Cyngor Gwynedd yn cynnal digwyddiad recriwtio
Dyddiad: 13/06/2024
Mae Cyngor Gwynedd yn recriwtio ar gyfer swyddi cwbl newydd fydd yn helpu i warchod a meithrin plant a phobl ifanc bregus, a sicrhau eu bod yn cael aros yn agos i’w cynefin.
Mae gan Gyngor Gwynedd gynlluniau i agor cartref preswyl bychan ar gyfer plant yn ardal Morfa Bychan ac ar hyn o bryd yn edrych i recriwtio gweithwyr preswyl a dirprwy reolwr.
Cynhelir sesiwn galw heibio er mwyn rhoi cyfle i bobl sydd â diddordeb gweithio yn y maes ddod am sgwrs anffurfiol – i ddysgu mwy am y cyfleodd ac am y buddion o weithio i Gyngor Gwynedd. Mae hyn yn rhan o ymgyrch ehangach y Cyngor i ddenu mwy o bobl leol i weithio yn y maes gofal.
Mae croeso cynnes i unrhyw un sydd â diddordeb yn y maes i ddod i’r digwyddiad yng Ngwesty’r Royal Sportsman, Porthmadog ar ddydd Mercher, 26 Mehefin, 3-7pm.
Dywedodd Marian Parry Hughes, Pennaeth Adran Plant a Theuluoedd Cyngor Gwynedd: “Os ydych chi’n awyddus i wneud gwahaniaeth i fywydau plant yma yng Ngwynedd ac yn chwilio am her newydd, mae’n bosib fod y swyddi hyn yn ddelfrydol i chi. Dewch draw am sgwrs anffurfiol a dysgu mwy.
“Mae’r math yma o swyddi yn gallu rhoi boddhad mawr, a hefyd agor y drws i lwybr gyrfa diddorol i ffyniannus o fewn gwasanaethau cyhoeddus.
“Gyda heriau recriwtio staff cyffredinol yn y maes gofal, mae digwyddiad o’r fath yn ffordd dda i ni gwrdd â phobl sydd efallai angen mwy o wybodaeth cyn penderfynu i fwrw mlaen i wneud cais. Mae’n fuddiol hefyd i’r darpar ymgeiswyr er mwyn cael siarad â phobl sydd eisoes yn gweithio yn y maes a chael gwybodaeth hefyd am yr hyfforddiant a’r gefnogaeth sydd ar gael i staff newydd.
“Mae’r Cyngor yn cynnal digwyddiadau tebyg ar gyfer gwahanol gyfleoedd swyddi o fewn y maes gofal. Byddwn yn annog pobl sy’n awyddus i gymryd y cam nesaf mewn gyrfa o’r fath i gadw golwg am wybodaeth ar ein gwefan ac ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.”