:
- Ar-lein: Ymholiad cyffredinol am gynllunio
Y tro cyntaf y byddwch yn cysylltu â ni ar-lein bydd angen i chi greu cyfrif. Bydd eich cyfrif yn eich galluogi i anfon ymholiad i ni, cadw golwg ar yr hyn sy'n digwydd i'ch ymholiad a'n galluogi ni i anfon ymateb i chi.
- Ffôn: 01766 771000
Mae’r Uned yn gyfrifol am:
- gynnig cyngor ar faterion cynllunio mwynau a gwastraff, e.e. gweithgareddau chwarelu, datblygiadau rheoli gwastraff fel cyfleusterau ailgylchu, compostio ac ati
- ymdrin â cheisiadau cynllunio ar gyfer gweithgareddau cloddio ac ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff. Gallwch gyflwyno cais drwy lawrlwytho'r ffurflen Cyflwyno cais cynllunio mwynau a gwastraff a'i phostio i'r cyfeiriad sydd ar y ffurflen
- monitro safleoedd i sicrhau cydymffurfiaeth gydag amodau
- ymchwilio i gwynion lle honnir bod rheolau cynllunio yn cael eu torri. Gweld polisi gorfodaeth Gwynedd
- rhoi mewnbwn i’r Cynllun Datblygu Lleol ar faterion polisi cynllunio mwynau a gwastraff
- rhoi mewnbwn i faterion cynllunio mwynau a gwastraff rhanbarthol a chenedlaethol
Am ragor o wybodaeth am y drefn gynllunio yng Ngwynedd, ewch i'r tudalennau Cynllunio.
Rhagor o wybodaeth
Am ragor o wybodaeth neu gyngor cysylltwch â ni:
- Ar-lein: Ymholiad cyffredinol am gynllunio
Y tro cyntaf y byddwch yn cysylltu â ni ar-lein bydd angen i chi greu cyfrif. Bydd eich cyfrif yn eich galluogi i anfon ymholiad i ni, cadw golwg ar yr hyn sy'n digwydd i'ch ymholiad a'n galluogi ni i anfon ymateb i chi.
- Ffôn: 01766 771000
- Rheolaeth Adeiladu - Archwilio Cynlluniau ac Archwiliadau Safle
- Cyngor Cyn Cyflwyno Cais
- Partneriaeth LABC
- Strwythurau Peryglus
- Enwi Eiddo
- Digwyddiadau Allanol
- Gwasanath Siartredig
- Gwobrau Rhagoriaeth Adeiladu LABC
Am ragor o wybodaeth ewch i: Rheolaeth Adeiladau
Mae’r Uned yn gyfrifol am:
- gynhyrchu Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer ardal awdurdod cynllunio lleol Cyngor Gwynedd
- monitro Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd
- cynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol
- darparu cyngor arbenigol (gan gynnwys cynghori ar geisiadau a chynigion cynllunio, materion gorfodaeth, apeliadau) ac ar ymatebion i ymgynghoriadau ar faterion Polisi Cynllunio i’r awdurdod, sefydliadau allanol ac i’r cyhoedd yn gyffredinol
- cynnal arolygon blynyddol o Argaeledd Tir Tai
- cyfrannu at ddatblygu Briffiau Datblygu a Strategaethau Datblygu
Rhagor o wybodaeth
Am ragor o wybodaeth ewch i'r adran Polisi Cynllunio neu cysylltwch â ni:
Mae’r Uned yn gyfrifol am:
- baratoi, gweithredu, monitro ac adolygu Cynllun Rheoli Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE)
- gweithio ar brosiectau i helpu i gynnal hunaniaeth unigryw Llŷn
- gweinyddu Cronfa Datblygu Gynaliadwy i ddarparu grantiau prosiect i gefnogi a hyrwyddo ffordd o fyw mwy cynaliadwy
- cynnal a chadw 5 Lôn Las - llwybrau pwrpasol ar gyfer cerdded a beicio
- cynnal a chadw Llwybr Arfordir Llŷn a gweithredu Cynllun Llwybr Arfordir Cymru ar gyfer Gwynedd
Rhagor o wybodaeth
Am ragor o wybodaeth ewch i: www.ahne-llyn-aonb.org
Mae'r Uned yn gyfrifol am:
- baratoi, gweithredu, monitro ac adolygu Cynllun Bioamrywiaeth Lleol ar gyfer ardal awdurdod cynllunio lleol Cyngor Gwynedd
- codi ymwybyddiaeth am faterion bywyd gwyllt a bioamrywiaeth drwy gynnal digwyddiadau’n cynnwys teithiau a sgyrsiau
- darparu cyngor arbenigol ar faterion bywyd gwyllt a bioamrywiaeth
Rhagor o wybodaeth
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â ni:
Mae’r Uned yn gyfrifol am:
- Hawliau Tramwy Cyhoeddus - llwybrau a thraciau y gallwch eu defnyddio i groesi tir preifat
- cynnal a chadw rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus Gwynedd
- sicrhau nad oes rhwystr ar unrhyw lwybr troed cyhoeddus, llwybr ceffylau, cilffordd gyfyngedig na chilffordd
- cynnal a chadw Llwybr Arfordir Llŷn a gweithredu Cynllun Llwybr Arfordir Cymru ar gyfer Gwynedd
Am wybodaeth am y gwasanaethau mae'r Uned Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn eu darparu, ewch i'r adran Hawliau Tramwy.
Rhagor o wybodaeth
Am ragor o wybodaeth neu gyngor cysylltwch â ni:
Gweld Cynllun Adran Amgylchedd 2022/23
Gweld Cynllun Adran Amgylchedd 2021/22
Gweld Cynllun Adran Amgylchedd 2020/21
Gweld Cynllun Adran Amgylchedd 2019/20