Telerau ac amodau: trwydded fan canolfan ailgylchu

  1. Er mwyn cael mynediad i Ganolfannau Ailgylchu Cyngor Gwynedd, rhaid cael Trwydded Fan ar gyfer cerbydau yn y categori N1 [Cerbydau wedi eu dylunio a’u hadeiladu i gludo nwyddau gydag uchafswm màs heb fod yn fwy na 3,5 tunnell gael trwydded].
  2. Os oes gan gerbydau yn y categori N1 ffenestri a seddi yn y cefn NID oes rhaid cael trwydded.
  3. Bydd Cyngor Gwynedd yn defnyddio gwybodaeth gyhoeddus gan y DVLA i wirio beth yw categori eich cerbyd.
  4. Rhaid cael cyfeiriad yng Ngwynedd i wneud cais am Drwydded Fan.

  5. Mae’r Drwydded yn rhoi mynediad i 8 Canolfan Ailgylchu Cyngor Gwynedd yn unig. Canolfannau Ailgylchu Cyngor Gwynedd 
  6. Mae’r Drwydded yn caniatáu i chi ddefnyddio Canolfannau Ailgylchu Cyngor Gwynedd i waredu gwastraff domestig yn unig.
  7. Ni chaniateir defnyddio Canolfannau Ailgylchu Cyngor Gwynedd ar gyfer gwaredu gwastraff masnachol.
    Os bydd amheuaeth eich bod yn gwaredu gwastraff masnachol, bydd Cyngor Gwynedd yn cysylltu â chi a gall eich Trwydded Fan gael ei diddymu.
  8. Mae Trwydded Fan yn caniatáu cyfanswm o 18 ymweliad i Ganolfannau Ailgylchu Cyngor Gwynedd mewn cyfnod o 12 mis.
  9. Mae’r cyfnod 12 mis yn cychwyn o’r diwrnod y gwneir y cais am drwydded.
  10. Ar ddiwedd y cyfnod 12 mis bydd y drwydded yn adnewyddu yn awtomatig.
  11. Nid yw’r drwydded yn drosglwyddadwy. Os ydych yn newid fan, ac felly gyda rhif cofrestru newydd, bydd rhaid gwneud cais am Drwydded 12 mis newydd.
  12. Rhaid archebu slot i gael mynediad i Ganolfannau Ailgylchu Cyngor Gwynedd gyda Thrwydded Fan. Telerau ac Amodau: Archebu slot yng Nghanolfannau Ailgylchu Cyngor Gwynedd
  13. Mae pob archeb am slot Canolfan Ailgylchu yn defnyddio 1 ymweliad ar eich Trwydded. Os ydych yn peidio defnyddio eich archeb am slot, heb ganslo’r archeb ymlaen llaw, bydd yn defnyddio 1 ymweliad ar eich Trwydded. Os ydych yn canslo eich archeb am slot ymlaen llaw, ni fydd unrhyw ymweliadau ar eich Trwydded yn cael eu defnyddio.
    Gellir canlso slot drwy e-bostio fynghyfrif@gwynedd.llyw.cymru neu ffonio 01766 771000.

Archebu slot canolfan ailgylchu