Galw ar bobl Gwynedd sydd mewn angen am dai i gofrestru gyda Tai Teg
Dyddiad: 31/10/2023
Mae Cynllun Gweithredu Tai Cyngor Gwynedd yn prysur ennill momentwm ac mae’r Cyngor yn annog pobl Gwynedd sydd mewn angen am dai i gofrestru gyda Tai Teg.
Amcan y Cynllun gwerth £140 miliwn yw cyfarch prinder tai'r sir a sicrhau bod trigolion Gwynedd yn cael mynediad at dai fforddiadwy, o safon, yn eu cymunedau eu hunain. Mae hyn yn cynnwys darparu dros 1000 o dai erbyn 2027.
Yn rhan o’i ddatblygiadau diweddar, mae Cyngor Gwynedd wedi cymryd cam sylweddol drwy brynu 16 o dai drwy'r cynllun Prynu i Osod. Y bwriad yw gosod y tai ar rent fforddiadwy i bobl leol sydd angen tai o'r fath. Erbyn mis Hydref 2023 mae eiddo wedi’u prynu mewn cymunedau ledled Gwynedd, gan gynnwys yn Nhywyn, Penrhyndeudraeth a Chaernarfon.
Fel rhan o gynllun Tŷ Gwynedd, mae’r Cyngor hefyd yn falch o ddatgan bod caniatâd cynllunio wedi ei dderbyn i adeiladu tri thŷ newydd yn Llanberis. Bydd y tai hyn yn dilyn egwyddorion 'Tŷ Gwynedd’, sef bod y tai yn fforddiadwy, addasadwy, cynaliadwy, ynni-effeithiol ac yn gwella llesiant y trigolion fydd yn byw yno. Mae datblygiadau eraill hefyd ar y gweill ym Morfa Nefyn a Bangor ynghyd â phryniant tir datblygu mewn mannau ar draws Gwynedd, gyda’r bwriad o adeiladu 90 o gartrefi Tŷ Gwynedd i bobl leol erbyn 2027.
Nod y cynlluniau uchelgeisiol hyn yw cynnig cartrefi fforddiadwy i’r nifer o bobl leol sy’n methu prynu neu rentu tŷ ar y farchnad agored ond sy’n annhebygol o fod yn gymwys am dai cymdeithasol.
Y cam cyntaf i bobl sydd am gofrestru am dŷ yw datgan diddordeb gyda Tai Teg, sef y corff sy’n gweinyddu cynlluniau tai fforddiadwy ar gyfer Cyngor Gwynedd, er mwyn:
· Gwneud ceisiadau am dai fforddiadwy unwaith y byddant ar gael
· Helpu i gynllunio datblygiadau’r Cyngor i’r dyfodol, gan y bydd yn dangos yn lle mae'r galw am dai fforddiadwy.
Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet dros Dai ac Eiddo Cyngor Gwynedd:
“Mae’r argyfwng tai dal i brofi i fod yn un o heriau mwyaf sy’n wynebu Cyngor Gwynedd ar hyn o bryd, ond mae’n hynod gyffrous gweld bod sawl un o brosiectau’r Cynllun Gweithredu Tai’r Cyngor erbyn hyn yn dwyn ffrwyth. Yn barod ‘dan ni wedi croesawu tenantiaid i rai o’n datblygiadau a dw i’n annog unrhyw un sydd mewn angen am dŷ neu sydd mewn tŷ anaddas ar hyn o bryd i fynd ati i gofrestru efo Tai Teg.
“Mae deall lle i fuddsoddi ein hamser a’n hadnoddau yn hollbwysig, ac mae cofrestru yn ein helpu ni i wneud penderfyniadau ar sail ffeithiau. Mae hon yn foment bwysig i’r Cyngor, gyda thai newydd yn cael eu hadeiladu am y tro cyntaf ers degawdau a llu o gynlluniau mewn lle i sicrhau tai i drigolion Gwynedd. Rhannwch eich anghenion gyda ni, rydym yma i flaenoriaethu pobl Gwynedd."
I weld y meini prawf ac i gofrestru diddordeb, mae’r holl wybodaeth ar gael ar wefan Tai Teg: www.taiteg.org.uk.