Llwybrau saff i Ysgol Treferthyr

Dyddiad: 17/07/2024

Mae’n amser cyffrous wrth i’r gwaith ar gwblhau cartref newydd Ysgol Treferthyr ddod i derfyn, a pharatoadau ar gyfer agor y safle i ddisgyblion ym mis Medi.

 

Fe gafodd y dysgwyr, staff a llywodraethwyr y cyfle i weld yr ysgol dydd Gwener, 12 Gorffennaf a roedd y Pennaeth yn adrodd eu bod wedi gwirioni a’r lle.

 

Fel rhan o’r paratoadau, mae gwaith yn digwydd i sicrhau fod y disgyblion a rhieni yn cyrraedd yr ysgol yn ddiogel o ran y llwybrau a ffyrdd sy’n arwain at Ysgol Treferthyr newydd.

 

Mae Cyngor Gwynedd hefyd wedi sicrhau arian grant a fydd yn galluogi cynlluniau i gyflwyno newidiadau pellach yn nhymor yr hydref.

 

n Fel Uchaf

Gyda nifer o ddisgyblion a rhieni yn debygol o fod yn defnyddio Lôn Fel Uchaf i gyrraedd safle’r ysgol newydd o fis Medi 2024, mae Cyngor Gwynedd wedi cyflwyno gorchymyn sy’n cyfyngu defnydd cerbydau ar y ffordd. Er mwyn hwyluso i blant a rhieni i allu cerdded a beicio i gyrraedd a gadael yr ysgol, bydd cerbydau modur wedi eu gwahardd rhag teithio ar hyd y ffordd o 8am tan 9.30am ac o 2.30pm tan 4pm o ddydd Llun i Gwener ac eithrio:

 

  • mynediad i eiddo ar y ffordd honno,
  • ar gyfer cerbydau amaethyddol sy'n cyrchu tir oddi ar y ffordd honno,
  • cerbydau yng ngwasanaeth yr awdurdod lleol yn unol â phwerau neu ddyletswyddau statudol,
  • cerbydau brys.

 

Y bwriad fydd annog plant a rhieni i ddefnyddio Lôn Fel Uchaf i gerdded a beicio yn ddiogel i’r ysgol. Ond gan fod y ffordd yn gul, anogir unrhyw ddisgybl neu rieni fydd yn cerdded neu feicio i gymryd gofal.

 

Bydd arwyddion i rybuddio defnyddwyr y ffordd o’r gwaharddiad yn cael eu gosod ar y ddau fynediad i Lôn Fel Uchaf.

 

Ffyrdd eraill

 

Mi fydd hefyd addasiadau i’r ffyrdd eraill sydd yn arwain i’r ysgol gan gynnwys nifer o arwyddion ffyrdd newydd i rybuddio gyrwyr eu bod yn dod at ysgol a bod plant yn cerdded i’r ysgol. Mi fyddwn hefyd yn creu croesfan cerddwyr dros dro ar gyfer mis Medi, hyd nes fydd croesfan parhaol wedi ei gwblhau.

 

Gwelliannau pellach

Mae Cyngor Gwynedd wedi sicrhau cefnogaeth grant o gronfeydd Teithio Llesol a Llwybrau Diogel mewn Cymunedau Llywodraeth Cymru yn ddiweddar er mwyn gwneud gwelliannau pellach yn ystod tymor yr hydref.

 

Bydd hyn yn cynnwys gwelliannau i lwybrau i gyfeiriad yr ysgol, er mwyn cefnogi cerdded a beicio diogel i’r ysgol.

 

Yn ogystal, mi fydd croesfan parhaol y cael ei greu ger yr ysgol er mwyn hwyluso disgyblion a rhieni i gerdded yn ôl ac ymlaen i’r ysgol.

 

Bydd lloches beiciau hefyd yn cael ei osod ar y safle fel rhan o ymdrechion i annog teithio llesol.