Argyfwng Wcráin

Cymorth i bobl sydd yn cyrraedd Gwynedd o Wcráin

Llawlyfr Croeso i Wynedd - fersiwn Wcráin

Llawlyfr Croeso i Wynedd - fersiwn Gymraeg

Llinell gymorth:

  • O fewn y DU, y rhif yw: Rhadffôn: 0808 175 1508.
  • O’r tu allan i'r DU, y rhif ffôn yw: +44 20 4542 5671.

Helpu pobl Wcráin

Rydym yn ymwybodol bod pobl ar draws Gwynedd yn awyddus i helpu. Am wybodaeth a chyngor cliciwch ar y cysylltau isod:


Cynllun cartrefu ffoaduriaid

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi agor porth yn rhoi gwybodaeth i unigolion a sefydliadau sy’n dymuno cynnig cymorth i gartrefu ffoaduriaid o’r Wcrain.

Os ydych wedi eich derbyn fel noddwr yma yng Ngwynedd, a bod genych ymholiad am y camau nesaf cyswllt â noddwyrwcrain@gwynedd.llyw.cymru


Cynllun Teuluoedd o Wcrain – Y Groes Goch

Gweld yr wybdoaeth yn Wcrain neu Rwsieg

Mae’r Groes Goch Brydeinig yn darparu cymorth arbenigol ar gyfer anghenion ar ôl cyrraedd i aelodau teuluoedd o’r Wcráinsy’n cyrraedd trwy Gynllun Teuluoedd o Wcráin yng Nghymru. Maent yn helpu gyda:

  • Cyngor a chefnogaeth ar hawliau
  • Mynediad at wasanaethau tai
  • Mynediad at wasanaethau iechyd
  • Cefnogaeth ariannol a chyflogaeth
  • Mynediad at addysg
  • Cefnogaeth gydag integreiddio cymdeithasol
  • Cefnogaeth i agor cyfrif banc
  • Cofrestru gyda Meddyg Teulu
  • Cofrestru gydag ysgol
  • Cyfeirio at weithgareddau lleol

Manylion cyswllt:


Cofrestru busnes neu sefydliad i helpu ffoaduriaid

Os ydych chi'n gallu cynnig help fel busnes neu sefydliad, rhowch wybod am yr help y gallwch ei roi. Mae angen pethau fel:

  • llety ar raddfa fawr i ffoaduriaid a'u teuluoedd, fel gwestai a pharciau gwyliau
  • cludiant i fynd â phobl i'w cartrefi newydd
  • cyflenwadau fel bwyd, dillad a chynhyrchion iechydol
  • cyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd

Mwy o wybodaeth a chofrestru eich busnes sefydliad

Os oes gennych ymholiadau pellach, cysylltwch â Cyngor Gwynedd:  FfoaduriaidWcrain@gwynedd.llyw.cymru

 

Cwestiynau cyffredin

Mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu dau gynllun i helpu pobl i ddod i’r DU os ydynt yn ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin – y Cynllun Teuluoedd o Wcráin, i bobl sydd â chysylltiadau teuluol, a’r cynllun Cartrefi i Wcráin, ar gyfer y rheini sydd heb gysylltiadau teuluol yn y DU.

Gall pobl helpu drwy nifer o ffyrdd.

Mae llawer o’r llwybrau teithio ar gau a’r sustemau cludiant dan bwysau mawr, felly gallai anfon nwyddau ychwanegu at yr anawsterau ar lawr gwlad. Ond gyda rhoddion ariannol, bydd y sefydliadau sy’n ymateb i’r argyfwng yn gallu cael gafael ar y nwyddau brys yn lleol. Dylai unrhyw un sy’n gallu helpu ystyried gwneud rhodd ariannol i’r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau.

Gall pobl yng Nghymru gofrestru gyda’r cynllun Cartrefi i Wcráin, cynnig dod yn noddwr a chynnig lle yn eu cartref i rywun sy’n dianc rhag y rhyfel yn Wcráin fyw am o leiaf chwe mis. Bydd pobl sy’n cofrestru ar y cynllun drwy wefan Cartrefi i Wcráin yn  gallu cael eu paru gyda phobl sy’n ffoi o Wcráin ac yn dymuno dod i’r DU. Cawsom ein rhyfeddu gan garedigrwydd pobl Cymru hyd yn hyn – mae miloedd wedi cofrestru ar gyfer y cynllun i gynnig bod yn noddwyr.

Mae Llywodraeth Cymru’n cefnogi’r cynllun Cartrefi i Wcráin a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU. Byddwn ni’n uwch-noddwyr i’r cynllun hwnnw. Golyga hynny y byddwn yn noddi hyd at 1,000 o bobl o Wcráin yn ystod y cam cyntaf ond gallem dderbyn rhagor o bobl.

I ddechrau, bydd y bobl sy’n dod atom drwy’r trefniadau uwch-noddwr yn cael dod i un o’n canolfannau croeso, sy’n cael eu creu ledled Cymru. Oddi yno, cânt fynd i lety tymor-canolig neu fwy hirdymor. Bydd gwasanaethau cymorth ar gael i’r bobl sy’n cyrraedd Cymru – gan gynnwys iechyd, cwnsela a gwasanaethau arbenigol eraill.

Rydym yn cydweithio’n agos â’r awdurdodau lleol, gwasanaethau cyhoeddus Cymru a’r trydydd sector i gefnogi’r bobl sy’n cyrraedd drwy’r cynllun Cartrefi i Wcráin.

Rydym yn awyddus i wneud popeth y gallwn i warchod pobl Wcráin rhag ymyrraeth ddi-angen a lleihau eu gofid wrth iddynt gyrraedd Cymru. Rydym wedi gofyn i sefydliadau a’r cyfryngau beidio â datgelu lleoliad y canolfannau croeso a sefydlwyd gennym gyda chymorth mudiadau eraill.

Mae Cymru’n Genedl Noddfa. Mae croeso cynnes yng Nghymru i bawb sy’n dod yma o Wcráin

Dechreuodd y cynllun Cartrefi i Wcráin ar 18 Mawrth. Bydd Llywodraeth Cymru’n dod yn uwch-noddwr o 26 Mawrth ymlaen.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill am y cynllun Cartrefi i Wcráin, ewch i wefan Llywodraeth y DU. Os oes gennych gwestiynau am y Cynllun Teuluoedd o Wcráin, ewch i wefan Llywodraeth y DU.

Hefyd, mae gwefan Noddfa  yn rhoi llawer o wybodaeth yn Wcraineg a ieithoedd eraill ar gyfer y bobl sy’n cyrraedd Cymru o Wcráin.

Neu cysylltwch â Chyngor Gwynedd: ffoaduriaid@gwynedd.llyw.cymru

 

Gweld datganiad preifatrwydd